Ar gyfer y Diwrnod Gwyrdd, mae canllaw hwn yn trafod sut gallwch chi weithredu erbyn datgoedwigo. I lawr lwytho fersiwn PDF o’r Canllaw, cliciwch yma.
Ceirios coffi wedi’u cynaeafu © Jenipher’s Coffi
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Ceirios coffi wedi’u cynaeafu © Jenipher’s Coffi
Camau i ddileu datgoedwigo trofannol o’ch deiet, boed gartref, yn y gwaith neu yn yr ysgol.
Cig eidion: Clirio coedwigoedd ar gyfer gwartheg yw prif achos datgoedwigo trofannol, yn enwedig yn Ne America. Yn yr Amazon, amcangyfrifir bod tua 80% o ddatgoedwigo wedi digwydd i greu porfeydd ar gyfer gwartheg sy’n pori. Nid yw hyn yn cynnwys faint o dir sydd yn cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau, fel soi, i fwydo’r gwartheg. Mae llawer o’r cig eidion hwn yn cael ei fewnforio i Gymru ar ffurf corn-bîff a chig eidion wedi’i brosesu e.e. byrgyrs.
Cig: Soi wedi’i fewnforio, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i fwydo anifeiliaid sy’n cael eu magu yng Nghymru, yn enwedig ieir a moch, yw’r ail beth mwyaf sy’n sbarduno datgoedwigo trofannol, yn enwedig yn Ne America. Felly, drwy fwyta cig o anifeiliaid sy’n cael eu magu ar soi o ardaloedd risg uchel, rydym yn cyfrannu’n anuniongyrchol at y broblem o ddatgoedwigo, heb wybod hynny.
Felly, drwy leihau eich cymeriant cyffredinol o gig, byddwch yn helpu i leihau eich ôl troed coedwig hefyd.
Pan fyddwch yn bwyta cig, chwiliwch am logo Organig Cymdeithas y Pridd neu am y logo Pasture for Life, sy’n gwarantu cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth sy’n cael eu pesgi 100% ar borfa, ac sy’n cael gwared â’r angen i’w bwydo nhw gyda soi a allai fod yn gysylltiedig â datgoedwigo trofannol. Mae prynu cynnyrch cig eidion organig neu gynnyrch sy’n cael eu pesgi 100% ar borfa, yn lleihau’r effaith ar goedwigoedd trofannol yn sylweddol hefyd.
Mae bwyta amrywiaeth eang o ffrwythau, llysiau, codlysiau, cnau a hadau yn gallu eich helpu i leihau faint o gig rydych chi’n ei fwyta a faint o soi rydych chi’n ei fwyta drwy gynnyrch anifeiliaid. Mae codlysiau protein uchel fel ffa, ffacbys, corbys a phys a dewisiadau protein amgen, fel tofu organig a tempeh (wedi’u gwneud o ffa soia organig), yn uchel mewn protein, calsiwm, haearn a ffibr, sy’n ffordd wych o ychwanegu at eich deiet wrth leihau eich cymeriant cig.
I gynyddu’ch effaith, chwiliwch am gynnyrch tymhorol a chynnyrch a dyfir yn lleol, sydd nid yn unig yn cefnogi tyfwyr lleol, ond sy’n helpu i leihau’r milltiroedd teithio sy’n gysylltiedig â chynnyrch a fewnforiwyd a’r ynni sydd ei angen i dyfu cynnyrch y tu allan i’r tymor. Mae dewis cynnyrch organig ardystiedig hyd yn oed yn well, gan fod hyn yn gwarantu dulliau ffermio sy’n ystyriol o natur.
A chofiwch, mae amrywiaeth yn bwysig! Mae amrywiaeth gyfoethog o blanhigion nid yn unig yn well ar gyfer ecosystemau natur, ond mae’n helpu i gefnogi microbiome perfedd iach – hynny yw, yr holl facteria cyfeillgar sy’n byw yn eich perfedd. Mae ymchwil yn awgrymu y dylem fod yn bwyta o leiaf 30 o wahanol blanhigion yr wythnos i gefnogi microbiome iach – ein hecosystem fewnol ein hunain!
Nid yn unig y mae bwydydd wedi’u prosesu’n sylweddol ar y cyfan yn ddrwg i’n hiechyd, ond maen nhw’n aml yn ddrwg i iechyd coedwigoedd hefyd. Fel y soniwyd yng Ngham 1, mae cig eidion wedi’i brosesu o Dde America a chig a llaeth o anifeiliaid sy’n cael eu magu ar soi, yn cael effaith enfawr ar goedwigoedd trofannol. Drwy osgoi bwydydd wedi’u prosesu, fel prydau parod, mae gennych fwy o ddewis dros y math o gig a llaeth rydych chi’n ei fwyta. Yn ogystal, mae llawer o fwydydd wedi’u prosesu yn cynnwys olew palmwydd o ffynonellau anghynaliadwy, sy’n gyfrifol am rannau enfawr o ddatgoedwigo yn Ne Ddwyrain Asia. Yn Indonesia yn unig, planhigfeydd palmwydd oedd yn gyfrifol am hyd at naw y cant o allyriadau byd-eang rhwng 2000 a 2010.
Gellir dod o hyd i olew palmwydd a’i ddeilliadau mewn dros 50% o gynnyrch wedi’u pecynnu yn ein harchfarchnadoedd, sy’n amrywio o fwydydd i gynnyrch cartref a chynnyrch y corff. Mae’n anhygoel o anodd ei osgoi, gyda dros 200 o enwau sy’n ei gwneud bron yn amhosibl i’w gweld yn y rhestr cynhwysion.
Mae gan olew palmwydd fywyd silff hir ac mae’n gynhwysyn amlbwrpas iawn, gyda blas ac aroma niwtral, sy’n ei wneud yn gynhwysyn delfrydol wrth baratoi llawer o fwydydd – a dyma pam mae’n cael ei ddefnyddio’n eang.
Er bod llawer o sefydliadau wedi galw i foicotio olew palmwydd, byddai newid i ddefnyddio cnydau olew eraill yn gofyn am lawer mwy o dir i gynhyrchu’r un faint o olew, a fyddai’n arwain at fwy o ddatgoedwigo a diraddio amgylcheddol. Felly, pan fyddwch allan yn siopa, chwiliwch am logo’r Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy (RSPO), sydd bellach yn cynnwys meini prawf datgoedwigo pellach. Mae Sŵ Gaer wedi llunio’r rhestr siopa ddefnyddiol hon o frandiau cyffredin sy’n dod o hyd i 100% o’u holew palmwydd drwy gadwyni cyflenwi ffisegol ardystiedig yr RSPO.
Am fwy o wybodaeth am olew palmwydd ac ardystiad RSPO, gwelwch ein Cerdyn Nwyddau Olew Palmwydd.
Mae Masnach Deg nid yn unig yn sicrhau prisiau teg ac amodau gwaith teilwng i ffermwyr a gweithwyr yn y De Byd-eang, ond mae hefyd yn sicrhau cynaliadwyedd lleol ac yn diogelu’r amgylchedd. Drwy hyfforddiant, mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i newid i arferion sy’n fwy ecogyfeillgar, fel annog bywyd gwyllt i helpu i reoli plâu a chlefydau. Mae Masnach Deg wedi cynnwys meini prawf dim datgoedwigo ers 2019 hefyd.
Felly, drwy ddewis cynnyrch Masnach Deg, fel coffi a choco, gallwn gefnogi ffermwyr, gweithwyr a’u teuluoedd, a’u helpu i addasu a goroesi’r argyfwng hinsawdd yn well, tra’n lleihau datgoedwigo trofannol a fewnforiwyd yma yng Nghymru.
Addasiadau bob dydd i leihau eich ôl troed coedwig, diogelu cymunedau brodorol a chefnogi bioamrywiaeth.
Mae economi linol yn un sy’n cymryd, yn gwneud ac yn cynhyrchu gwastraff. Mae economi gylchol yn un sy’n ailddefnyddio, yn ailgylchu, yn trwsio ac yn ail-wneud cynnyrch, deunyddiau a chydrannau sy’n bodoli eisoes. Mae modelau cylchol wedi bod o gwmpas am amser hir e.e. dillad ail-law, adnewyddu dodrefn a chynlluniau dychwelyd poteli, ac erbyn hyn, mae llawer o lywodraethau a sefydliadau yn mabwysiadu’r dull hwn i helpu i leihau allyriadau carbon a chadw adnoddau gwerthfawr.
Gall dulliau cylchol helpu i ddiogelu coedwigoedd trofannol hefyd, fel prynu dillad ail-law (gweler cam 9 isod) a dodrefn, uwchgylchu a defnyddio pren a chynnyrch papur wedi’u hailgylchu. (gweler cam 7).
Dylai busnesau a sefydliadau ddarllen astudiaeth achos Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gaffael economi gylchol, a arbedodd 134 tunnell o CO2e ac a ddargyfeirioedd 41 tunnell o ddodrefn ail-law o safleoedd tirlenwi.
Mae’r DU yn defnyddio bron i ddwywaith cymaint o bapur â’r cyfartaledd byd-eang h.y. 145 tunnell o’i gymharu â 55 tunnell y person. Yng Nghymru, mae’r galw am bapur a bwydion coed yn gofyn am 172,000 hectar o goedwig bob blwyddyn, sy’n cyfateb i arwynebedd tir o faint Ceredigion.
Gall defnyddio cynnyrch wedi’u hailgylchu neu wedi’u hardystio gan yr FSC eich helpu i leihau eich ôl troed coedwig, ond cofiwch, os ydych chi’n prynu ar-lein, gwiriwch gyda’r stociwr neu’r cyflenwr fod yr eitem rydych yn ei phrynu wedi’i hardystio gan yr FSC. Mae gan lawer o gwmnïau ardystiad yr FSC ar gyfer eu cynnyrch brand eu hunain, ond nid yw hyn o reidrwydd yn berthnasol i bob cynnyrch maen nhw’n ei werthu.
Gallwch brynu cynnyrch papur wedi’u hailgylchu hefyd, sy’n gofyn am lawer llai o egni a dŵr i’w cynhyrchu, neu ddewisiadau amgen, fel papur hancesi wedi’u gwneud o ffibr bambŵ. Wrth brynu cynnyrch bambŵ, chwiliwch am yr ardystiad FSC i sicrhau eu bod wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy.
Olew palmwydd:
Mae tua 70% o gynnyrch cosmetig a glanedyddion cartrefi yn cynnwys cynhwysion sy’n deillio o olew palmwydd. Fel y soniwyd uchod, mae olew palmwydd yn anodd iawn i’w osgoi, felly chwiliwch am gwmnïau a brandiau sy’n defnyddio olew palmwydd cynaliadwy wedi’i ardystio (CSPO) gan yr RSPO. Defnyddiwch yr ap Giki i’ch helpu i ddarganfod pa gynnyrch sy’n defnyddio olew palmwydd o gadwyni cyflenwi ffisegol ardystiedig – mae hyn yn golygu nad yw’r CSPO wedi’i gymysgu ag olew palmwydd heb ei ardystio.
I gynyddu eich effaith, beth am roi cynnig ar wneud eich cynnyrch glanhau cartref eich hun?
Menyn coco:
Mae menyn coco o goco yn cyfrannu at ddatgoedwigo trofannol hefyd, felly chwiliwch am gynnyrch sy’n cynnwys menyn coco o ffynonellau cynaliadwy. Mae’r tystysgrifau’n cynnwys Masnach Deg a safon COSMOS Organic Cymdeithas y Pridd.
Mae gan ffasiwn diced pris cymdeithasol ac amgylcheddol uchel, gyda deunyddiau penodol, fel fisgos, hyrddod a lledr yn cael effaith fawr ar goedwigoedd trofannol.
Mae dillad sydd yn cael eu gwneud o ffibr naturiol yn aml yn cael eu hystyried yn fwy cynaliadwy, gan y byddant yn bioddiraddio yn y pen draw, ac nid ydynt yn gollwng microffibrau plastig, fel mae polyester yn ei wneud er enghraifft. Fodd bynnag, mae ffabrigau fel fisgos a hyrddod yn cael eu gwneud o fwydion pren, sy’n un o brif sbardunwyr datgoedwigo trofannol, yn enwedig yn Indonesia.
Yn yr un modd, mae dillad, esgidiau ac ategolion lledr yn cyfrannu at ddatgoedwigo trofannol hefyd, wrth i goedwigoedd gael eu clirio i wneud lle i wartheg sy’n pori. Mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar goedwigoedd, bywyd gwyllt a chymunedau brodorol ym Mrasil, sef yr ail allforiwr lledr mwyaf yn y byd.
Yn y DU, amcangyfrifir bod tua 350,000 tunnell o ddillad gwisgadwy gyda gwerth o tua £140 miliwn yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, ac yn 2019, fe wnaethom wario swm enfawr o £59.3 biliwn ar ddillad. Pan fydd y dillad, yr esgidiau a’r ategolion a wisgwn yn gallu cael effaith mor ddinistriol, mae gwastraff a gorfwyta yn golygu newyddion drwg i goedwigoedd.
Er mwyn lleihau eich effaith ar goedwigoedd trofannol, gallwch gofleidio’r cysyniad o ffasiwn araf. Mae ffasiwn araf yn golygu cadw eich dillad yn hirach a chael defnydd da ohonynt, yn ogystal ag uwchgylchu, trwsio (ewch i trwsio cudd) a phrynu eitemau ail-law. Mae hefyd yn golygu prynu dillad da, sydd wedi’u gwneud yn deg, a fydd yn para.
Rhwng 2013 a 2019, darparodd sefydliadau ariannol byd-eang $44 biliwn o gyllid i gwmnïau sy’n sbarduno datgoedwigo trofannol. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i bobl frodorol, bioamrywiaeth, ac i iechyd coedwigoedd trofannol.
Newidiwch i fanc yswiriwr neu gronfa bensiwn moesegol, i sicrhau nad yw eich arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu diwydiannau dinistriol, fel cynhyrchu cig eidion, soi a phalmwydd dwys, neu ddrilio olew ym mïom yr Amazon.
Dylai busnesau a sefydliadau gymeryd gamau i sicrhau nad yw’r holl fenthyciadau a buddsoddiadau, gan gynnwys cronfeydd pensiwn, yn cyfrannu at ddatgoedwigo dramor.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd