Mae Orchard Media & Events Group o Gaerdydd wedi cytuno ar bartneriaeth gydag elusen hinsawdd flaenllaw Maint Cymru, gan ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu i helpu i godi arian ar gyfer cymunedau coedwigoedd ar draws y byd a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Orchard yn gweithio tuag at statws B Corp, y safon fyd-eang ar gyfer cwmnïau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, sy’n rhoi pwrpas uwchlaw elw, ac mae’r sefydliad eisoes wedi dechrau cynnig ‘Guarantree’ i gleientiaid, sef addewid i blannu coeden bob tro y bydd darn newydd o waith yn cyrraedd, gyda pherllan ffrwythau yn tyfu’n gyflym yng Ngofod Celf Gweldig Coed Hills ym Mro Morgannwg gerllaw.
Nawr, mae Orchard wedi sefydlu partneriaeth newydd gydag elusen hinsawdd Cymru Maint Cymru, i helpu i atal a gwrthdroi dirywiad coedwigoedd trofannol yn fyd-eang. Lansiwyd Maint Cymru gyda chefnogaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn 2010, ac yn ei 10 mlynedd gyntaf, cefnogodd gymunedau i gynnal dros bedair miliwn hectar o goedwig drofannol (dwywaith maint Cymru!).
Dywedodd cyfarwyddwr Orchard, Tim Powell:
“Mae Maint Cymru yn gwneud gwaith gwych wrth helpu i geisio lleihau datgoedwigo ar draws y byd, sy’n ffactor mor bwysig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Rydym eisiau defnyddio sgiliau a thalentau ein tîm yn Orchard i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith amhrisiadwy, ac ennyn ac ysbrydoli pobl Cymru i gymryd rhan, ochr yn ochr â’n hymdrechion lleol i blannu coed yn ein cymunedau ein hunain.”
Mae Maint Cymru yn cefnogi prosiectau coedwig ar draws y byd, ac yn darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a brodorol yn Ne America, Affrica a De-ddwyrain Asia. Mae’r elusen yn rhedeg rhaglen addysgol ar draws y wlad hefyd, ac yn ymgyrchu i Gymru ddod yn ‘Genedl Dim Datgoedwigo’ a gwrthod mewnforio nwyddau bob dydd fel soi anghynaladwy, cig eidion a cacao sy’n achosi datgoedwigo mewn lleoedd fel Amazon Brasil.
Dywedodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yn rhan o’r ateb byd-eang i’r argyfwng hinsawdd, a grymuso pawb i chwarae rhan. Felly, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Orchard i ledaenu’r neges bod diogelu coedwigoedd trofannol yn hanfodol i ddiogelu bywyd ar ein planed a chyflawni ymrwymiadau hinsawdd byd-eang.”
Bydd Orchard yn gweithio gyda Maint Cymru ar eu hymgyrch Diwrnod Gwyrdd cenedlaethol ym mis Mehefin, ac yn creu cynnwys ar gyfer eu prosiectau coedwig ac yn helpu gydag ymdrechion codi arian ar gyfer prosiectau coedwig. Yn gyfnewid am hyn, bydd yr elusen yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i eco-dîm mewnol Orchard.
Mae datgoedwigo a diraddio coedwigoedd y byd yn achosi mwy o allyriadau CO2 na holl drafnidiaeth y byd gyda’i gilydd. Mae Maint Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Affrica, De-ddwyrain Asia a De America i helpu i warchod coedwigoedd trofannol presennol a thyfu coed. Yn COP26, cyhoeddodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James AS, y bydd Llywodraeth Cymru yn newid ei pholisi caffael fel nad yw’n cyfrannu at ddatgoedwigo tramor.
Mae Orchard yn darparu ystod o wasanaethau cyfathrebu creadigol i gleientiaid yng Nghymru ac ar draws y byd, o Lywodraeth Cymru i Gymdeithas Adeiladu’r Principality a Johnson & Johnson, Aston Martin a Qatar Airways i Nando’s, ac mae cangen cerddoriaeth fyw y grŵp yn cynnal cyngherddau gyda Diana Ross, Paul Weller, Nile Rodgers a Gerry Cinnamon dros y misoedd nesaf.
Diwedd