Cafodd Ymgyrch Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo Maint Cymru hwb enfawr ar ddechrau Ionawr 2025 wrth i Gyngor Sir Fynwy (CSF) cymryd cam sylweddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth trwy ddod yn Gyngor Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo cyntaf y byd.
Mae’r fenter hon yn cydnabod effaith arferion caffael y Cyngor, fel prydau ysgol, ar ddatgoedwigo trofannol, sy’n cyfrannu at newid hinsawdd ac yn bygwth bywydau Pobl Gynhenid.
Drwy lofnodi’r Siarter Dim Datgoedwigo, mae Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle cynhyrchion sy’n peri’r risg o ddatgoedwigo, gan gynnwys hyrwyddo bwyd lleol, prynu nwyddau masnach deg ag organig a defnyddio ei lwyfan i eirioli dros leihau ein hôl troed datgoedwigo byd-eang, a hynny ymhlith partneriaid, cymunedau a chyflenwyr.
Yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn ar 12fed o Ragfyr, cyflwynodd cyn-ddisgyblion Ysgolion Cynradd Osbaston, Cymin View, Rhaglan a Gwndy, sydd bellach wedi symud ymlaen i Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Haberdashers, i’r aelodau etholedig ar y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda’i gilydd gyda’r elusen Gymreig, Maint Cymru.
Dywedodd Nichola James, Swyddog Ymgyrch Cymunedau Dim Datgoedwigo Maint Cymru:
“Mae Cyngor Sir Fynwy yn arwain y ffordd wrth ddangos sut y gall Cymru fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gan sicrhau nad yw’r hyn yr ydym yn ei brynu a’i ddefnyddio yma yng Nghymru yn ysgogi datgoedwigo a bod pobl yn cael eu cam-drin miloedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae gweld pobl ifanc yn arwain yr ymgyrch yn dangos y gallwn sicrhau newid gyda’n gilydd, un cam ar y tro. Mae ein dyfodol yn dibynnu arno,”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd:
“Rydym yn falch o fod y Cyngor cyntaf yn y byd i gymryd y cam dewr hwn. Mae ein pobl ifanc wedi bod yn allweddol wrth yrru’r newid hwn, gan amlygu effaith byd-eang ein gweithredoedd lleol. Gall pawb wneud gwahaniaeth trwy feddwl yn fyd-eang tra’n gweithredu’n lleol.”
“Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion a fynychodd gyfarfod y Cyngor am eu hymroddiad i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Datgoedwigo.”
Diolch i gyllid gan Sefydliad COOP, mae’r prosiect peilot hwn yn Sir Fynwy sydd wedi derbyn cefnogaeth enfawr gan y Cyngor, ysgolion, pobl ifanc, grwpiau cymunedol a ffermwyr. Mae ymrwymiad CSF i ddod yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo yn golygu rhannu ei gynnydd ac annog Cynghorau eraill ar draws y wlad i wneud yr un peth.
Gwybodaeth pellach: