Mae llawer o fanteision i blannu coed mewn ysgolion. Yn achos Ysgol Gynradd Kolonyi ym Mbale, Uganda, mae coed wedi dod yn orchudd pwysig rhag tywydd eithafol.
Yng nghanol diwrnod ysgol arferol yn 2011, fe chwythodd ysbaid o wyntoedd trwm y to oddi ar ystafell ddosbarth yn annisgwyl, wrth i blant chwarae yn ystod egwyl ginio. Yn anffodus, fe gafodd nifer o blant anafiadau, ac roedd angen to newydd ar yr ysgol.
Roedd Yusuf Makabuli, swyddog prosiect sy’n gweithio i sefydliad tyfu coed lleol o’r enw Salem, yn bresennol ar y pryd. Mae Salem yn un o bedwar sefydliad lleol sy’n darparu coed i gymunedau fel rhan o’r Rhaglen Plannu Coed Mbale, dan oruchwyliaeth Menter Tyfu Coed Mount Elgon.
Er mwyn diogelu’r ysgol a’i disgyblion rhag digwyddiadau tebyg, cynghorodd Yusuf i’r ysgol blannu rhywogaethau coed brodorol ar hyd ei ffiniau i weithredu fel cysgod rhag y gwynt. Cynghorodd hefyd, i blannu coed ffrwythau yng nghanol y rhain, fel mangoes a jacffrwyth sydd hefyd yn darparu maeth yn ystod y diwrnod ysgol.
Ers hynny, mae Ysgol Gynradd Kolonyi wedi plannu dros 5,000 o goed, ac yn elwa ar y gwobrau a ddaw yn eu sgil.

Disodlwyd to bloc yr ystafell ddosbarth gan Samariaid da pan chwythodd y glaw i ffwrdd yn 2011.
Meddai pennaeth yr ysgol, Joy Mulerengi:
Rydyn ni wedi plannu coed a roddwyd i ni gan Salem-Uganda ac yn wir, maen nhw wedi gweithredu fel cysgod rhag y gwynt i’r gwyntoedd cryfion a’r stormydd trwm. Rydyn ni wedi plannu rhywfaint o goed ffrwythau fel mangoes a jacffrwyth. Gall disgybl sydd heb ddod â rhywbeth i’w fwyta ar gyfer amser egwyl, gael mango neu jacffrwyth i’w fwyta.
Ychwanegodd:
Rydym yn ddiolchgar i METGE a’r partner gweithredu Salem Uganda am y gwaith da iawn i ddarparu egin coed am ddim i’w plannu. Weithiau, rydym wedi defnyddio’r coed ar gyfer cysgod ac i redeg dosbarthiadau ynddynt. Nid am nad oes gennym ddigon o ystafelloedd dosbarth, ond weithiau, rydym eisiau mwynhau’r awyr iach tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac mae’r dysgwyr yn ei fwynha
Fideo: Disgyblion o Ysgol Gynradd Kolonyi yn esbonio sut i blannu coeden
Mae plannu coed mewn ysgolion yn rhan bwysig o Raglen Plannu Coed Mbale. Mae achos ysgol Kolonyi yn dangos sut nad yw coed yn gweithredu fel rhwystr yn erbyn gwyntoedd trwm yn unig, ond yn dod yn destun balchder i gymuned yr ysgol hefyd.