Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Maint Cymru yn ymroddedig i ddiogelu data personol, yn enwedig mewn perthynas â phlant. Fel rhan o’n cenhadaeth, rydym yn casglu lluniau a fideos yn ystod gweithgareddau’r ysgol, i ddogfennu a rhannu effaith gadarnhaol ein gwaith.
Pwrpas
Bydd eich ysgol wedi cael caniatâd gan rieni / gofalwyr, yn barod i blant gael tynnu eu lluniau neu eu ffilmio. Drwy fwcio, rydych yn cadarnhau bod ffurflen ganiatâd eich ysgol yn rhoi caniatâd i ddarparwyr trydydd parti, fel Maint Cymru, i dynnu lluniau o blant neu i ffilmio plant yn ystod gweithgareddau Maint Cymru ar gyfer y dibenion canlynol:
Diogelu Data a Phreifatrwydd
Rydym yn glynu at y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ac yn sicrhau bod data’n cael eu storio a’u defnyddio’n ddiogel at y dibenion a nodir yn unig. Os na ddylid tynnu lluniau neu ffilmio unrhyw blentyn yn ystod ein gweithgareddau, rhowch wybod i’n staff yn y digwyddiad.
Caniatâd
Trwy barhau â’r archeb hon, rydych yn cydsynio i:
Gall rhieni/gofalwyr dynnu eu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Rhowch wybod i ni am unrhyw newid ynghylch cydsynio neu os oes gennych unrhyw bryderon, drwy gysylltu â Maint Cymru ar 07863433478 neu drwy e-bostio [email protected]. Sylwch efallai, na fydd tynnu lluniau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi yn bosibl. Am fwy o fanylion, darllenwch ein polisi preifatrwydd: polisi preifatrwydd