Mae COPIeuenctid yn cael ei gynnal o gwmpas yr un phryd a COP. Eleni, byddant yn cael eu cynnal ym Mangor a Chaerdydd. Mae’r digwyddiadau yn darparu llwyfan gwych i bobl ifanc ddysgu am newid hinsawdd. Maen nhw’n dysgu sgiliau fel trafod a datrys problemau i’r rheini sy’n cymryd rhan hefyd, ac yn eu dysgu am ddiwylliannau eraill.
Drwy COPIeuenctid Cymru, rydym yn annog pobl ifanc i gymryd mwy o ddiddordeb mewn newid hinsawdd, ac i ystyried y rôl gadarnhaol y gall Cymru ei chwarae, yn lleol ac yn fyd-eang.
Beth yw COPIeuenctid Cymru?
Mae’r COPIeuenctid, sydd wedi’i drefnu gan Maint Cymru ac Eco-Sgolion, wedi’i fodelu ar Gynhadledd Pleidiau y Cenhedloedd Unedig (COP), ac mae’n cynnig cyfle i bobl ifanc ar draws Cymru i gwrdd â Gweinidogion ac Aelodau’r Senedd, a chymryd rhan yn y drafodaeth ar newid hinsawdd yng Nghymru.
Cymru a’r Guarani, yn gweithio gyda’n gilydd ar gyfer yfory
Dysgwch sut mae Pobl Frodorol fel u Guarani yn warchodwyr gorau coedwigoedd trofannol, sut allwn ni, fel cenedl, weithio gyda’n gilydd, a’r camau y gallwn ni eu cymryd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a datgoedwigo.
Ble mae’n digwydd?
Rydym yn cynnal 2 digwyddiad dwyieithog rhwng 9:30yb-2:15yp ar ddydd Gwener 21ain o Dachwedd, yn y Deml Heddwch, Caerdydd ac ar ddydd Mercher 26ain o Dachwedd yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Bydd dros 200 o bobl o Flwyddyn 5 i Flwyddyn 9 yn cymryd rhan ledled Cymru. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ag ariannir gan Lywodraeth Cymru. Mae ceisiadau bellach ar gau ac mae’r lleoedd ar gyfer 2025 wedi’u llenwi.