Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo
Mae Orchard yn asiantaeth farchnata integredig amlddisgyblaethol, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Maen nhw hefyd yn bartner elusennol Maint Cymru a phan wnaethon nhw gynnal digwyddiad Busnes Dim Datgoedwigo yn eu stiwdio, roeddent yn gwybod eu bod eisiau cofrestru i fod yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo. Felly, yn 2022, fe wnaethon nhw ddechrau ar eu taith dim datgoedwigo. Fe wnaethon nhw ddechrau drwy fynychu gweithdy gyda Maint Cymru, i ddysgu am ddatgoedwigo trofannol, siarad am yr adnoddau a’r templedi, a dechrau eu harchwiliad o nwyddau a gwasanaethau sy’n risg i goedwigoedd. Roedd gan Orchard dîm Eco yn barod, sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad, felly roedd gan y gwaith hwn dîm ymroddedig i helpu i’w ddatblygu.
Yn ystod eu harchwiliad, fe wnaethant nodi nifer o gynhyrchion lle gallent wneud newidiadau syml, a dewis opsiynau amgen sy’n fwy cyfeillgar i goedwigoedd, e.e. coffi Masnach Deg a theisennau sydd ddim yn cynnwys olew palmwydd. Fe wnaethant hefyd edrych i mewn i’w colur a’u cynhyrchion glanhau, ac ymgysylltu â’u cyflenwyr i ddylanwadu ar arfer da.
“Mae dysgu a myfyrio wedi bod yn addysg go iawn i ni. Mae deall effeithiau negyddol olew soia a phalmwydd wedi agor fy llygaid… Mae hynny wedi bod yn bwysig wrth rymuso ac ysgogi pobl.” Tim Powell, Cyfarwyddwr, Orchard
Fe ddaethon nhw ar draws rhywfaint o anawsterau, fel cyllid moesegol a phensiynau, felly fe wnaethant herio eu darparwyr i ddangos eu hanes mewn perthynas â buddsoddiadau moesegol.
“Po fwyaf o fusnesau fel ni sy’n herio sefydliadau ariannol ac sy’n gofyn cwestiynau anodd, y mwyaf sydd ganddyn nhw i gyfiawnhau’r hyn maen nhw’n wneud, a cheisio gwella.” Tim Powell
Eu cam nesaf ydy datblygu polisi cyrchu moesegol, a gweithio gyda’u cyflenwyr i ddylanwadu ar newid, ac yn y tymor hwy, eu huchelgais i weithio ar eu pensiwn. Mae Tim yn cydnabod eu bod yn dal ar ddechrau eu taith ac eisiau mynd llawer ymhellach, a defnyddio eu dylanwad yng Nghymru i geisio annog eraill.
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Orchard, o ddechrau ein hymgyrch Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo. Mae’r ddau ohonom wedi dysgu oddi wrth ein gilydd, ac maen nhw wedi rhoi adborth wych i ni i’n helpu i ddatblygu’r cymorth a’r adnoddau rydyn ni’n eu cynnig i fusnesau. Rwyf yn falch dros ben o weld yr ymrwymiad a’r camau ymarferol amlwg mae Orchard wedi’u cymryd ers dechrau ar eu taith dim datgoedwigo!” Angie Kirby, Swyddog Allgymorth Eiriolaeth, Maint Cymru
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd