Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Mae’r Wythnos Gwyrdd yn ymgyrch flynyddol i ysgolion i gefnogi cymunedau sy'n diogelu coedwigoedd trofannol ar draws y byd.
17-21ain Mehefin 2024.
Ym mis Mehefin bob blwyddyn, rydym yn gofyn i ysgolion ar draws Cymru i “fynd yn wyrdd”, a dangos eu cefnogaeth i gymunedau ar y rheng flaen mewn perthynas â mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth am ddatgoedwigo trofannol hefyd, a pham mae’n rhaid i ni ei atal. Yn y blynyddoedd blaenorol, rydym wedi annog pobl ifanc i ysgrifennu at wleidyddion a gwneud addewidion ar sut y byddan nhw’n cymryd camau i daclo datgoedwigo.
Eleni, ein thema yw Gwarcheidwaid Gerddi. Plannu, ysgrifennu, peintio ac ysgwyd! Mae’r Wythnos Ewch yn Wyrdd eleni yn ymwneud â bod yn weithgar yn yr ardd! Dewch i gael eich ysbrydoli gan ein partneriaid y grŵp Brodorol y Guarani!
Adnoddau Wythnos Ewch yn Wyrdd 2024Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd