Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Er gwaethaf hanes profedig o gynnal eu coedwigoedd, mae cymuned Ogiek Mt Elgon, Kenya, wedi cael eu troi allan yn barhaus o'u tiroedd hynafol. Nod y prosiect hwn yw eu cefnogi i geisio cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u tiriogaeth, rhedeg ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a diogelu arferion diwylliannol traddodiadol.
Mae’r gymuned Ogiek yn gymuned Frodorol yn rhanbarth Mount Elgon yn Kenya. Er eu bod nhw wedi profi eu hunain fel ceidwaid gorau’r goedwig, cafodd presenoldeb y gymuned Ogiek ar eu tiriogaeth hynafol hunanlywodraethol olaf ei wneud yn anghyfreithlon yn 2000, pan gafodd ei throi’n ‘ardal warchodedig’ heb eu caniatâd. Mae’r gymuned Ogiek yn cael ei throi allan gan KFS (Kenya Forest Service) er mwyn diogelu coedwigoedd. Fodd bynnag, daeth tasglu’r llywodraeth ei hun i’r casgliad bod y KFS mewn gwirionedd yn gyfrifol am gynnydd mewn datgoedwigo.
Mae’r gymuned Ogiek wedi bod yn byw ar eu tir ac wedi ei stiwardio am flynyddoedd. Heb eu presenoldeb, mae integredd eu coedwigoedd a’u bioamrywiaeth mewn perygl, oherwydd bod y KFS yn gwneud arian drwy ganiatáu i ffermwyr symud i mewn, datgoedwigo coed, ac elwa o gnydau sydd yn cael eu gwerthu am arian parod.
Mae Maint Cymru, mewn partneriaeth â Forest People’s Programme a Chepkitale Indigenous Peoples Development Project, sef sefydliad cymunedol pobloedd Ogiek Mt Elgon ei hun, yn cefnogi’r gymuned Ogiek i geisio cydnabyddiaeth gyfreithiol ac adennill yr hawliau i’w tiroedd hynafol.
Fel rhan o’r prosiect, bydd y gymuned Ogiek yn rhedeg ymgyrch yn y cyfryngau, ac yn gwneud ffilm ddogfen i herio’r naratif a’r camsyniadau presennol sy’n gysylltiedig â chael eu troi allan. Byddant yn rhannu eu stori’n uniongyrchol am sut mae’r gymuned yn cyfrannu at gadwraeth ac at ddiogelu’r hinsawdd.
Er mwyn diogelu eu coedwigoedd, bydd y gymuned yn dogfennu lleoliadau a defnydd traddodiadol o blanhigion meddyginiaethol ar eu tiriogaeth hefyd. Mae’r arfer hwn yn dal i gael ei ddefnyddio’n eang gan y gymuned Ogiek, er ei fod yn diflannu’n gyflym. Gallai mapio a dogfennu’r planhigion meddyginiaethol hyn ddarparu amddiffyniad hanfodol i goedwigoedd Mount Elgon.
Mae Forest Peoples Programme (FPP) wedi’i lleoli yn y DU ond yn gweithio gyda chymunedau sy’n byw mewn coedwigoedd ledled y byd, gan eu cefnogi i hyrwyddo gweledigaeth amgen o sut y dylid rheoli a rheoli coedwigoedd, yn seiliedig ar barch at hawliau’r bobl sy’n eu hadnabod goreu.
Dysgwch fwyCyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd