Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae darnio coedwigoedd yng nghoedwigoedd Gorllewin Toba, Indonesia yn rhoi pwysau ar fodolaeth rhywogaethau sydd mewn perygl fel yr orangwtan Swmatraidd. Mae'r prosiect hwn yn cefnogi cymunedau yn y rhanbarth, drwy hyrwyddo stiwardio tir cynaliadwy wrth fynd i'r afael â phryderon bywoliaeth.
Mae Gorllewin Toba, Indonesia, yn fan poblogaidd pwysig i fioamrywiaeth, ac mae’n cysylltu sawl ardal goedwig gynradd, gan gynnwys Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Siranggas a Choedwig Sikulaping. Mae’r safle yn goridor pwysig, sy’n sicrhau mudo a symud rhywogaethau sydd mewn perygl, fel yr orangwtan Swmatraidd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o ddirywio mewn coedwigoedd a darnio coedwigoedd wedi cael ei sbarduno drwy ddatblygu seilwaith ac ehangu ffermydd bach i gefnogi datblygiad economaidd lleol.
Mae cymunedau lleol yn dibynnu ar goedwigoedd Gorllewin Toba am eu lles, ond mae ymarferion rheoli tir traddodiadol yn erydu oherwydd newid cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod olew palmwydd yn nwydd cynhyrchiol, a bod galw mawr amdano. Mae ei apêl economaidd yn golygu bod llawer o ffermwyr yn symud o systemau amaeth-goedwigaeth traddodiadol, gydag amrywiaeth o goed a chnydau, i blanhigfeydd monoddiwylliant o goed palmwydd. Er ei bod yn bosibl tyfu olew palmwydd yn gynaliadwy ac mewn systemau amaeth-goedwigaeth, nid oes gan lawer o dyddynwyr fynediad at wybodaeth am sut i wneud hynny.
Os bydd darnio coedwigoedd yn parhau, gallai coedwigoedd Gorllewin Toba golli rhai o’r gwasanaethau ecolegol maen nhw’n eu darparu i gymunedau lleol a’r gymdeithas ehangach.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau cymunedol i ddeall pryderon ac anghenion tri phentref sydd wedi’u lleoli yn, a ger, coridor bywyd gwyllt allweddol. Roedd y cymunedau’n rhestru gwell bywoliaethau, datblygiad economaidd, a gwell mynediad at wasanaethau sy’n uwch na dirywio ecosystemau a cholli bioamrywiaeth. Felly, drwy gydweithio â’r cymunedau lleol, bydd y prosiect yn edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â phryderon bywoliaeth y gymuned, tra’n cadw’r coedwigoedd.
Yng nghamau cynnar y prosiect, bydd gweithgareddau gwybodaeth a hyfforddiant yn cael eu trefnu ar gyfer y cymunedau. Bydd y cymunedau’n cael eu grymuso, a bydd ganddyn nhw’r rhyddid i gyflawni defnydd cynaliadwy a stiwardio eu tir drwy amrywiaeth o gynlluniau cadwraeth a datblygu yn y gymuned. Bydd hyn yn helpu i feithrin gwydnwch y coedwigoedd ac i gynnal eu bioamrywiaeth gyfoethog
Bydd y prosiect yn cael ei ehangu i gynnwys pentrefi eraill yng nghoedwigoedd Sumatra, i adeiladu gwydnwch ecosystemau dros fwy o ardaloedd o’r ynys.
Sefydlwyd Sumatran Orangutan Society (SOS) yn 2001 gan Lucy Wisdom er mwyn gwireddu ei gweledigaeth o ddyfodol diogel i orangwtaniaid gwyllt a’u cartref coedwig. Mae orangutans Swmatran mewn perygl difrifol a heb weithredu brys gallent fod y rhywogaeth Ape Mawr gyntaf i ddiflannu. Mae SOS yn ymroddedig i drawsnewid y sefyllfa hon
Learn more
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd