Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae mwyngloddio aur anghyfreithlon yn arwain at fwy o ddatgoedwigo ac at ddinistrio’r
amgylchedd yn Nhiriogaeth Frodorol Yanomami (TIY). Mae'r prosiect hwn yn hyfforddi pobl
ifanc i ddefnyddio technoleg dronau i fonitro coedwigoedd a gweithredu yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon.
Mae’r Amazon ym Mrasil yn gartref i dros 180 o grwpiau brodorol, sy’n cynnwys pobloedd frodorol Yanomami a Ye’kwana o Roraima. Mae ehangu diwydiannau busnes, ffermio diwydiannol a
diwydiannau echdynnol fel mwyngloddio aur yn bygwth y rhanbarth cyfan hwn. Yn TIY, mae mwyngloddio anghyfreithlon yn ehangu’n gyflym, ac mae ei weithrediadau’n mynd yn fwy soffistigedig. Rhwng mis Hydref 2018 a mis Awst 2022, tyfodd yr ardal o goedwig sydd wedi cael ei ddinistrio gan fwyngloddio yn TIY 257%, gan gyrraedd dros 4,400 hectar, tra hefyd yn llygru afonydd a ffynonellau dŵr eraill.
(Llun gan: Bruno Kelly/ISA)
Er mwyn ymgysylltu pobl ifanc brodorol yn y frwydr wleidyddol am eu coedwigoedd a’u dyfodol, bydd grŵp cymwys o arweinwyr brodorol ifanc o’r gymuned Munduruku cyfagos yn arwain cyfnewid dysgu, i hyfforddi arweinwyr ifanc Yanomami a Ye’kwana ar ddefnyddio dronau a thabledi.
Bydd y dechnoleg hon yn cipio delweddau cydraniad uchel o’r awyr o ddatgoedwigo a mwyngloddio anghyfreithlon ym macro-ranbarth Uraricoera. Bydd y delweddau hyn yn cael eu defnyddio i lywio adroddiadau a gweithredoedd eirioli. Byddant yn cefnogi pobl frodorol ac ymgyrchwyr sy’n rhoi pwysau ar awdurdodau Brasil i gael gwared ar oresgynwyr anghyfreithlon hefyd, ac yn gorfodi monitro a diogelu TIY.
Drwy fynd i’r afael â mwyngloddio aur yn anghyfreithlon yn TIY, mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at liniaru effeithiau byd-eang newid hinsawdd. Mae’n ceisio amddiffyn bywydau a bywoliaeth pobloedd frodorol Yanomami ac Ye’kwana hefyd, tra’n ymgysylltu â’r genhedlaeth iau fel amddiffynwyr coedwigoedd yn y dyfodol.
Ar ddiwedd mis Ionawr 2023, ymwelodd yr Arlywydd Luiz Inácio Lula da Silva â gwladwriaeth Roraima, gan addo gweithredu cynllun iechyd brys i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd dyngarol a newyn yn TIY oherwydd mwyngloddio anghyfreithlon, a chynnal ymchwiliad i hil-laddiad y gymuned Yanomami gan y llywodraeth flaenorol. Ar ddechrau mis Chwefror, arwyddodd orchymyn i lansio ymgyrch heddlu i gael gwared â glowyr anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae’n rhaid i fesurau eiriolaeth wleidyddol a monitro tir barhau, i sicrhau bod y cymunedau Yanomami a Ye’kwana yn byw, a bod tiroedd a bywoliaethau yn cael eu diogelu yn y tymor hir.
CAFOD yw asiantaeth cymorth swyddogol yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr. Maent yn gweithio ar draws Affrica, Asia, America Ladin a’r Dwyrain Canol, gan helpu’r bobl dlotaf a mwyaf ymylol. Mae CAFOD yn gweithio gyda phobl frodorol ym Mrasil i amddiffyn eu cartref coedwig law, cefnogi teuluoedd digartref yn eu brwydr i ddod o hyd i dai, a helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer bywyd gwell.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd