Cenedl Dim Datgoedwigo: Papur i wneuthurwyr polisi
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Rydym yn galw ar Gymru i greu hanes a dod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Yn 2023, cafodd 4 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol eu dinistrio – ardal dau gwaith maint Cymru. Clirio tir i gynhyrchu nwyddau fel cig eidion, soi, olew palmwydd, coffi, pren a choco yw’r prif beth sy’n sbarduno datgoedwigo.
Mae’r economi datgoedwigo o’n cwmpas ym mhob man. Mae yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, y cynhyrchion rydyn ni’n eu prynu, ac yn ein potiau pensiwn. Gall Cymru arwain y ffordd ar y mater hwn, tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
I ddysgu mwy am yr ymgyrch Cenedl Dim Datgoedwigo, ewch i adran adnoddau’r dudalen hon.

Cenedl Dim Datgoedwigo: Papur i wneuthurwyr polisi
Defnyddir ardal sy’n cyfateb i 40% o faint Cymru dramor i dyfu nwyddau a fewnforir i Gymru.
Mewn llawer o’r gwledydd hyn mae hawliau pobl frodorol yn cael eu cam-drin, mae pobl gan gynnwys plant yn cael eu gorfodi i lafur, ac mae cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael eu dinistrio i greu nwyddau sy’n rhwym i Gymru.
Darllenwch yr holl adroddiad i ddysgu fwy.
Mae adroddiad newydd wedi datgelu sut mae dewisiadau bwyd bob dydd yng Nghymru yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd trofannol, achosion o gam-drin hawliau dynol a llygredd – o’r Amazon i afonydd Cymru. Wedi’i gyhoeddi ar y cyd gan Maint Cymru a WWF Cymru, mae Bwyd, Coedwigoedd ac Anghyfiawnder: Y Cyswllt Cudd rhwng Cymru a Brasil yn datgelu sut mae system fwyd Cymru wedi’i chlymu mewn gwe fyd-eang o ddatgoedwigo, niwed amgylcheddol ac anghyfiawnder.
Fe wnaethom gynnal asesiad hyfywedd mewn perthynas â chyflwyno ffordd fwy cynaliadwy o ddarparu prydau ysgol yng Nghymru. Dyma beth y gwnaethom ei ddarganfod.
Mae’r Pecyn Cymorth Busnesau Dim Datgoedwigo (BDD) hwn wedi’i lunio gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion, y nwyddau a’r gwasanaethau y byddant yn eu prynu, yn eu cynhyrchu neu’n buddsoddi ynddynt, yn achosi datgoedwigo mewn mannau trofannol, dinistrio cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol negyddol dramor.
Mae’r Pecyn Cymorth Busnesau Dim Datgoedwigo (BDD) hwn wedi’i lunio gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion, y nwyddau a’r gwasanaethau y byddant yn eu prynu, yn eu cynhyrchu neu’n buddsoddi ynddynt, yn achosi datgoedwigo mewn mannau trofannol, dinistrio cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol negyddol dramor.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd