Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae gardd Maint Cymru, y mwyaf bioamrywiol yn hanes Sioe Flodau Chelsea yn ôl pob tebyg, wedi ennill medal aur!
Gyda mwy na 313 o wahanol rywogaethau o blanhigion, barnwyd hefyd mai’r ardd fioamrywiol hon oedd y gorau yn ei chategori yn y sioe fawreddog. Mae nifer y rhywogaethau o blanhigion yn adlewyrchu nifer y gwahanol fathau o goed a all fod mewn un hectar o goedwig drofannol.
Dywedodd y dylunydd gardd Dan Bristow, o Fethesda, Gwynedd, fod y fuddugoliaeth yn “wireddu breuddwyd” ac “na allai fod yn hapusach”.
Daw’r fuddugoliaeth ar ôl wythnos llawn cyffro o gyfleu’r neges o weithredu nawr er mwyn sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd yn cael eu trosglwyddo i fynychwyr, enwogion a’r cyfryngau. Mae’r ardd wedi bod yn y broses o gael ei gwneud ers bron i 2 flynedd.
Mae’n sbeshal iawn i gael ein hadnabod fel hyn achos fe wnaethon ni gymryd risg gyda’r dyluniad a trio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol.
Dwi wrth fy modd – a wedi blino’n lân – hefyd
Tan yn ddiweddar, dim ond un planhigyn unig o heboglys y Bannau (Hieracium breconicola) oedd ar ôl ar lethr yn y parc cenedlaethol, tra bod dant y llew Aberhonddu (Taraxacum breconense), a oedd unwaith yn olygfa gyffredin mewn rhannau o Sir Fynwy a Phowys, hefyd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.
Dywedodd cyfarwyddwr Maint Cymru, Nicola Pulman, ei bod yn “anrhydedd fawr” i fod yn rhan o’r digwyddiad.
Mae Maint Cymru yn gweithio i amddiffyn ardal o goedwigoedd trofannol o leiaf Maint Cymru a thyfu miliynau o goed.
Ar ôl ei chyfnod dan sylw yn Chelsea, bydd yr ardd gyfan yn cael ei symud i Ardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor ddydd Gwener 12 Gorffennaf, 10:30-12:30.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd