Ydych chi eisiau bod yn rhan o fudiad cynyddol o fusnesau Cymreig cymdeithasol gyfrifol sy’n arwain y ffordd mewn gwarchod coedwigoedd trofannol?
Bydd Cynnal Cymru a’r elusen newid hinsawdd Maint Cymru yn cynnal digwyddiad dysgu wyneb yn wyneb, rhwng cyfoedion, i helpu busnesau i gymryd camau ymarferol i fynd i’r afael â datgoedwigo trofannol ac effeithiau cymdeithasol o fewn eu cadwyni cyflenwi.
Yn ystod y digwyddiad, bydd cyfranogwyr yn clywed gan sefydliadau sydd wedi cychwyn ar eu taith Dim Datgoedwigo yn barod, a byddant yn dysgu’r camau ymarferol sydd eu hangen arnynt i’w helpu i leihau eu hôl troed coedwig drofannol. Bydd yn cynnwys cymhorthfa ar y risgiau i goedwigoedd, i helpu i adnabod meysydd i’w gweithredu, gyda chefnogaeth a chyngor gan dîm Maint Cymru. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i gwrdd â rhwydwaith busnes cefnogol sydd wedi ymrwymo i weithredu dros goedwigoedd, pobl a natur.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Orchard Media yn eu hadeiladau yn Trade Street, Caerdydd, a bydd coffi a theisennau o ffynonellau moesegol yn cael eu darparu.
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/deforestation-free-business-champions-pencampwr-busnes-dim-datgoedwigo-tickets-852954869977
Mae’r rhifau wedi cyfyngu, felly peidiwch ag oedi!