Mae gan Scout gefndir cryf mewn cynaliadwyedd, ecoleg, cadwraeth ac ymchwil. Mae hi wedi gweithio ar draws y sector amgylcheddol, o gynnal ymchwil i bolisïau amgylcheddol i wneud gwaith rheoli cynefinoedd ac arolygu rhywogaethau yn y DU a thu hwnt. Mae hi’n angerddol dros y berthynas rhwng pobl a natur, ac o ddatblygu dulliau teg a chyfiawn o weithredu ar newid hinsawdd sy’n diogelu cymunedau gartref a thramor. Bydd Scout yn dod â’i chefndir ymchwil a’i phrofiad yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i’w rôl ar y tîm polisi yn Maint Cymru, ochr yn ochr â pharhau i wneud ymchwil ac ymgysylltu’n wirfoddol â’i grwpiau hinsawdd a natur lleol.
“Rwy’n cael fy ysbrydoli’n barhaus gan y camau y mae ein cenedl fach yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i gymryd cyfrifoldeb am ein hôl troed dramor. Rwy’n hynod gyffrous i weithio gyda sefydliad sy’n harneisio ac yn cefnogi’r weledigaeth hon i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol a chefnogi hawliau Brodorol drwy’r camau dyddiol a gymerwn gartref.”