Cymraeg isod..
The World Economic Forum (WEF) is offsetting emissions through projects managed by one of Size of Wales’ partner, South Pole Group.
WEF is currently hosting a Sustainable Impact Summit with world leaders from government, business and civil society in New York to develop a ‘multi-stakeholder platform for concerted action on climate change’. They will be off-setting the impact of their staffs’ travel through the projects managed by our partner, South Pole Group, including our Kariba REDD+ project in Zimbabwe.
Size of Wales provides match-funding to the South Pole’s Kariba project in Zimbabwe, which is a REDD+ Forest Protection project. As a REDD+ (Reducing Emissions from Deforestation and Degradation) project, it protects 785,000 hectares of forest from deforestation and aims to set up a world-class wildlife management area conserving wildlife, land and self-empowering the local communities with small-holder business opportunities. Further details on the Kariba REDD+ project is available here: https://sizeofwales.org.uk/projects/kariba-redd/
Information on how WEF is offsetting its emissions is available here: https://www.southpole.com/news/south-polegroup-offset-wef-sustainable-development-impact-summit
Prosiect Kariba Maint Cymru’n Helpu i Wrthbwyso Allyriadau Teithio Fforwm Economaidd y Byd
Mae Fforwm economaidd y byd yn gwrthbwyso allyriadau drwy brosiectau sy’n cael eu rheoli gan un o bartneriaid Maint Cymru, GrŴp Pegwn y De.
Mae Fforwm Economaidd y Byd ar hyn o bryd yn cynnal Uwch Gynhadledd Effaith Cynaliadwy yn Efrog Newydd gydag arweinwyr y byd, o lywodraeth, busnes a chymdeithas sifil i ddatblygu ‘llwyfan aml-randdeiliaid ar gyfer gweithredu ar y cyd ar y newid yn yr hinsawdd’. Byddant yn gwrthbwyso effaith teithio’u staff drwy’r prosiectau sy’n cael eu rheoli gan ein partner, Grŵp Pegwn y De, yn cynnwys prosiect Kariba REDD+ yn Zimbabwe.
Mae Maint Cymru’n darparu arian-cyfatebol i brosiect Kariba Pegwn y De yn Zimbabwe, sef prosiect Gwarchod Coedwigoedd REDD+. Fel prosiect REDD+ (Reducing Emissions from Deforestation and Degradation), mae’n gwarchod 785,000 hectar o goedwig rhag datgoedwigo a’i fwriad yw sefydlu ardal rheoli bywyd gwyllt o safon fyd-eang ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt, tir, a hunan-rymuso cymunedau lleol drwy gyfrwng cyfleoedd busnes i ddeiliaid bach. Gellir cael manylion pellach ar y prosiect Kariba REDD+ yma: https://sizeofwales.org.uk/cy/projects/kariba-redd/
Mae gwybodaeth ar y modd y mae Fforwm Economaidd y Byd yn gwrthbwyso’u hallyriadau ar gael yma: https://www.southpole.com/news/south-polegroup-offset-wef-sustainable-development-impact-summit