Mae Maint Cymru wedi lawnsio Llysgenhadon Hinsawdd Ieuengtid Cymru (LHC), grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n Ymgyrchwyr brwd dros yr Hinsawdd sy’n brwydro i sicrhau Cyfiawnder Hinsawdd.
Fe’u cefnogir gan Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac fe’u hariennir gan Scottish Power Foundation, gyda’r nodau a’r camau gweithredu dan arweiniad Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.
Maent yn dymuno cyflawni’r canlynol:
- Sicrhau fod busnesau yng Nghymru yn fwy atebol am eu hallyriadau carbon
- Er enghraifft, pennu uchafsymiau carbon eglur i fusnesau
- Cynnwys allyriadau cymeriant ac allyriadau sy’n gysylltiedig â chludo nwyddau mewn targedau ynghylch allyriadau
- Sicrhau fod busnesau yng Nghymru yn atebol am eu defnydd o ddeunydd lapio plastig
- Gwahardd eitemau a ddyluniwyd i’w defnyddio unwaith megis masgiau a deunydd pacio plastig
- Gwahardd ffasiynau untro neu rad
- Sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag ymwybyddiaeth o’r hinsawdd ymhlith oedolion a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau
- Sicrhau fod teithio llesol ar gael ym mhob rhan o Gymru a sicrhau fod pob rhan o Gymru yn gweithredu hyn
- Ei gwneud hi’n orfodol i Ysgolion yng Nghymru ailgylchu
- Lleihau gwastraff bwyd mewn ysgolion
- Ac ailgylchu a gwaredu pethau yn briodol
- Mae’r bobl ifanc yn dymuno gweld llywodraeth Cymru yn sefydlu cynllun cyfreithiol-rwym i roi terfyn ar ddatgoedwigo, h.y. plannu coed, erbyn 2025.
Dywedodd Poppy, sy’n 16 ac o Gasnewydd:
“Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd mae’n eithaf posibl yn fy marn i mai’r Newid yn yr Hinsawdd yw problem fwyaf a phennaf ein hoes. Fodd bynnag, ar waethaf hyn, rwy’n credu fod y mater hwn yn cael llawer llai o sylw na’r hyn sy’n haeddiannol gan Arweinwyr y Byd, ac o ganlyniad i hyn, ni fydd yn cael ei ystyried yn aml. Felly, roeddwn i’n dymuno bod yn rhan o sefydliad ble gallaf i, fel person ifanc, gynorthwyo â’r frwydr i sicrhau ‘Cyfiawnder Hinsawdd’, a sicrhau y caiff fy llais ei barchu, ac y caiff ei helaethu mewn perthynas â sicrhau newidiadau go iawn. Rwy’n ddiolchgar iawn fod rhwydwaith LHC yn darparu’r cyfle hwn.”
Gallwch wylio fideo Poppy yn cyflwyno Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru a’u nodau yma:
Esboniodd Leo, 16 oed o Bontypridd:
“Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd mae gennyf i ddiddordeb cryf yng Ngwyddorau’r Hinsawdd a gwneud newid cadarnhaol i’r Byd. Rwy’n credu hefyd ei bod hi’n bwysig iawn i bobl ifanc gyfranogi yn yr ymateb i’r Newid yn yr Hinsawdd, oherwydd fe wnaiff y mater hwn effeithio ar ddyfodol pawb ohonom ni.”
Ychwanegodd Shenona, sy’n 17 ac o Fangor:
“Ymunais â’r rhwydwaith i gael cyfle i gwrdd â phobl o’r un anian sydd yr un oedran â fi a gwneud defnydd o fy nheimladau angerddol dros yr amgylchedd. Roeddwn i’n gwybod y byddai ymuno â’r grŵp hwn yn brofiad unwaith mewn oes. “
Mae mwy o wybodaeth am y Llysgenhadon Newid Hinsawdd a’u proffiliau unigol yma: www.sizeofwales.org.uk/cy/addysg/llysgenhadon-hinsawdd-ieuenctid-cymru/
Os hoffech chi ddilyn gwaith Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru maen nhw ar Trydar fel @YCAWales, gallwch chi hefyd gysylltu â’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid drwy e-bostio [email protected].
Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru wedi datblygu o ganlyniad i raglen Model y Cenhedloedd Unedig (MockCOP), a redir ar y cyd gan Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ag ariennir gan Sefydliad ScottishPower. Mae cynhadledd MockCOP yn darparu cyfle rhyngweithiol gwerthfawr i bobl ifanc 14-18 oed ddysgu am y Cenhedloedd Unedig, y trafodaethau blynyddol ar newid yn yr hinsawdd a datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth o genhedloedd a diwylliannau trwy weithredu fel y cenhedloedd hynny wrth drafod materion byd-eang. Mae mwy o wybodaeth am MockCOP yma: www.sizeofwales.org.uk/cy/addysg/mock-cop
Dywedodd Melanie Hill, Swyddog Gweithredol ac Ymddiriedolwr yn Sefydliad ScottishPower:
“Mae Sefydliad ScottishPower wedi ymrwymo i gefnogi achosion sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt. Yng ngoleuni cyfyngiadau parhaus, mae Maint Cymru wedi addasu ei gynlluniau mewn ffyrdd arloesol ac yn parhau i fod yn ymroddedig i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn wrth ymdrechu i leihau newid yn yr hinsawdd.
“Mae mor ysbrydoledig gweld y bobl ifanc hyn yn cael eu grymuso i rannu eu barn a’u syniadau ar gyfer y dyfodol, ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i hyrwyddo eu lleisiau trwy fentrau fel Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid‘ Maint Cymru. Y bobl ifanc hyn fydd dylanwadwyr a llunwyr penderfyniadau yfory ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n rhoi platfform, llais a chyfle iddynt helpu i newid eu byd a’u hamgylchedd er gwell. ”
A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru