
Mae’n hymgyrch Coed ar gyfer y Nadolig yn ôl am flwyddyn arall. Cyfrannwch rodd sy’n rhoi a rhoi drwy gyfrannu tuag at blannu coed ffrwythau yn Mbale, Uganda, ar ran ffrindiau, teulu a chydweithwyr y Nadolig hwn.
Bydd y coed hyn yn rhoi maeth, incwm, sicrwydd bwyd a llawer llawer mwy i deuluoedd ym Mbale. Rhanbarth poblog iawn gyda llawer o fryniau yn nwyrain Uganda yw Mbale. Bob blwyddyn mae glaw trwm yn achosi tirlithriadau dinistriol. Mae cynyddu nifer y coed ar eu tir yn helpu i ddiogelu’r pridd gan leihau’r perygl o dirlithriadau.
Mae coed am oes nid yn unig dros y Nadolig.
Am gyn lleied â £3 gallwch gynorthwyo prosiect plannu coeden Cymru, Rhaglen Coed Mbale a chyfrannu tuag at blannu 10 coeden ffrwythau yng ngerddi teuluoedd yn, ac o gwmpas Mbale. Gweler y tabiau isod i weld sut y gallwch gynorthwyo’r achos hwn.
Byddwch yn wyrdd y Nadolig hwn. Drwy blannu coed ar ran anwyliaid gallwch fwynhau Nadolig mwy cynaliadwy a moesegol, tra hefyd yn rhoi rhodd i deulu ym Mbale sy’n darparu maeth ac incwm am flynyddoedd i ddod. Wedi’r cyfan, mae coed am oes nid yn unig dros y Nadolig!
Dewiswch isod faint o goed yr ydych yn dymuno eu plannu, gwasgwch y botwm rhoi a byddwch yn derbyn tystysgrif anrheg y gallwch ei lawrlwytho i’ch blwch derbyn.
Y llynedd, roeddwn i eisiau cael anrheg foesegol i ffrindiau a theulu, rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, ac roedd tystysgrifau Maint Cymru yn berffaith ar gyfer hynny. Roedd pawb a gafodd un yn hapus iawn, ac roeddent yn falch o gael rhywbeth roedden nhw’n gwybod a fyddai’n helpu i wella bywydau pobl erail.
Sion Ford
Ail-goedwigo a phlannu coed yw un o’r dulliau mwyaf cadarnhaol o leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae coed yn amsugno llawer iawn o nwyon tŷ gwydr, sydd fel arall yn peri i’n planed gynhesu i lefelau peryglus
Felly plannwch 10 coeden ym Mbale’r Nadolig hwn i efeillio gyda choeden wedi ei haddurno’n hardd yn eich cartref.
Ymunwch â’ch cydweithwyr, ffrindiau dosbarth, grŵp cymunedol neu’ch teulu’r Nadolig hwn i wneud gwahaniaeth mawr. Gadewch i ni wybod faint o goed yr ydych wedi eu rhoi i’w plannu drwy ein tagio i mewn i’ch cyfryngau cymdeithasol fel y gallwn ddathlu gyda chi.
Rhowch gyn lleied â £3 yr un, cyfrannwch isod a byddwch yn derbyn tystysgrif fel y gallwch ddangos gyda balchder eich bod wedi plannu cannoedd o goed!
Galw holl fusnesau Cymru! Byddwch yn wyrdd y Nadolig hwn, anogwch eich staff a’ch cwsmeriaid drwy hyrwyddo plannu coeden wedi ei theilwra i’ch gwasanaeth neu eich cynnyrch.
Er enghraifft, llynedd rhoddodd SportPursuit, gwerthwyr offer chwaraeon ar-lein, 10 coeden am bob archeb a dderbyniwyd. Fel canlyniad, plannwyd 10,000 o goed ar ran eu cwsmeriaid!
Cysylltwch â Maint Cymru i drafod sut y gallech weithredu eich cynllun hyrwyddo.
Pan fyddwch yn anfon cyfarchion Nadolig i’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chysylltiadau busnes, bydd dewis eGardiau Maint Cymru’n gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd ym Mbale. Dewiswch eich cerdyn, ychwanegwch neges bersonol a chyfrannwch.