Dathlu rôl menywod ar gyfer gwell dyfodol gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Posted on

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn achlysur i’w ddathlu bob amser ac roeddwn yn falch iawn bod Maint Cymru wedi gofyn imi rannu’r syniadau sydd gennyf am Fenywod a’r Newid yn yr Hinsawdd.

Rydym yn gwybod eisoes bod y newid yn yr hinsawdd yn cael mwy o effaith ar y bobl hynny sy’n fwyaf agored i niwed a’i fod yn dwysáu anghydraddoldeb. Menywod sy’n dioddef waethaf fel arfer ac mae’r newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol yn gallu cael effaith fwy difrifol arnyn nhw. Mae’r newid hwnnw’n effeithio ar dir ac amaethyddiaeth, ar statws cymdeithasol, ac ar wahaniaethu a thlodi, oherwydd y rolau a’r cyfrifoldebau sydd gan fenywod mewn cymunedau. Mae hwn yn rhywbeth sy’n dal i’m hysgwyd fel Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac  mae’n bwysig, felly, ein bod yn parhau i godi’r mater.

Er efallai fod y newid yn yr hinsawdd yn effeithio mwy ar fenywod, maen nhw hefyd yn rhan fawr o’r ateb. Rwyf wrth fy modd yn gweld menywod yn dod ynghyd mewn llywodraethau, mewn busnesau, yn y byd academaidd ac mewn cymunedau i wthio’r ffiniau ac i weithredu o ddifrif yn eu cymunedau, eu dinasoedd a’u gwledydd.

Drwy ein gwaith ar Cymru o Blaid Affrica, mae menywod yn eu cymunedau yn Mbale yn gweithio i dyfu ac i blannu coed ffrwythau er mwyn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Nid yn unig y mae’r coed hynny’n storio carbon ond maen nhw hefyd yn darparu bwyd hanfodol a chysgod. Maen nhw’n lleihau effeithiau llifogydd ac yn helpu i greu incwm y mae mawr ei angen arnyn nhw er mwyn helpu i leihau tlodi. 

Yn fy rôl bresennol fel aelod o Grŵp Llywio’r Gynghrair Dan2, sy’n cael ei hyrwyddo gan grŵp o lywodraethau gwladwriaethol a rhanbarthol uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn cael ei gadw dipyn yn is na 2°C, rwy’n falch o gael gweithio gyda menywod blaenllaw eraill o bedwar ban byd sydd wrthi’n symbylu gweithgarwch yn eu rhanbarthau eu hunain yn eu ffordd eu hunain. Yn fwyaf diweddar, cefais y cyfle i gyfarfod a Gweinidog Canada dros yr Amgylchedd fel rhan o’r Gynghrair Pŵer ar ôl Glo. Mae’r Gynghrair yn gasgliad o lywodraethau cenedlaethol ac is-genedlaethol ac o fusnesau a sefydliadau sy’n gweithio i hyrwyddo systemau ynni glân yn hytrach na chynhyrchu ynni drwy ddefnyddio pwerdai glo sydd heb systemau rheoli carbon. Mae’r datganiadau hyn ar y cyd yn tystio i rym cydweithio.

Dim ond ychydig o wledydd sydd wedi corffori Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig mewn deddfwriaeth. Mae Cymru yn un o’r rheini ac rydyn ni eisoes wedi pennu ein Nodau Llesiant ein hunain. Mae nodau’r Cenhedloedd Unedig yn rhoi cydnabyddiaeth benodol i rôl menywod a merched ymhob man ac yn cydnabod y dylent gael hawliau a chyfleoedd cyfartal. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym hefyd yn teimlo’n angerddol yn ei gylch yma yng Nghymru.

Ar y lefel ryngwladol, mae Christiana Figueres wedi bod yn eiriolwr allweddol, gan ddadlau’n gryf o blaid gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, ac mae wedi ymroi i ailadeiladu’r broses negodi fyd-eang ar y newid yn yr hinsawdd, a’i seilio ar werthoedd tegwch, tryloywder a chydweithio. Chwaraeodd Christiana ran bwysig mewn sicrhau Cytundeb Paris yn 2015. Roedd yn ddylanwad grymus ac yn rhan o dîm gwych o fenywod yng nghynhadledd Paris, ac mae’n parhau i ddadlau ar sail rheswm.

Mae’r ychydig enghreifftiau rwyf wedi’u rhoi yma yn dangos yn glir bod gan fenywod − ac y dylai fod gan fenywod − ran i’w chwarae mewn sbarduno newid wrth inni edrych ar ddatrys effeithiau’r newid hinsawdd sy’n ein hwynebu ni i gyd. Mae gan fenywod amrywiaeth eang o wybodaeth a sgiliau y maen nhw’n eu defnyddio er mwyn cyfrannu’n effeithiol at addasu i’r newid yn yr hinsawdd ac at liniaru ei effeithiau, ond nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar unrhyw lefel mewn trafodaethau a phrosesau penderfynu. Ni all hynny barhau, a rhaid inni chwilio am ffyrdd o barhau i rymuso menywod ac o roi cyfleoedd iddynt arwain ar yr agenda hon ac i gael dweud eu dweud. 

Nid oes unrhyw esgusodion bellach. Mae’n bryd yn awr inni gydweithio er mwyn sicrhau nad yw’r byd yn cynhesu mwy na 1.5 gradd Celsius. Yng Nghymru, rydym wedi creu deddfwriaeth er mwyn helpu i sbarduno gweithredu ac i leihau’n hallyriadau. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu targed cyfreithiol o leihau allyriadau carbon o leiaf 80% erbyn 2050 ac yn ddiweddar, gosodais gyfres o dargedau interim (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a chyllidebau carbon. Byddwn yn lansio’n cynllun gweithredu ar 21 Mawrth a fydd yn amlinellu camau ymarferol clir y byddwn yn eu cymryd i leihau’n hallyriadau.

Fodd bynnag, ni all un person nac un Llywodraeth wneud hynny ar eu pen eu hunain a gall pawb fod yn rhan o’r ateb, beth bynnag eu rhyw a’u hoedran.


Tweet Rhannwch ar Facebook