I ble yn y byd aeth yr holl goed?

Posted on

Fel elusen newid yn yr hinsawdd sydd yn canolbwyntio ar ddiogelu a chadw coedwigoedd trofannol, rydym yn cyrchu’r data a’r wybodaeth ddiweddaraf drwy’r adeg ar sut i leihau’r achosion o ddatgoedwigo a dirywiad mewn coedwigoedd – yr ail achos mwyaf o allyriadau carbon ar ôl llosgi tanwydd ffosil.

Mae’r data diweddaraf gan y tîm anhygoel y tu ôl i Global Forest Watch (GFW) yn cyflwyno dadansoddiadau angenrheidiol a mawr eu hangen at y rhesymau dros ddatgoedwigo, ynghyd â gwell dealltwriaeth o ran p’un a yw’r rhain yn debygol o arwain at golled barhaol neu beidio.

Mae eu data diweddaraf yn datgelu rhywfaint o wybodaeth syfrdanol:

  • Ers 2000, mae dros chwarter (27%) o’r gorchudd coed parhaol sydd yn cael ei golli
  • oherwydd datgoedwigo er mwyn creu nwyddau, hynny yw, yn bennaf, er mwyn creu olew palmwydd, soi, cig eidion a chynnyrch pren, ac mae hyn yn digwydd yn bennaf yn America Ladin ac yn Ne-ddwyrain Asia
  • Mae coedwigoedd a reolir a phlanhigfeydd coed yn cyfrif am chwarter arall (26%) o’r coed sydd yn cael eu colli ar draws y byd. Disgwylir i lawer o’r rhain aildyfu ar ôl y cynhaeaf ac felly, nid yw mor niweidiol i’r amgylchedd; gall fod yn niweidiol fodd bynnag, i fioamrywiaeth rhywogaethau.
  • Mae amaethu symudol yn cyfrif am ychydig llai na chwarter (24%), h.y. yr arfer o glirio a thrin tir am gyfnod byr. Does dim sicrwydd y bydd y coedwigoedd hyn yn tyfu yn ôl – mae’n dibynnu ar y broses o’u torri a’u trin. Er enghraifft, mae amaethu symudol ym Mheriw yn cael ei reoli’n dda fel arfer, o’i gymharu ag Affrica Is-Sahara, lle mae’n fwy tebygol o arwain at ddifrod hirdymor.
  • Mae tân gwyllt yn cyfrifo am 23% o’r coedwigoedd sydd yn cael eu colli- mae’r coedwigoedd hyn yn debygol o dyfu’n ôl yn raddol dros amser, er eu bod yn cyflwyno llawer o fygythiadau eraill.
  • Er syndod, mae trefoli yn gyfrifol am lai nag 1% o’r coedwigoedd sydd yn cael eu colli ar draws y byd.

Mae coedwigoedd yn llefydd pwysig i storio carbon ynddynt, ac yn nodwedd amlwg mewn ymdrechion rhyngwladol mawr i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang. Yn wir, gallai cadw, adfer a rheoli coedwigoedd trofannol, mangrofau a mawnogydd yn effeithiol ddarparu chwarter o’r camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd sydd eu hangen erbyn 2030 i fodloni nod Cytundeb Paris o gyfyngu cynhesu byd-eang i ddwy radd. Yn ddiweddar, tynnodd ymgyrch yn yr Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd The 30X30 Forests, Food and Land Challenge sylw at y canlynol – “better forest and habitat conservation, food production and consumption, and land use, can deliver up to 30% of the climate solutions needed by 2030.”

Mae astudiaeth GFW yn darparu gwybodaeth bwysig i gwmnïau sydd wedi ymrwymo i ddim datgoedwigo yn eu cadwyni cyflenwi ac i’r rheiny, fel ni, sy’n lobïo dros ddiogelu a chadw coedwigoedd. Gyda datgoedwigo er mwyn creu nwyddau wedi bod yn rhywbeth cyson trwy gydol eu cyfnod astudio o 15 mlynedd, mae’r astudiaeth hon yn rhoi map clir o feysydd blaenoriaeth i’r cwmnïau hynny eu targedu o ran ardystio ac olrhain.

Mae deall ble a pham y bydd colli coed yn digwydd yn galluogi’r camau cywir i gael eu cymryd ar lefel leol, ac yn creu newid cadarnhaol ar lefel fyd-eang. Mae angen i’r ymyriadau gael yr effaith fwyaf posibl, a dylent dargedu’r arferion mwyaf niweidiol, hynny yw, sy’n arwain at ddatgoedwigo parhaol mewn ardaloedd coedwigoedd trofannol.

Mae edrych yn fwy dwfn i mewn i broblem er mwyn deall y materion yn well yn bwysig dros ben, ac er na fydd y rhain yn gwneud y penawdau hawsaf, mae’n dangos y pwysigrwydd o gael ein negeseuon yn iawn. Cyfeiriwyd at hyn yn yr un modd gan Nature, a dynnodd sylw at y ffaith, er bod gorchudd coed ar draws y byd wedi cynyddu dros y 35 mlynedd diwethaf (yn bennaf mewn coedwigoedd tymherus), mae nifer fawr o rywfaint o ecosystemau mwyaf bioamrywiol y blaned sydd yn cael eu darganfod yn bennaf mewn coedwigoedd trofannol wedi cael eu colli, sydd wedi arwain at golli llawer o orchudd coed. Os mai dim ond mater o ffigyrau ydyw, yna mae’r newyddion yn foddhaol, beth bynnag.

Gyda phrosiectau Maint Cymru yn canolbwyntio’n bennaf mewn ardaloedd lle mae’r astudiaeth yn darganfod bod datgoedwigo parhaol yn debygol, mae ein hymdrechion felly, i gefnogi cyrff anllywodraethol sy’n gweithio mewn ardaloedd coedwigoedd trofannol yn ffurfio rhan o’r ateb i’r her fawr hon. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda chwech o bartneriaid coedwigoedd i ddiogelu mwy na 4 miliwn hectar (dwywaith maint Cymru!) o goedwigoedd trofannol yn Affrica a De America.

Os hoffech chi gefnogi ein gwaith, ystyriwch roi rhoddion i ni drwy fynd i sizeofwales.org.uk/cy/cyfrannwch neu cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich helpu chi i ddatblygu polisi ‘dim datgoedwigo’ ar gyfer eich sefydliad.

 

Ffynonellau

https://www.wri.org/news/2018/09/release-new-study-finds-more-quarter-global-tree-cover-loss-commodity-driven (saesneg yn unig)

http://science.sciencemag.org/content/361/6407/1108 (saesneg yn unig)

https://www.globalforestwatch.org/map/3/16.52/0.98/ALL/grayscale/loss/607,556,580,592?tab=analysis-tab&begin=2001-01-01&end=2016-01-01&threshold=30&dont_analyze=true (saesneg yn unig)

https://news.mongabay.com/2018/08/earth-has-more-trees-now-than-35-years-ago/ (saesneg yn unig)


Tweet Rhannwch ar Facebook