Mae Maint Cymru yn elusen sy’n gwneud Cymru yn rhan o’r ateb byd-eang mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd.
Gyda’n gilydd, rydym yn
(i) gweithio gyda chymunedau brodorol a lleol ar draws y byd i ddiogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru – ac yn tyfu miliynau o goed.
(ii) addysgu ac ysbrydoli pobl yng Nghymru i gydnabod rôl hanfodol coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a sut mae’n rhaid i ni gefnogi cymunedau brodorol a lleol.
(iii) ymgyrchu i sbarduno newid mewn polisi, ac yn galw ar Gymru i ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd i ddiogelu coedwigoedd trofannol.
Mae Maint Cymru yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir ethnig amrywiol a phobl sy’n byw gydag anabledd. Mae’r rhain yn nodweddion a hunaniaethau sydd yn cael eu tangynrychioli ym Maint Cymru ar hyn o bryd. Ar ben hynny, mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn herio gwladychiaeth fodern a strwythurau pŵer gwahaniaethol sy’n gyffredin mewn cymdeithas a gwaith undod byd-eang. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar leisiau pobl sydd wedi’u hymylu, ac yn ceisio dileu rhwystrau a chynyddu mynediad o fewn yr argyfwng hinsawdd. Byddai cael pobl sydd â’r hunaniaethau a’r nodweddion hyn i ymuno â’r tîm yn amhrisiadwy, a byddai Maint Cymru yn dod yn sefydliad gwell oherwydd hyn.
Dysgwch fwy am y diwylliant rydym wedi ymrwymo i’w feithrin ym Maint Cymru drwy ddarllen ein Hegwyddorion Canllaw . Mae’r rhain yn llywio’r ffyrdd rydym yn rhyngweithio, y penderfyniadau rydym yn eu gwneud, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.