Mae Maint Cymru yn elusen sy’n gwneud Cymru yn rhan o’r ateb byd-eang mewn perthynas â newid hinsawdd. Defnyddiwyd “maint Cymru” fel uned fesur am ddegawdau, ar gyfer dinistrio ein cynefinoedd naturiol mwyaf gwerthfawr ond ers 2010, rydym wedi dod â’n cenedl at ei gilydd i newid hyn.
Gyda’n gilydd, rydym yn ceisio cyflawni’r canlynol:
(i) gweithio gyda chymunedau brodorol a lleol ar draws y byd i ddiogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru – a thyfu miliynau o goed.
(ii) addysgu ac ysbrydoli pobl yng Nghymru, yn enwedig pobl ifanc, i gydnabod rôl hanfodol coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a sut mae’n rhaid i ni gefnogi cymunedau brodorol a lleol i ddiogelu’r hinsawdd, bioamrywiaeth a bywoliaethau.
(iii) ymgyrchu i newid polisi, a galw ar Gymru i ddod yn genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd, i ddiogelu coedwigoedd trofannol dramor.
Ein gweledigaeth yw helpu i greu dyfodol lle gall cymunedau coedwigoedd ffynnu ochr yn ochr â choedwigoedd trofannol iach – i wneud ein cenedl yn rhan o’r ateb, yn hytrach na’n rhan o’r broblem.
Gallwch ddysgu mwy am y diwylliant rydym wedi ymrwymo i’w feithrin yn Maint Cymru, drwy ddarllen ein Hegwyddorion Arweiniol yma. Mae’r rhain yn cefnogi’r ffyrdd rydym yn rhyngweithio, ein penderfyniadau a’n gwaith.