Yn ddiweddar, derbyniom y newyddion trist bod coedwig gymunedol Pematang Gadung yn Borneo, sydd eisoes wedi’i difrodi gan dân, wedi dioddef yn sgîl rhagor o danau dinistriol.
Yn 2015, yn ystod tymor arbennig o sych, gwelwyd tanau yn difrodi dros 2,000 hectar o goedwigoedd trofannol. Gwaethygwyd graddfa’r difrod gan weithgareddau anthropogenig fel torri coed ac ailgyfeirio dyfrffyrdd, a adawodd yr ardal yn fwy agored i dân. Mae’r ardal hon o goedwig yn gartref i ddwysedd uchel o orangwtaniaid.
Ers tân 2015, a chyda cymorth Maint Cymru, mae International Animal Rescue wedi dechrau gweithio i baratoi’r goedwig i ailblannu 75,000 o eginblanhigion coed. Bydd yr ymdrechion hyn yn lleihau lefel risg tanau yn y dyfodol ond hefyd, yn adfer y cynefin hanfodol hwnnw ar gyfer y boblogaeth orangwtaniaid. Fodd bynnag, mae’r gwaith pwysig hwnnw wedi cael ei amharu gan y tanau coed dinistriol pellach ar draws yr ardal yn ystod y tymor sych hwn.
Rydym angen eich help ar frys, i’n galluogi i gefnogi ymdrechion y gymuned i baratoi’r goedwig sydd wedi llosgi yn gyflym ar gyfer ailblannu, fel y gallant fynd yn ôl ar y trywydd iawn gyda’u gwaith ailgoedwigo, a fydd yn ei dro, yn lleihau’r risg o danau pellach. Gallwch gyfrannu at y prosiect hwn [yma]
