Mae’r diffyg cyfleoedd gwaith yn economi caled Zimbabwe, yn ogystal â thwf mewn poblogaeth, wedi arwain at gynnydd mewn amaethyddiaeth anghynaladwy ar raddfa fechan mewn ardaloedd anffrwythlon. Mae hyn wedi achosi dirywiad mewn coedwigoedd ac wedi effeithio’n gryf ar ecosystemau brodorol. Ar ben hynny, mae gan Zimbabwe un o’r sgoriau Mynegai Datblygiad Dynol isaf y byd, ac mae wedi dioddef o aflonyddwch rhyfel a sifil.
Gyda chymunedau yn clirio mwy o dir nag erioed ar gyfer ffermio a choed tanwydd, mae mwy na 3% o orchudd coedwig Gogledd Zimbabwe wedi cael ei golli bob blwyddyn. Yn wir, mae Zimbabwe wedi colli mwy na dwy ran o dair o’i goedwigoedd brodorol. Er mwyn mynd i’r afael â datgoedwigo, mae’n rhaid mynd i’r afael â lliniaru tlodi a newyn hefyd, trwy greu cymunedau sy’n economaidd hyfyw, iach, cynaliadwy a grymus.
Nod cyffredinol y prosiect Kariba REDD+ ydy creu cyfleoedd ac incwm i gymunedau lleol drwy neilltuo mwy o werth ariannol i goedwigoedd a bywyd gwyllt pan maen nhw’n iach ac yn ffynnu, yn hytrach na phan maen nhw’n cael eu torri i lawr yn anghyfreithlon a thrwy hynny, diogelu tua 785,000 hectar o goedwig a bywyd gwyllt ar lannau deheuol Llyn Kariba.
DS: Ystyr REDD ydy ‘Reducing Emissions from Deforestation and Degradation’. Mae’r + yn golygu ‘Cadwraeth a Datblygiad Cynaliadwy’.
Dyma’r amcanion penodol:
Mae’r prosiect Kariba REDD + cymunedol hwn yn cael ei weinyddu gan gymunedau lleol pedair Ardal Wledig: Binga, Nyaminyami, Hurungwe a Mbire.
Mae ystod o weithgareddau cynaliadwy a gynigiwyd gan gymunedau lleol wedi cael eu gweithredu er mwyn diogelu ardaloedd bioamrywiaeth pwysig coedwigoedd Miombo a Mopane, tra’n sicrhau cyfraniadau sylweddol ar yr un pryd, i liniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Cynhyrchwyd refeniw pellach o ganlyniad i raglen gwrthbwyso carbon, sydd wedi atal dros 18.1 miliwn tunnell o CO2 rhag mynd i mewn i’r atmosffer trwy lai o ddatgoedwigo yn unig. Drwy brynu credydau carbon trwy brosiect Kariba, gall cwmnïau wrthbwyso eu hallyriadau, a gwybod eu bod nhw’n helpu’r amgylchedd a hefyd, yn newid bywydau er gwell.
Mae cyfran o incwm carbon y prosiect yn cael ei sianelu trwy Gronfa Cynaliadwyedd Cymuned a Phrosiect y prosiect er budd cymunedau cyfan, drwy wella iechyd ac addysg yn ardal y prosiect.
Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli ar lan ddeheuol Llyn Kariba, argae o waith dyn yng Ngogledd Zimbabwe. Mae’r prosiect yn cysylltu pedwar Parc Cenedlaethol ac wyth o warchodfeydd bywyd gwyllt i ffurfio coridor bioamrywiaeth enfawr yng Ngogledd Zimbabwe, sy’n diogelu coedwig glaw eang a nifer o rywogaethau sy’n agored i niwed ac mewn perygl.
Mae safle’r prosiect Kariba REDD+ wedi’i leoli yn y Cyngor Dosbarth Gwledig yng Ngogledd Zimbabwe, ac mae’n ymestyn dros fwy na 1,000,000 hectar, sy’n cynnwys 786,000 hectar o dir coedwig a 250,000 hectar o dir amaethyddol cymunedol.
Diolch i’w bioamrywiaeth rhagorol a’r ffordd y mae’r prosiect wedi darparu ffyrdd o addasu i newid yn yr hinsawdd, mae’r prosiect wedi’i gofrestru a’i wirio gan y Safonau Carbon wedi’u DIlysu (VCS) a Safonau’r CCB (Climate, Community and Biodiversity) ar Lefel Aur, sef y lefel uchaf o achrediad.
Mae ardal y prosiect yn gartref i 200,000 o bobl, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i’r grŵp ethnig Tonga neu Shona. Yn draddodiadol, mae’r llwyth Tonga yn tyfu gerddi ym morglawdd ffrwythlon yr afon, a chollodd llawer eu tir ar hyd glannau’r Afon Zambezi pan orlifodd Llyn Kariba. Yn draddodiadol, mae’r llwyth Tonga yn ffermio porfeydd ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amaethyddol.
Factsheet: Kariba REDD+ Forest Protection Zimbabwe. Source: South Pole Group. 20/09/2018
Press Release: Welsh Environmental Charity Helps Protect an Area of Rainforest Twice the Size of Wales. Source: Size of Wales. 15/06/2017
Article: Reaping fruits of saving environment. Source: The Zimbabwean. 18/01/2017
Blog: Why I Get Out of Bed Every Morning. Source: South Pole. 06/07/2016
Report: Kariba REDD+ Project Monitoring & Implementation Report 2014-2016. Source: South Pole. 28/09/2016
Article: The Effects of Climate Change in Zimbabwe. Source: One Young World. 11/12/2015
Fact sheet: Project Fact Sheet Kariba REDD+ forest protection, Zimbabwe. Source: South Pole. 12/06/2015
The Zurich-based South Pole began as a project-driven company focused on developing and selling high-quality carbon credits. South Pole help public and private sector organisations develop climate proven policies and strategies. The company operates across four key business lines of carbon credit solutions, renewable energy, sustainability advisory and green finance. Areas of expertise cover forests & land use, water, sustainable cities & buildings, as well as renewable energy and climate impact assessment for investments.