
Mae Prosiect Coedwig Gymunedol Boré yn tyfu coed ar hyd y cyhydedd, lle maen nhw’n fwyaf effeithiol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r prosiect yn tyfu’n sylweddol, ac yn dyblu ei gapasiti tyfu coed, yn hyrwyddo bywoliaeth amgylcheddol gynaliadwy, ac yn cefnogi menywod lleol i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Mae cymuned Boré yn eistedd yn uniongyrchol ar y cyhydedd yn Nwyrain Kenya. Mae’n gartref i’r Giriama, sef grŵp ethnig bach o 2 filiwn o bobl sydd heb gynrychiolaeth wleidyddol, ac sydd ddim yn cael fawr o gefnogaeth gan y wladwriaeth.
Yn draddodiadol, mae’r Giriama yn ffermwyr cynhaliaeth, ac mae tywydd cynyddol afreolaidd sydd yn cael ei achosi gan newid yn yr hinsawdd, fel llifogydd a sychder difrifol, wedi arwain at fethiant dro ar ôl tro yn eu cnydau, ac mae llawer erbyn hyn yn wynebu ansicrwydd bwyd acíwt.
Mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth lleol wedi arwain at bobl yn llosgi siarcol fel ffynhonnell incwm allweddol. Mae hyn wedi dod yn un o brif sbardunau datgoedwigo yn y rhanbarth.
Amcangyfrifir bod gorchudd coedwig Kenya rhwng 6-8%, sy’n isel iawn. Rhwng 2001 a 2020, collodd Kenya 361,000 hectar o orchudd coed, ac roedd 49,000 o hyn yn goedwig yn ei gyflwr naturiol. Nid yw’r targed cenedlaethol i gynyddu gorchudd coedwig i 10% erbyn 2022 wedi’i gyrraedd eto.
Mae diogelu ac aildyfu coedwigoedd trofannol yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd rhyngwladol, a chyfyngu ar godiadau mewn tymheredd byd-eang. Felly, mae hwn yn fater sy’n effeithio ar bob un ohonom.
Mae prosiect Coedwig Gymunedol Boré, a sefydlwyd yn 2008, yn cymryd camau drwy dyfu coed a datblygu bywoliaeth gynaliadwy amgen, ac yn dargyfeirio pobl i ffwrdd o’r angen i losgi siarcol.
Diolch i gynnydd mawr yn y cyllid gan Maint Cymru a’i gefnogwyr, mae’r fenter hon sydd yn cael ei harwain gan y gymuned yn ehangu’n sylweddol, a bydd yn gwneud cyfraniad rhanbarthol pwysig at gynyddu gorchudd coedwig Kenya yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn gyntaf, mae’r prosiect yn dyblu nifer y coed sydd yn cael eu plannu bob blwyddyn o 500,000 i 1 miliwn. Mae hadau coed yn cael eu dosbarthu gan staff y feithrinfa i tua 3,000 o ffermwyr ac 80 o ysgolion. Mae hyfforddiant yn cael ei roi i aelodau’r gymuned ar sut i gasglu rhywogaethau hadau brodorol lleol.
Bydd y gymuned yn cael ei chefnogi i gynyddu’r ardal bresennol o goedwig sy’n cael ei stiwardio gan y gymuned 1,200 hectar o fewn 3 blynedd, a chanolbwyntio’n arbennig ar ddiogelu coedwigoedd sanctaidd Kaya. Mae Kaya yn air Swahili sy’n golygu cartref.
Nod y prosiect hefyd yw creu cyfleoedd bywoliaeth fwy cynaliadwy, sy’n galluogi cymuned Boré i ddiogelu yn hytrach na diraddio eu hadnoddau coedwig lleol sy’n bwysig dros ben. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn cefnogi dros 400 o bobl gyda swyddi uniongyrchol neu grantiau bach i ddatblygu busnesau. Fel rhan o hyn:
Mae prosiect Coedwig Gymunedol Boré yn derbyn cymorth gan ddwy ‘Siop Hinsawdd’ newydd yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Yn y siopau unigryw hyn, mae pobl sy’n pryderu am ddatgoedwigo trofannol, colli bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd, yn rhoi eu heitemau cartref diangen i gael eu hatgyweirio, eu huwchgylchu ac yna, i’w gwerthu. Mae’r holl elw’n mynd i ariannu plannu coed trofannol yn Boré. Os hoffech chi droi rhywfaint o’r pethau dydych chi ddim eu heisiau yn goed yn Kenya, ewch i www.climateshop.org, neu dilynwch Siop Hinsawdd ar Facebook.
Community Carbon Link is a unique partnership that connects towns and villages in mid-Wales with the region of Bore in Coast Province, Kenya. It’s a Wales / Africa community link that encourages ordinary people in the UK to take responsibility for their large carbon footprint by supporting sustainable forestry projects with African partners.
The link enables the communities in Kenya to conserve their endangered forest and build resilience, capacity and adaptation against a rapidly changing climate.