Guyana: Hawliau Tir Wapichan

Rhowch i'r Prosiect hwn 1,400,000 Hectares
Gweithio gyda'n partner: Working Partner

Wa wiizi wuru’u aonaa turuu wakasha paan niiz – This is our land and we cannot be parted from it

Yr Her

Mae cymuned Wapichan de-orllewin Guyana yn dymuno cael hawl cyfreithiol i’w tir traddodiadol i ddiogelu eu tiroedd, eu coedwigoedd a’u ffordd o fyw ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae’r gymuned wedi bod yn ceisio cael cydnabyddiaeth gyfreithiol lawn o’u tiroedd ers y cyfnod cyn iddynt ddod yn annibynnol oddi wrth Brydain ym 1966. Pumdeg mlynedd yn ddiweddarach, a dim ond ffracsiwn o’u tiriogaeth hynafol o gwmpas eu prif bentrefi (tua 15%) y mae gan y gymuned Wapichan yr hawl iddo.
Mae’r rhan fwyaf o dir cyfunol y gymuned Wapichan sydd heb deitl yn parhau i fod yn agored i weithgareddau fel cribddeilio tir yn ymosodol, torri coed yn ddinistriol a mwyngloddio anghyfreithlon. Dros y ddwy ddegawd ddiwethaf, mae Pentrefi’r Wapichan wedi cynyddu eu hymdrechion i ysgogi eu pobl i warchod a diogelu eu tiriogaeth rhag cloddwyr tir a datblygiad dinistriol. Ers diwedd y 1990au, mae’r cymunedau wedi gweithio i ddatblygu mapiau a chynlluniau manwl i ofalu am eu tiroedd, coedwigoedd, gwlypdiroedd ac adnoddau naturiol.
O ganlyniad i’r gweithgareddau hyn, mae’r gymuned Wapichan bellach wedi cyrraedd pwynt pwysig. Yn 2015, cytunodd llywodraeth Guyana o’r diwedd i gyfranogi mewn trafodaethau ffurfiol ynghylch y mater o hawlio tir yn nhiriogaeth y Wapichan sydd heb ei ddatrys, gan gynnwys tiroedd sydd â choedwigoedd glaw hynafol eang sy’n cynnwys coediwgoedd glaw â hen dwf o oes eu cyndeidiau. Mae angen taer am barhad cefnogaeth gan gynghreiriaid, rhoddwyr a phobl ar draws y byd i helpu’r gymuned Wapichan i fanteisio’n llawn ar y broses anheddiad tir hwn, ac i fwyhau’r potensial ar gyfer canlyniadau cadarnhaol i bobl, diwylliant, coedwigoedd glaw ac i’r hinsawdd fyd-eang.
Felly, mae’r prosiect hwn yn bodloni’r angen i adeiladu cam hanfodol ymlaen er mwyn galluogi’r gymuned Wapichan i ddatblygu eu hawl i’w tiroedd ac i atgyfnerthu eu cynlluniau arloesol ar gyfer bywiocáu diwylliannol ac i ddefnyddio a diogelu eu coedwig fawr sydd yn nwylo’r gymuned.

Nodau'r Prosiect

Mae’r cymunedau Wapichan yn bwriadu creu un o goedwigoedd cymunedol mwyaf y byd – dros 1.4 miliwn hectar, lle byddan nhw’n bwriadu gwahardd datblygiadau diwydiannol a gofalu am gynefinoedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt, anifeiliaid hela, adar a physgod. Mae’r pentrefi wedi cytuno y byddant yn dal i allu hela, pysgota a chynaeafu deunyddiau adeiladu a deunyddiau ar gyfer meddygaeth draddodiadol o fewn y goedwig gadwraethol, yn unol â thraddodiad a rheolau’r pentref ynglŷn â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau.
Nod cyffredinol y prosiect hwn ydy cynorthwyo cymuned y Wapichan i ddiogelu tiriogaeth eu cyndeidiau yn gyfreithiol ac i gynnal eu gwybodaeth am goedwigaeth draddodiadol er mwyn cynnal eu ffordd o fyw, cynnal ecosystemau coedwig iach, cyfrannu at liniaru’r newid yn yr hinsawdd a hybu bywoliaeth gynaliadwy.
Dyma rywfaint o’r nodau penodol:
Darparu cyngor a hyfforddiant cyfreithiol i bentrefi’r Wapichan a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli, i gyfranogi’n effeithiol mewn trafodaethau ffurfiol ynghylch y tir gyda llywodraeth Guyana er mwyn datblygu’r hawliadau i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u tiriogaeth draddodiadol, gan gynnwys perchenogaeth, hawliau rheoli a rheolaeth dros Goedwig Gadwraethol y Wapichan.
Casglu tystiolaeth am feddiannaeth a’r defnydd traddodiadol o diroedd coedwigoedd, i gryfhau’r trafodaethau ffurfiol am y tir gyda llywodraeth Guyana.
Sefydlu dwy orsaf i fonitro caeau mewn ardaloedd anghysbell yn y goedwig, i gryfhau gweithgareddau monitro coedwigoedd cymunedol
Sefydlu “ysgolion y goedwig” yng ngorsafoedd y goedwig i ddarparu lle yn y goedwig i henuriaid a deiliaid gwybodaeth draddodiadol rannu eu gwybodaeth â’r genhedlaeth iau.

Sut mae'n gweithio

Darparu hyfforddiant a chyngor cyfreithiol i gynorthwyo aelodau’r Wapichan, a sicrhau bod gan gynrychiolwyr yr adnoddau gorau i fynegi eu tystiolaeth, eu gofynion a’u cynigion, a chyflwyno dadleuon cyfreithiol yn y trafodaethau gyda’r llywodraeth i ddiogelu eu tiroedd yn llwyddiannus er lles cenedlaethau’r dyfodol o’r gymuned Wapichan, poblogaeth ehangach Guyana, a’r gymuned ryngwladol.
Hyfforddiant ynghylch casglu data am feddiannu a defnyddio coedwigoedd, iechyd ecosystemau a thresmasu anghyfreithlon i’w cynnwys mewn Adroddiadau Ymchwil ynghylch estyn teitl tir yn ffurfiol.
Sefydlu dwy orsaf mewn coedwigoedd er mwyn monitro tiroedd coedwig y gymuned Wapichan yn fwy effeithiol.
Bydd yr un gorsafoedd hyn yn cael eu defnyddio’n ddiweddarach fel ‘ysgolion’ coedwig, sy’n cynnig lle i’r henoed i ddysgu pobl ifanc am wybodaeth ynghylch coedwigoedd, arferion, traddodiadau a sgiliau hela traddodiadol, fel crefftau, defnyddio meddyginiaethau traddodiadol a gweithgareddau defodol a seremonïol. Bydd y gorsafoedd hyn yn cynnig potensial sylweddol hefyd ar gyfer rhaglenni cyfnewid rhwng plant ysgol y gymuned Wapichan a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn meithrin undod a chyfnewid diwylliannau.
Cynorthwyo ag ymdrechion y Wapichan i gynnal eu gwybodaeth ynghylch coedwigaeth draddodiadol yn fyw, trwy gasglu a chofnodi gwybodaeth am bwysigrwydd diwylliannol, hanesyddol ac ysbrydol. Bydd y dystiolaeth ychwanegol hon yn cael ei defnyddio hefyd i ategu’r trafodaethau ynghylch y tir ac i atgyfnerthu hawliadau dros ardaloedd coedwigoedd anghysbell yn nhiriogaeth y Wapichan.
Cynorthwyo’r Wapichan i ddatblygu a chyhoeddi eu gwefan Wapichan eu hunain, sy’n cynnwys opsiynau ar gyfer siop ar-lein â chynnyrch a chrefftau lleol.

Lle a Phobl

Mae gan y gymuned Wapichan boblogaeth o ddim ond 9,000 wedi’i gwasgaru ar draws 21 o gymunedau, ac mae ei thiriogaeth yn gorchuddio 2.8 miliwn hectar (sef ardal sy’n fwy na maint Cymru), ac yn cynnwys 1.4 miliwn hectar o goedwig sydd yng ngofal y gymuned. Maen nhw’n ennill bywoliaeth o ffermio ar raddfa fechan, hela, pysgota a chasglu, gweithgareddau y maent yn eu gwneud dros yr ardal gyfan ers cenedlaethau. Dros genedlaethau o feddiannaeth, mae’r cymunedau wedi cronni gwybodaeth fanwl am yr amrywiaeth yn eu hamgylchedd ac am amrywiaeth y planhigion a’r anifeiliaid a geir yn South Rupununi. Gall ffermwyr y Wapichan, er enghraifft, ddweud rhywbeth am ffrwythlondeb y pridd drwy’r mathau o blanhigion gwyllt sy’n tyfu yno. Mae llawer o enwau lleoedd yn deillio o ecoleg a’r planhigion a’r anifeiliaid lleol niferus mewn mannau penodol, er enghraifft, mae Achawib yn golygu “Lle â digonedd o arlleg gwyllt”.
Mae eu tiriogaeth, sy’n rhan o fasn Essequibo Uchaf, wedi’i lleoli yn ne-orllewin Guyana. Mae ei ffin orllewinol yn gorwedd ar hyd ffin Guyana â Brasil. Mae’r tir yn gorchuddio coedwig law eang sy’n cynnwys hen dwf a chyfoeth sylweddol o ran bioamrywiaeth, amrywiaeth eang o ecosystemau eraill, gan gynnwys gwlypdiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd rhannol naturiol, a digonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau dan fygythiad fel dyfrgwn afonydd mawr, jagwariaid, a chŵn gwyllt prin yn ogystal â rhywogaethau endemig o bysgod ac adar, fel Aderyn y Morgrug Rio Branco. Mae gan y coedwigoedd gapasiti enfawr hefyd i storio carbon a darparu gwasanaethau ecosystem.
Mae’r goedwig mewn ardaloedd anghysbell yn cael ei gwerthfawrogi hefyd gan y Wapichan fel “tiroedd amlhau” (mannau bridio a bwydo) anifeiliaid, adar a phryfed. Mae’r tiroedd hyn yn cael eu hystyried yn rhan annatod o diriogaeth cyndeidiau y gymuned Wapichan. Ni chânt eu hystyried fel rhai ar wahân neu “wag” (fel y mae’r llywodraeth a’r arfordirwyr sydd ddim yn frodorol yn tueddu i’w hystyried) ond yn hytrach, yn rhan o set gyfan o gymunedau o fodau byw wahanol ac amrywiol yn nhiriogaeth y Wapichan.
Mae henoed a phreswylwyr y pentref yn pwysleisio bod eu “Mam Goedwig” yn oeri’r hinsawdd leol ac yn dod â glaw i’r rhanbarth.
We make our living from our mother forest. She provides us with all the things we need. She is like our storehouse. And the trees give us clean air to breathe. The bush contains sacred areas, old settlement sites, ceremonial grounds of our fore fathers. Those places are special to us.

Straeon

Nodau Cynaladwyedd

Ynglŷn â'r partner

Forest Peoples Programme (FPP) are based in the UK but work with forest-dwelling communities across the globe, supporting them to promote an alternative vision of how forests should be managed and controlled, based on respect for the rights of the peoples who know them best.