Mae’r coedwigoedd trofannol yng Ngogledd-ddwyrain y Congo yn gartref i niferoedd anhygoel o fflora a ffawna, gan gynnwys nifer o rywogaethau endemig, fel y gorila Grauer, Bosman’s potto a’r Paun Congolaidd. Mae’r coedwigoedd helaeth hyn yn gartref hefyd i ryw 40 miliwn o bobl.
Fodd bynnag, mae tlodi eithafol eang – gyda’r rhan fwyaf o bobl yn byw ar lai na $1 y dydd – wedi arwain at gyfleoedd bywoliaeth cyfyngedig a dim llawer o gapasiti i bobl ddiogelu eu hadnoddau naturiol. Mae nifer o fygythiadau gan gymunedau sy’n byw yn y goedwig, fel ehangu amaethyddol, arferion amaethyddol gwael a phori anifeiliaid, yn rhoi pwysau cynyddol ar y coedwigoedd gwerthfawr hyn. Yn yr un modd, mae’r arfer amaethyddol cyffredin, o’r enw ‘slash and burn’, sy’n cael ei ddilyn gan gylchdroadau cnydau gwael, yn arwain at ddinistrio coed ymhellach i greu hyd yn oed mwy o gaeau.
Mae tresmasiadau allanol i’r coedwigoedd yn sgîl gweithgareddau fel mwyngloddio a thorri coed at ddibenion masnachol, a mwy o fasnachu anghynaladwy mewn cynhyrchion adnoddau naturiol, yn profi’n niweidiol iawn hefyd.
Mae’n bwysig iawn ceisio lleihau datgoedwigo:
i helpu i atal swm mawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr rhag cael eu rhyddhau, a fyddai’n effeithio’n fawr ar newid yn yr hinsawdd ar lefel byd-eang; ac
at ddiben cadwraeth cynefinoedd, er lles y nifer o rywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a phobl sy’n byw ynddynt ac sy’n dibynnu ar y goedwig.
Nod cyffredinol y prosiect hwn ydy sefydlu dwy warchodfa dan arweiniad y gymuned, sef REGOLU (Réserve de Gorilles de Lubutu) a REGOMUKI (Réserve de Gorilles de Mukingiti & Kingombe), i weithredu fel unedau cadwraeth sy’n lleihau datgoedwigo, poetsio ac sy’n cefnogi datblygu bywoliaethau cynaliadwy i rymuso’r cymunedau sydd yn byw o fewn y gwarchodfeydd hyn.
Dyma rywfaint o brosiectau penodol:
Cefnogi newid mewn ymddygiad a datblygu bywoliaethau cynaliadwy er budd y cymunedau lleol sy’n dibynnu ar y goedwig, a sicrhau bod cymunedau cyfan yn cymryd rhan mewn cadwraeth coedwigoedd ac yn sgîl hynny, lleihau datgoedwigo.
Hyfforddi a chyfarparu timau cymunedol i fedru cynnal gweithgareddau biofonitro yn effeithiol i ddiogelu’r goedwig a’i fioamrywiaeth
Defnyddio’r timau Gwarchodfeydd Cymunedol (pum person yr un) bob mis i ddiogelu’r goedwig rhag gweithgarwch anghyfreithlon trwy fwy o gapasiti i batrolio a gorfodi’r gyfraith.
Mae cynnydd y prosiect hwn hyd yma wedi bod mewn ymateb uniongyrchol i ofynion y gymuned i’w hunanrymuso nhw ac i wella eu dyfodol. Cynhelir cyfarfodydd cymunedol rheolaidd gyda phobl leol i’w hannog nhw i nodi eu hanghenion a’r bywoliaethau cynaliadwy posibl y gallant ddibynnu arnynt fel ffynhonnell o ddatblygiad economaidd-gymdeithasol.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau fel:
Mae gan y rhanbarth helaeth hwn o goedwig yng ngogledd-ddwyrain Basn y Congo amrywiaeth eang anarferol o gynefinoedd (bytholwyrdd / mynyddog / coedwig rhannol fytholwyrdd, coedwig glaw yr iseldir, safanau a chorsydd) a gyda mwy na 10,000 o rywogaethau o blanhigion, maen nhw’n arwyddocaol iawn i’r hinsawdd ar draws y byd.
Maen nhw’n storio tua 17 biliwn o dunelli metrig o garbon – tua 8% o gyfanswm coedwig y ddaear o garbon.
Mae’r coedwigoedd yn gartref i ryw 40 miliwn o bobl sy’n dibynnu arnynt am eu hadnoddau a’u bywoliaethau. Dywedodd 100% o’r cartrefi a ofynnwyd iddynt, eu bod yn defnyddio pren i goginio, i gadw’n gynnes, i greu dillad ysgafn, i smwddio dillad ac i grilio cig. Mae bron i 80% o’r boblogaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth i fyw.
Y disgwyliad oes cyfartalog ydy 41.1 mlynedd. Mae cyfraddau addysg yn isel, ac mae 27% o ddynion heb gael addysg, o’i gymharu â 60% o fenywod.
Article: Project News in DRC. Source: Size of Wales. 15/05/2017
Article: Indigenous communities mapping forests in the DRC. Source: Size of Wales. 24/04/2014
Article: Extinction looms for forest elephants. Source: Fauna & Flora International. 06/03/2013
Article: Building brighter futures for communities in DRC. Source: Fauna & Flora International. 23/04/2012
Article: Species Profile: Mountain Gorilla. Source: Fauna & Flora International.
Article: Species Profile: Grauer’s Gorilla. Souorce: Fauna & Flora International.
Fauna & Flora International (FFI) – the world’s first international wildlife conservation organisation – mission is to conserve threatened species and ecosystems worldwide, choosing solutions that are sustainable, based on sound science, and which take into account human needs.
The Institut Congolais pour la Conservation de la Nature (ICCN) partners with FFI on this project. They have a mission to assure the protection of the fauna and flora in the network of protected areas of the Democratic Republic of Congo, to encourage research and tourism and to manage stations for capture and domestication of wild animals. ICCN manages five World Heritage sites including the Virunga National Park, Africa’s oldest park, and the Kahuzi-Biega National Park which conserves a large proportion of the endangered Grauer’s gorilla population. For more information: www.iccn.cd