Sicrhau bod uniondeb ecolegol adnoddau naturiol ac ardaloedd gwarchodedig fel coedwigoedd sanctaidd Kaya yn cael eu diogelu ar gyfer pobl, natur a’r economi.
Sefydlu a chynnal poblogaethau’r orangwtan hunangynhaliol yn y gwyllt drwy ailgoedwigo ardaloedd coedwigoedd trofannol sydd yn cael eu heffeithio gan danau coedwig a sychder yn Borneo.
Creu coedwigoedd sydd yn cael eu rheoli gan y gymuned a gwarchodfeydd bywyd gwyllt yn DRC, i warchod rhywogaethau endemig a pheryglus lleol, gan gynnwys y Gorilaod Grauer. Cefnogi cynlluniau defnydd tir, datblygu bywoliaethau cynaliadwy a lleihau datgoedwigo.
Creu cyfleoedd ac incwm i gymunedau coedwig lleol drwy gysylltu gwerth ariannol â choedwigoedd a bywyd gwyllt iach a ffyniannus a thrwy hynny, diogelu tua 785,000 hectar o goedwig a bywyd gwyllt Llyn Kariba yn Zimbabwe.
Nod y prosiect ydy galluogi Ymddiriedolaeth Tongwe, a’r pentrefi sydd yn cael eu cefnogi gan yr Ymddiriedolaeth, i ddiogelu, monitro a rheoli coedwig Tanzania, sef ardal sydd dan fygythiad datgoedwigo ac yn y dyfodol, prosiectau cloddio platinwm / nicel.
Bydd y prosiect hwn yn creu gwarchodfa eliffantod yn y goedwig naturiol sydd ar ôl. Bydd yr ardal hon, sydd newydd ddechrau cael ei diogelu, yn helpu i sicrhau bod bywoliaethau lleol yn parhau, a hwn fydd y prosiect coedwig gyntaf yn Nigeria i gael mynediad i gredydau carbon.
Gweithio gydag Eco Tribal – helpu pobl Ashaninka ym Mheriw i ddiogelu a chynnal eu coedwigoedd, ac ennill incwm heb werthu eu tir i drin a thorri coed, yn wahanol i lawer o gymunedau cyfagos.
Plannu 12,000 o goed ffrwythau dros gyfnod o dair blynedd mewn ardaloedd o amddifadedd eithafol yn ninas Addis Ababa yn Ethiopia.
Bydd y prosiect hwn yng Nghamerŵn yn cefnogi MIFCIG i ddatblygu arferion agrogoedwigaeth a thechnegau gwenynfa, i helpu pobl i ennill gwell bywoliaeth o’r tir sydd ganddynt y tu allan i’r goedwig ac yn sgîl hynny, osgoi agor tir amaeth newydd ar draul tir coedwig.
Creu coedwig newydd ym mhentref Kikole yn Tanzania, sydd yn cael ei rheoli gan y gymuned, a chefnogi cymunedau lleol i sicrhau hawliau cyfreithiol i reoli’r goedwig ar gyfer goroesiad hirdymor y coedwigoedd a’u cymunedau.
Defnyddio coed brodorol sy’n cael eu haddasu i dirwedd sych Malia, i gynhyrchu nwyddau y gellir eu marchnata. Mae pentrefwyr yn cael y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i greu busnesau sy’n ymwneud â choed.
Mae Madagasikara Voakajy yn cefnogi cymunedau i reoli’r goedwig sy’n eu cefnogi nhw, a broga’r Golden Mantella prin ym Madagascar.
Mae Well Grounded yn cefnogi sefydliadau ym masn Congo, sy’n galluogi’r gymuned leol i adnabod a mapio tir coedwig cyffredin mewn 150,000 hectar o goedwig, gyda’r bwriad o sicrhau hawliau masnachol ffurfiol i’r ardal.
Mae TFCG yn gweithio gyda mwy na 30,000 o bobl ym Mynyddoedd Rubeho; bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd datblygu cynaliadwy, yn datblygu rheolaeth goedwig effeithiol, ac yn diogelu adnoddau coedwigoedd; ac yn sgîl hynny, dileu defnydd dinistriol o’r coedwigoedd a gwella incwm.
Nod y prosiect hwn ydy ceisio sicrhau bod yr ardal yn cael ei diogelu yn barhaus, a bod y bobl sy’n byw o’i chwmpas yn elwa o hyn.