Profiadau Anna yng Ngorllewin Affrica

Posted on

By Anna Harris, Project Support Officer

Wrth i Gymru gael ei tharo gan y “Beast from the East”, roeddwn i’n ddigon ffodus o fod yn mynd i hinsawdd llawer cynhesach yn Nwyrain Affrica i ymweld â rhai o’n prosiectau coedwigoedd. Pwrpas y daith oedd cwrdd â staff a buddiolwyr prosiect i ddysgu sut mae’r prosiect o fudd i’w cymuned a’u hamgylchedd, beth ydy’r heriau mwyaf maen nhw’n eu hwynebu, a sut y gall Maint Cymru ddarparu’r gefnogaeth fwyaf angenrheidiol ac effeithiol posib.

Ymwelais â phrosiect WWF Kenya yn Nwyrain Kenya, lle maen nhw’n diogelu’r coedwigoedd arfordirolac yn gweithio i rymuso cymunedau lleol i leihau eu dibyniaeth ar adnoddau coedwigoedd. Oddi yno, teithiais i ganol y tir i Boré, i aros yng Nghanolfan Gymunedol Coedwig Boré, sydd newydd ei hagor. Mae’r prosiect hwn yn cael ei redeg gan Community Carbon Link – prosiect y mae Maint Cymru wedi’i ariannu yn y gorffennol – a phwrpas y rhan hon o’r daith oedd dysgu pa mor effeithiol a pharhaol oedd ein cyfraniad. Ar gyfer rhan olaf fy nhaith, hedfanais i Kampala, a dechrau taith saith awr ysgytiog mewn car i Mbale yn nwyrain Uganda, sef cartref ein prosiect 10 Miliwn o Goed.

Roedd yn brofiad anhygoel a gwerthfawr iawn, a gobeithio y gallaf wneud cyfiawnder â’r cymunedau hynod hyn drwy rannu straeon bywyd go iawn craff gyda chi dros y misoedd nesaf, gyda rhywfaint o enghreifftiau o lwyddiannau a heriau’r cymunedau hyn, mewn ymgais i fynegi yn union pa mor bwysig ydy’r prosiectau rydym yn eu hariannu, nid yn unig i’r cymunedau hyn ond hefyd, mewn perthynas â’r mater ehangach o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Bukhuakhua School children in the forests they’ve planted on the school grounds, talking to Anna about tree planting and the environment. Uganda.

Rwyf eisiau rhannu rhai o’r gwersi mwyaf trawiadol a ddysgais yn ystod fy amser yn Nwyrain Affrica. Y peth cyntaf a wnaeth fy nharo oedd pa mor gynnes ydy’r bobl – clywais ‘Kenya yw dy ail gartref!” sawl gwaith. Cyfarfyddais â chymaint o bobl oedd â’r un dyheadau a dymuniadau â ninnau, sydd eisiau gallu darparu ar gyfer eu teuluoedd a rhoi mynediad i addysg i’w plant. Y gwahaniaeth mwyaf yw nad oes rhaid i ni ymdrechu bob dydd am ein hanghenion neu gyflenwadau mwyaf sylfaenol fel dŵr neu danwydd ar gyfer coginio, neu arian i brynu bwyd wrth i gnydau fethu oherwydd yr hinsawdd sy’n cynhesu.  Ac mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Y canlyniad ydy cymunedau hynod ddyfeisgar a gwydn, sydd yn sefyll ynghyd yn wyneb gwrthdaro. Er enghraifft, mae grŵp plannu coed menywod ym Mbale, o’r enw Suunu Women, yn dod at ei gilydd bob wythnos i gyfrannu cyfran o’u hincwm, ac yn penderfynu beth sy’n digwydd gyda’r arian gyda’ gilydd, fel grŵp. Maen nhw naill ai’n rhoi benthyciadau bychain i bobl mewn angen, neu yn hawlio eu cyfran yn ôl fel cyfandaliad weithiau, sy’n gwneud talu taliadau mawr fel ffioedd ysgol neu filiau meddygol yn haws mewn byd lle mae pobl yn byw o’r llaw i’r genau.

Women weeding the seedlings at Bore Central Nursery. Bore, Kenya.

 

Women walking home from a day working at the tree nursery. Bore, Kenya.

 

 

 

 

 

 

 

Hoffwn ymhelaethu ar y pwynt hwn am eiliad. Mewn achosion ble mae cymunedau cyfan yn goroesi caledi go iawn, y menywod sy’n dioddef fwyaf yn sicr. Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod tra roeddwn i yn Uganda, sy’n cael ei ddathlu fel gwyliau cyhoeddus.  Ond yn hytrach na bod yn ddiwrnod i ddathlu menywod a’u brwydrau a’u cyflawniadau i ymladd yn erbyn anghydraddoldeb rhyw, mae’n ymddangos fel ei fod yn ddiwrnod ble mae dynion yn brolio am orfod coginio…am un diwrnod, sydd ddim ond yn atgyfnerthu’r stereoteip mai yn y gegin mae lle menywod.  Mae menywod yn gyfrifol am goginio, gofalu am y teulu, cadw cartref, mynd i nôl coed tân a dŵr (cario 20 litr o ddŵr am filltiroedd mewn 36 ° c) ac am wneud y rhan fwyaf o’r gwaith llafurus fel ffermio. Mae’n anodd mynd i’r afael â hyn, gan fod y rolau rhyw hyn yn gynhenid iawn yn y diwylliannau hyn, ac yn sicr, dydyn ni ddim eisiau gorfodi ein fframweithiau gorllewinol ‘normal’ arnyn nhw, ond os cofiwch bod hawliau menywod yn hawliau dynol, a bod menywod grymus yn cyfateb i deuluoedd a chymunedau grymus, yna rhaid inni fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr, pan fydd arian Maint Cymru yn cael ei ddefnyddio, bod pob ymdrech yn cael ei wneud i fynd i’r afael â hawliau menywod ac i ymdrechu dros gydraddoldeb rhywiol.

The Makunya Women’s Tree Planting Group. Mbale, Uganda.
The Makunya Women potting seedlings. Mbale, Uganda.

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarfyddais â grŵp plannu coed menywod Makunya tra ym Mbale. Mae gan y grŵp hyfryd hwn o fenywod gwlwm cadarn sy’n gynhyrfus dros ben, ac roedd yn bleser llwyr treulio amser gyda nhw. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi sefydlu meithrinfa plannu coed ac wedi dod yn rhan fawr o’r ateb mewn perthynas â’r materion amgylcheddol sy’n effeithio ar eu rhanbarth. Drwy eu rhan yn y prosiect Deg Miliwn o Goed, cawsant hyfforddiant hefyd ar osod stofiau coginio ynni effeithlon. Mae’r stofiau yn defnyddio hyd at 80% yn llai o goed tân o’i gymharu â stofiau traddodiadol, sydd yn lleihau’r pwysau’n syth ar goed y pentref. Maen nhw wedi gosod 20 o stofiau yn eu cymuned hyd yn hyn. Maen nhw’n enghraifft wych o fenywod grymus, sy’n gallu darparu a gofalu am eu cymuned ar yr un pryd.

Ymlaen i addysg. Mmm. Rhywsut, ymhlith dosbarthiadau o 88 o ddisgyblion, gyda dodrefn dros dro iawn, ac weithiau, dim dodrefn o gwbl, roedd yr athrawon â gyfarfyddais yn frwdfrydig dros ben am eu swyddi. Mae ganddynt ymdeimlad o werth go iawn yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, er gwaethaf y sefyllfaoedd braidd yn heriol. Addysg ydy popeth, ac os ydy cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu haddysgu a bod gan eu doniau a’u sgiliau le i dyfu a dangos, mae’n rhaid i’r dyfodol fod yn fwy disglair. Ond dydy llawer o deuluoedd ddim yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol a hyd yn oed os ydyn nhw’n gwneud hynny, bydd plentyn sy’n ei chael hi’n anodd yn cael trafferth cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae llawer o’r ysgolion yr ymwelais â nhw yn cymryd rhan mewn gweithgareddau plannu coed hefyd, ac mae ganddynt goedwigoedd sy’n edrych yn iach ar dir yr ysgol. Mae’r coed hyn yn darparu cysgod a ffrwythau i’r plant. Maen nhw’n dysgu gwersi gwerthfawr hefyd am gymryd cyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd ac yn sgil hynny, y byd ehangach.

Pupils of Kakuhani School with their young forests. Bore, Kenya.

Gwelais dro ar ôl tro, y manteision lu sydd yn ymledu pan fydd cymunedau’n plannu coed. Mae’r wyth miliwn o goed sydd wedi cael eu plannu ym Mbale yn barod wedi helpu i ail-reoli’r glaw, a gall ffermwyr sydd wedi cael hyfforddiant mewn technegau ffermio agro-goedwigaeth dyfu coffi, amrywiaeth eang o ffrwythau trofannol, a chadw gwenyn yn y coed gyda busnesau gwerthu mêl bach ar blotiau cymharol fach. Yn fwy na hynny, gydag addysg, mae cymunedau’n deall bod rhywogaethau sy’n tyfu’n gyflym, ac sy’n ail-dyfu, yn well ar gyfer coed tân; bod rhywogaethau pren caled sy’n tyfu’n syth yn ddelfrydol i’w defnyddio fel coed, ac maen nhw’n deall pa goed sy’n darparu meddyginiaethau a ffrwythau pwysig ac felly, sydd werth mwy yn sefyll. Mae mentrau plannu coed yn darparu cyfleoedd gwaith hefyd, fel gweithredwyr gwelyau meithrinfeydd i bobl fel Benzi, Mbuche a Fatuma [yn y llun] sy’n gweithio i Gogoni Conservation Group yn Kwale County, Kenya, a chlercod data fel Nuwa [yn y llun] o Mbale, sy’n cadw golwg ar gynnydd y coed sydd wedi’u plannu ymhlith y cymunedau, ac sy’n sicrhau bod y rheiny sy’n derbyn yr eginblanhigion yn gwybod y llefydd gorau i blannu rhywogaethau penodol, a sut i ofalu amdanynt.

Nuwa, Ten Million Trees data clerk monitoring success of seedlings. Mbale, Uganda.
Benzi, Anna, Fatuma and Mbuche (L to R) with a mzambarau seedling. Kwale County, Kenya.


Mae ardaloedd sydd â gorchudd coed uchel yn llai tebygol o gael llifogydd hefyd, wrth i ddŵr lifo’n arafach ac wrth i’r pridd gadw ei faetholion a chreu pridd mwy ffrwythlon. Mae gwreiddiau coeden yn gwneud y pridd yn fwy diogel, ac mae tirlithriadau’n llawer llai tebygol o ddigwydd yn yr ardaloedd hyn. Maen nhw’n glanhau’r aer lleol ac yn oeri’r aer ar draws y byd. Ac maen nhw’n hardd iawn hefyd.

Does dim i’w golli drwy blannu coed, coed ydy’r ffordd ymlaen!

Deforested land of the Giriama people. Bore, Kenya.

Yn Boré, dydy pobl Giriama ddim wedi cael cynhaeaf da ers chwe blynedd oherwydd syrffed arbennig o hir. Mae hyn yn ddinistriol i gymuned ffermio. Nid oes ganddynt unrhyw ddewis heblaw am dorri coed a gwneud siarcol, sydd ond yn gwaethygu’r broblem ymhellach. Mae’n hawdd gweld sut y gall cymunedau sy’n agored i niwed fynd yn styc mewn cylch peryglus. Mae tywydd eithafol sydd yn cael ei achosi gan ein planed yn cynhesu yn niweidio’r isadeiledd, yr economi ac mewn llawer o achosion, eu ffynhonnell incwm (sydd eisoes yn isel). Mae hyn yn golygu bod angen i bobl ddibynnu ar y tir er mwyn goroesi, a bod camddefnydd anghynaladwy o’r tir yn gwneud i’r tywydd waethygu. Dyma pam y mae dwy elfen i’r rhan fwyaf o’n prosiectau: 1) i blannu coed a diogelu’r rheiny sy’n dal i sefyll 2) cynnig ffrydiau incwm eraill a fydd yn lleihau dibyniaeth cymunedau ar adnoddau coedwigoedd.

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n negyddol ar gymaint o agweddau mewn bywyd. Mae’n fater pellgyrhaeddol, a thrwy fynd i’r afael â hyn, gallwn wella ansawdd bywyd pobl, iechyd, yr economi, dod â gwydnwch a chydlyniad i gymunedau, gwella eu bywoliaeth a darparu’r sgiliau a’r galluoedd angenrheidiol i ddatblygu cymuned sydd wedi’i haddysgu a’i grymuso ar eu cyfer nhw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Hoffwn ddiolch yn fawr i Cymru o Blaid Africa am ariannu’r daith, i bob un o’r tri phrosiect oedd yn westeion hyfryd a hael, ac i bawb a gyfarfyddais ar y ffordd a rannodd eu stori gyda mi.


Tweet Rhannwch ar Facebook