Ymunodd Alison â Maint Cymru yn 2022, gan ychwanegu at dîm Addysg Gogledd Cymru Maint Cymru. Cyn symud i Ogledd Cymru, roedd Alison yn dysgu Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn Llundain. Mae hi’n angerddol am addysg greadigol ac egnïol, ac yn gweld y celfyddydau’n adnodd pwysig i gyfathrebu llawer o bynciau. Mae hi’n edrych ymlaen at ddatblygu mwy o weithdai i ysgolion uwchradd.
Mae Alison yn Ddarlunydd llawrydd hefyd, felly dylech ddisgwyl gweld dŵdls ac animeiddiadau’n sleifio i mewn i’w sesiynau!