Blog: Pam y mae’n rhaid i Gymru arwain wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Posted on

Mae Carwyn Jones, a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar fel Cadeirydd Maint Cymru, yn trafod newid yn yr hinsawdd a’r hyn mae’n gobeithio ei gyflawni yn ei rôl newydd. Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y Western Mail ar 24 Mai 2021.

Ar ôl sefyll i lawr o’r Senedd fis diwethaf, roeddwn yn wynebu’r cwestiwn o beth i’w wneud gyda fy mywyd ar ôl gwleidyddiaeth. Fel aelod o’n senedd genedlaethol am ddwy flynedd ar hugain, tyfodd llawer o achosion pwysig yn agos at fy nghalon y byddaf yn parhau i’w cefnogi. Fodd bynnag, un nad oeddwn yn gallu ei anwybyddu yw’r bygythiad cynyddol o newid yn yr hinsawdd.

Roedd bod yn Brif Weinidog Cymru yn anrhydedd mwyaf fy mywyd, ac roedd yn fraint gwneud penderfyniadau ar y materion mawr sy’n wynebu’r wlad. Yn 2016, roeddwn yn falch pan basiodd y Senedd Ddeddf yr Amgylchedd, a osododd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru yn unol â’r gyfraith i leihau allyriadau carbon, a dod â’r amgylchedd wrth wraidd yr holl benderfyniadau sydd yn cael eu gwneud. Fodd bynnag, ni all yr argyfwng hinsawdd byd-eang parhaus gael ei oresgyn gan unrhyw wleidydd neu wlad unigol yn unig, a rhaid inni weithredu gyda’n gilydd fel cymuned ryngwladol i’w drechu.

Fel rhan o fy ymrwymiad i ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd, rwyf yn falch o ddechrau yn fy rôl newydd fel Cadeirydd Maint Cymru, elusen amgylcheddol yng Nghymru y deuais i’w hadnabod yn dda fel Prif Weinidog. Mae’r blaned yn colli tua 18 miliwn hectar o goedwig bob blwyddyn, ardal sy’n cyfateb i naw gwaith maint Cymru.  Yn aml yn cael ei yrru gan y galw am gynnyrch bob dydd sydd yn cael eu defnyddio yma yng Nghymru a gwledydd eraill, fel olew palmwydd, soia sydd yn cael ei ddefnyddio mewn porthiant anifeiliaid, a chig eidion, datgoedwigo sy’n gyfrifol am tua 10-15% o allyriadau carbon byd-eang. Mae Maint Cymru yn gweithio i droi’r metrig negyddol hwn sy’n gysylltiedig â’n gwlad yn rhywbeth cadarnhaol, trwy ddiogelu coedwigoedd trofannol a phlannu coed mewn rhannau o’r byd sydd wedi’u datgoedwigo’n drwm.

Yn 2014, roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld â Dwyrain Uganda, lle mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Maint Cymru a phartneriaid lleol i redeg Rhaglen Plannu Coed Mbale. Plannais yr un miliynfed coeden, a gwelais yn uniongyrchol sut mae’r rhaglen hon o fudd i’r hinsawdd a bywoliaeth pobl leol yn Mbale. Plannodd y rhaglen ei 15 miliynfed coeden yn ddiweddar, ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ar draws cyfandiroedd, i fynd i’r afael â phroblem mor fawr â newid yn yr hinsawdd.

Carwyn yn plannu’r un miliynfed coeden fel rhan o’r Rhaglen Plannu Coed Mbale yn 2014.

Fel fy ngweithred gyntaf yn y rôl newydd hon, rwy’n galw ar bawb yng Nghymru i ymuno â diwrnod gweithredu cenedlaethol ar 25 Mehefin o’r enw’r Diwrnod Gwyrdd. Bob blwyddyn, mae’r ymgyrch hon yn annog pobl, busnesau, gwneuthurwyr penderfyniadau ac ysgolion yng Nghymru i weithredu ar gyfer coedwigoedd trofannol. Wrth i ddatgoedwigo mewn llefydd fel yr Amazon gyflymu, rydym yn gofyn i bobl godi arian, codi ymwybyddiaeth, ac ymgyrchu dros y Senedd sydd newydd ei hethol i gynyddu eu hymdrechion yn erbyn datgoedwigo trofannol ar draws y byd.

Pan fydd arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer COP26 ym mis Tachwedd eleni, dyma fydd ein cyfle olaf i weithredu ac atal tymereddau byd-eang rhag mynd dros y terfyn o 1.5°C y cytunwyd arno yng Nghytundeb Hinsawdd Paris. Mae’n rhaid i Gymru gyfrannu’n llafar yn y gynhadledd hon, ac mae ganddi lawer i’w ddangos, gan gynnwys cyfraddau ailgylchu gorau’r byd, lefelau cynhyrchu ynni adnewyddadwy uchel, buddsoddiadau enfawr mewn tyfu coed, ac ymrwymiad statudol i sicrhau bod holl benderfyniadau’r llywodraeth o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn dangos yr hyn y gall cenedl fechan ei gwneud pan fydd pobl a llunwyr polisi wedi ymrwymo i’r amgylchedd, a gobeithio y byddwn yn cyflwyno’r neges hon i arweinwyr byd-eang tra’n dyblu ein gweithredoedd gartref.

Mae’n rhaid inni gofio hefyd, nad yw Cymru ei hun yn rhydd rhag effeithiau codiadau yn y tymheredd byd-eang. Yn ôl Mynegai Newid Hinsawdd Nestpick, Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf agored i niwed yn y byd a allai weld codiadau yn lefelau’r môr, a’r un sydd fwyaf mewn perygl yn y DU. Heb weithredu’n effeithiol ar lefel byd-eang i leihau allyriadau carbon yn sylweddol, gallai ein prifddinas a llawer o arfordir De Cymru fod dan ddŵr erbyn 2050, posibilrwydd sydd siŵr o fod yn destun pryder i bob un ohonom.

Yn olaf, wrth i’r Senedd ddechrau trafod ei chamau nesaf ar gyfer gweithredu ar yr amgylchedd, rwy’n gobeithio y bydd yn mynd i’r afael â’r allyriadau sydd yn cael eu hachosi gan ddatgoedwigo trofannol sy’n cael eu mewnforio i Gymru bob blwyddyn. Gellid gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar gaffael cyhoeddus, mentrau bwyd cynaliadwy lleol, a ffermio sy’n ystyriol o natur. Drwy wneud yr ymrwymiad hwn a gweithio gyda gwahanol sefydliadau sy’n ymgyrchu ar y mater, gallai Cymru ddod yn ‘Genedl Dim Datgoedwigo’ gyntaf y byd, a gosod esiampl i’r byd ei dilyn.

Mae Cymru’n wlad brydferth, sydd yn cael ei gwneud yn arbennig gan ei golygfeydd trawiadol a’i hanes, yn naturiol ac yn ddynol. Wrth i mi ddechrau pennod newydd yn fy mywyd, rwy’n ei gwneud yn flaenoriaeth i wneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu’r harddwch hwn gartref ac ar draws ein planed, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Rwy’n gobeithio dod â chymaint o bobl gyda mi ar y daith hon â phosibl, a helpu Cymru i chwarae rhan enfawr mewn goresgyn yr argyfwng hinsawdd.

Dysgwch fwy am Diwrnod Gwyrdd a sut i weithredu yma.

 

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru


Tweet Rhannwch ar Facebook