Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae heddiw bob amser yn ddiwrnod pwysig i Maint Cymru ar gyfer amlygu a dathlu gwaith ein partneriaid Brodorol. Fel elusen sydd â chenhadaeth i amddiffyn coedwigoedd trofannol, rydym yn cydnabod Pobl Frodorol fel gwarcheidwaid gorau’r coedwigoedd. Rydym yn partneru ac yn dyrchafu cymunedau brodorol yn y trofannau i amddiffyn eu coedwigoedd a’u hawliau tir, yn enw cyfiawnder hinsawdd.
Y thema ar gyfer Diwrnod Pobl Frodorol y Byd 2023 yw Ieuenctid brodorol fel cynrychiolwyr newid
ar gyfer hunanbenderfyniad. Wedi’ i gymryd o wefan y Cenhedloedd Unedig, gallwn ei ddeall fel hyn:
Mae ieuenctid brodorol yn harneisio technolegau blaengar ac yn datblygu sgiliau newydd i gynnig
datrysiadau a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy, heddychlon i’n pobl a’n planed.
Ac felly, ar y diwrnod hwn rydym am eich cyflwyno i Phoebe ac Elias, dau aelod ifanc o gymuned Ogiek ac aelodau o Prosiect Datblygu Pobl Frodorol Chepkitale (CIPDP), partner hirsefydlog Maint Cymru. Yn ddiweddar, treuliodd Phoebe ac Elijah 3 mis yn y DU yn astudio cymrodoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ar gyfranogiad cymunedol mewn monitro bioamrywiaeth ac yn ystod y cyfnod hwn cawsom y pleser enfawr o gwrdd â nhw.
Mae pobl Ogiek wedi defnyddio technoleg mapio i gasglu data sy’n profi bod eu tir yn perthyn iddyn nhw, ac i ddangos mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i warchod a defnyddio bioamrywiaeth anifeiliaid a phlanhigion ar diriogaethau eu hynafiaid mewn dull cynaliadwy.
Darllenwch fwy am ein partneriaeth gyda'r Phobl Ogiek.Ar 23 Mai, roeddem mor falch o ddod â Phoebe ac Elijah draw i Uwchgynhadledd Undod Byd-eang Hub Cymru Affrica. Digwyddodd yr uwchgynhadledd yn Nhrefforest, tref yng nghymoedd De Cymru ac roedd y dirwedd fryniog yn gwneud i Phoebe ac Elias deimlo’n gartrefol iawn. Yn yr uwchgynhadledd, gwnaeth Phoebe gyflwyniad ar hawliau tir a’r materion sy’n wynebu menywod a chymunedau brodorol. O fewn tiriogaethau Brodorol, mae tir yn gyd-eiddo, yn wahanol i weddill Kenya lle nad oes gan fenywod hawl i brynu neu etifeddu tir.
Menywod yn chwarae rhan hanfodol mewn gweithgareddau mapio o fewn tiriogaeth Ogiek. Diolch i gefnogaeth Maint Cymru, mae menywod Ogiek wedi mapio’r planhigion meddyginiaethol sydd i’w cael ar eu tir sydd nid yn unig yn effeithio’n uniongyrchol ar eu bywoliaeth ond hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth ac arferion hanfodol diwylliant Ogiek a’r dirwedd yn cael eu cadw.
Gweler sut mae’r Ogiek yn bwriadu dathlu Diwrnod Pobl Frodorol y Byd yma
Cyfrannwch yma a helpwch ni i gefnogi’r bobl Ogiek ar Ddiwrnod Brodorol y Byd.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd