Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Rydych chi’n gallu neillteuo gweithdai ysgolion cynradd nawr. Mae gennym leoedd cyfyngedig iawn ar gael ar gyfer ein gweithdai rhad ac am ddim gwych ar goedwigoedd trofannol a newid hinsawdd.
I archebu gweithdy am ddim yn eich ysgol ewch i: https://sizeofwales.org.uk/cy/archebion/
I archwilio ein hamrywiaeth eang o wersi ac adnoddau ewch i: https://sizeofwales.org.uk/cy/adnoddau-addysg/
Beth allwch chi ei ddisgwyl o weithdy Maint Cymru i ysgolion cynradd?
Disgwyliwch yr annisgwyl! Un munud, gallai eich dosbarth fod ar daith ddychmygol i’r Amazon, y funud nesaf, gallant fod yn defnyddio eu synhwyrau i ddarganfod pa bethau bob dydd sy’n achosi datgoedwigo. Mae ein tîm talentog o swyddogion allgymorth addysg yn ymweld ag ysgolion ar draws Cymru gyfan i addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc ar y pynciau coedwigoedd trofannol a newid hinsawdd. Mae ein gweithdai am ddim yn ddifyr, yn rhyngweithiol, ac yn ffordd wych o ddod â rhyfeddodau’r goedwig law i mewn i’ch ysgol.
Yn ein gweithdai ar gyfer ein disgyblion ieuengaf, rydym yn mynd â nhw ar daith gyffrous i’r goedwig law. Maen nhw’n darganfod pam fod coed trofannol mor bwysig, ac yn cwrdd â chreaduriaid anhygoel ar hyd y ffordd.
Yma, mae plant yn esgus bod yn fangolinod, ac yn defnyddio eu tafodau hir (gwialenni pysgota magnetig) i bysgota am ddermitiaid!
Maen nhw’n dysgu pam bod eliffantod coedwig yn cael eu hadnabod fel “garddwyr y goedwig”, ac yn defnyddio eu sgiliau ditectif i geisio dod o hyd i Elon yr eliffant. Maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n agos pan maen nhw’n darganfod ei “baw”, ac yn cael hwyl fawr yn chwilio am yr hadau ynddo!
Rydym yn edrych ar y fioamrywiaeth mewn coedwigoedd glaw, ac yn adeiladu ein nythod ein hunain yn union fel mae orangwtaniaid yn ei wneud! Mae Tim Tom yr orangwtan yn helpu’r plant i ddysgu am effaith olew palmwydd anghynaliadwy, a sut i wneud eu hysgol yn fwy cyfeillgar i goedwigoedd.
Gyda PS3, rydym yn chwarae gemau rhyngweithiol i helpu disgyblion i ddeall pam mae ein hinsawdd yn newid. Maen nhw’n dod yn dditectifs datgoedwigo, yn darganfod pa nwyddau sy’n achosi datgoedwigo, ac yn penderfynu ar y camau cadarnhaol i’w cymryd.
Yn ein gweithdy “Gwarcheidwaid y Goedwig”, mae plant yn dysgu pa mor gynhenid yw gwir warcheidwaid coedwigoedd y byd. Maen nhw’n dod i wybod am y Guarani, sef y grŵp mwyaf o Bobl Frodorol yn America Ladin. Coedwig yr Iwerydd yw eu cartref, ac mae o dan fygythiad oherwydd ffermio soi.
Meddai’r ysgolion:
“Gweithdy hollol wych. Roedd y gweithgareddau wedi’u cynllunio’n dda ac yn ddiddorol. Fe wnaeth y plant (a’r staff) fwynhau’r bore yn fawr. Diolch yn fawr!”
“Addysgiadol iawn. Roedd plant yn ymgysylltu ac yn barod i ofyn ac ateb cwestiynau. Roedd atebion a barn pob plentyn yn cael eu gwerthfawrogi ac roeddent yn cael eu canmol. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r anifeiliaid a’r gweithgareddau – yn enwedig yn astudio’r baw eliffant! Buaswn yn sicr yn ei argymell.”
“Mae’r adnoddau ar eich gwefan yn wych – mae digon o ddewis, ac maen nhw’n addas i bob oedran. Fe wnaethon ni ddefnyddio llawer o’r adnoddau… Roedd cael adnoddau Cymraeg nad oedd angen eu cyfieithu yn fonws enfawr.”
I fwcio gweithdy am ddim yn eich ysgol, ewch i: https://sizeofwales.org.uk/cy/archebion/
I archwilio ein hamrywiaeth eang o wersi ac adnoddau, ewch i: https://sizeofwales.org.uk/cy/adnoddau-addysg/
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd