Manteision gwenyn a choed: Tair stori o Mbale

Posted on

Gan Jake MacMillan, Joanita Mbabazi, ac Anna Harris

Wrth i filiynau o goed gael eu plannu bob blwyddyn ym Mbale, mae’r gymuned leol yn mwynhau hinsawdd fwy sefydlog. Ond mae’r coed yn darparu dulliau cynaliadwy o gefnogi bywoliaeth leol yn yr ardal hefyd.

Yn ogystal â phlannu coed, mae Rhaglen Plannu Coed Mbale yn adeiladu ac yn cynnal cychod gwenyn i hyrwyddo opsiynau bywoliaeth amgen. Mae’r rhaglen yn rhedeg rhaglen addysg hefyd, i sicrhau y gall gwenynwyr barhau i wneud y gwaith hwn yn annibynnol ymhell i’r dyfodol.

Mae’r fenter hon diolch i Fenter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), Corff Anllywodraethol yn Uganda, sy’n cydlynu ac yn cyflawni llawer o waith y rhaglen plannu coed ym Mbale, mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol.

Farmers being taught how to harvest honey
Llun: Ffermwyr yn cael eu dysgu sut i gynaeafu mêl (Credyd: Godmercy Kamende, METGE)

Mae METGE yn cefnogi pobl leol i gynhyrchu a chynaeafu mêl organig, o ansawdd, propolis (sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion meddyginiaethol), a chwyr. Mae’r cynnyrch hyn naill ai’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd lleol, neu’n cael eu defnyddio i greu gwaith celf. Mae hyn yn darparu ffynhonnell incwm hyfyw a chynaliadwy newydd, ac yn lleihau gorfod dibynnu ar weithgareddau sy’n achosi datgoedwigo, fel torri coed, a hyrwyddo’r newid i economi fwy cynaliadwy.

Dewch i gyfarfod Charles Wabumba
Llun: Charles Wabumba ar lethrau Mount Elgon
Llun: Charles Wabumba ar lethrau Mount Elgon (Credyd: Anna Harris, Maint Cymru)

Mae Charles Wabumba yn ffermwr yn ardal Bududa ger Mbale. Nid nepell o’i gartref a’i dir fferm, mae tirlithriad wedi chwalu darn o dir drwy’r gymuned. Mae’r tirlithriadau sy’n digwydd yn aml ym Mbale yn tanlinellu’r angen i blannu mwy o goed yn yr ardaloedd o amgylch Mount Elgon, i gynyddu sefydlogrwydd y pridd ac i gadw’r maetholion sydd ynddo.

Cyn hynny, roedd Charles yn wenynwr ym Mharc Cenedlaethol Mount Elgon, ond ers i’r rhaglen plannu coed ddod i Mbale, mae’n plannu eginblanhigion coed ar ei dir. Erbyn hyn, mae ganddo gychod gwenyn mewn llawer o’i goed, sy’n arwain at y broses peillio, i gefnogi’r coed i dyfu ac i greu ochrau bryniau mwy sefydlog.

Ar ôl elwa’n fawr o Raglen Plannu Coed Mbale, meddai Charles:

Rwy’n gwerthfawrogi chi a Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu’r prosiect plannu coed hwn, sydd wedi agor fy llygaid go iawn mewn perthynas â’r amgylchedd… Dwi’n caru chi’r Cymry gymaint!

Bee Hives on Charles’ farm
Llun: Cychod Gwenyn ar fferm Charles:“Mae gen i lawer o gychod coed wedi’u plannu yn y coed hyn, hefyd ym mhob un o fy nghoed i.”
Taith cadw gwenyn Gidudu Ismail

Awr i’r gogledd o fferm Charles ym mhentref Bumayose, mae’r gwenynwr lleol Gidudu Ismail wedi bod yn ffermio ers yn 12 oed. Ni allai fforddio ffioedd ysgol, felly dechreuodd gadw gwenyn yn lle hynny. Ers hynny, mae wedi bod ar daith wych; enillodd tua £12 wrth gynaeafu am y tro cyntaf, a £400 yn 2019 ar ôl iddo ychwanegu mwy o gychod gwenyn a gwella ei sgiliau.

Llun: Gidudu Ismail yn hyfforddi eraill i greu cwch gwenyn
Llun: Gidudu Ismail yn hyfforddi eraill i greu cwch gwenyn (Credyd: Godmercy Kamende, METGE)

Roedd Ismail yn cael trafferth yn coloneiddio’r cychod gwenyn gyda phoblogaethau gwenyn. Fodd bynnag, ar ôl derbyn hyfforddiant gan METGE, mae bellach yn coloneiddio 90% ohonynt. Mae wedi cael offer hanfodol fel siwtiau gwenyn ac offer cynaeafu. Mae Ismail yn bwriadu parhau â’r daith hon:

Rwy’n bwriadu plannu mwy o goed sydd yn cael eu darparu gan METGE, i gynyddu’r neithdar a’r paill ar gyfer fy ngwenyn

Mwy na dim ond mêl
Anyango Aida and Masaba Florence with products made with beeswax.
Anyango Aida a Masaba Florence gyda chynnyrch sydd wedi cael eu gwneud o gwyr.
(Credyd: Kalaz Media)

Ym mhentref fechan Nambasai, nid mêl yw’r unig gynnyrch mae gwenyn yn helpu i’w gynhyrchu. Mae Masaba Florence yn creu celf a chrefft, fel blancedi, lle mae cwyr gwenyn yn cael ei ddefnyddio yn y broses tie-die i’w gwneud yn fwy hawdd eu gwerthu. Mae’r cynnyrch hyn yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd lleol ac yn cefnogi Florence a’i theulu yn ariannol.

Mae stori Florence yn enghraifft o sut mae cadw gwenyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi bywoliaeth menywod. Mae Anyango Aida o Grŵp Cadw Gwenyn Kolonyi gerllaw, yn gobeithio defnyddio’r coed i gynyddu’r manteision mae gwenyn yn eu cyflwyno:

Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y gallwn gael cychod gwenyn yn yr holl goedwigoedd hyn. Tua 1000, dyna yw ein targed.

Dysgwch fwy am sut mae menywod Mbale yn elwa o gwyr gwenyn a propolis.

Mae’r prosiect cadw gwenyn wedi helpu pobl leol i ffynnu, drwy dyfu mwy o ffrwythau a llysiau, sefydlogi ochrau bryniau, creu gwaith celf, a chynhyrchu mêl. Mae plannu coed yn cynnig nifer o fanteision, ond yn bwysicaf oll, mae’n creu ecosystem iach i gynnal poblogaeth leol am genedlaethau lawer i ddod.

I ddysgu mwy am Raglen Plannu Coed Mbale a chefnogi ei gwaith, ewch i’r dudalen hon a rhoi arian.

 

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru


Tweet Rhannwch ar Facebook