Mae Maint Cymru yn falch o gyhoeddi manylion dau grant newydd gan yr Honnold Foundation a’r Co-op Foundation, a fydd yn cefnogi gwaith yn yr Amazon ym Mheriw ac yng Nghymru.
Honnold Foundation

Mae Maint Cymru yn un o 14 sefydliad sydd wedi derbyn grant newydd gan yr Honnold Foundation. Bydd y grant yn cefnogi Cenedl y Wampís i adeiladu’r cwch cyntaf sydd yn cael ei bweru gan yr haul yn yr Amazon ym Mheriw.
Bydd y Wampís yn gweithio gyda Kara Solar a’r Genedl Achuar i adeiladu’r cwch 10 person, a bydd hyfforddiant yn cael ei roi i’w adeiladu a’i gynnal. Bydd paneli solar yn cael eu gosod hefyd yng nghymuned y Wampís Shinguito, i ddarparu ynni adnewyddadwy, i bweru oergelloedd ar gyfer y gymdeithas bysgota leol, ac i ddarparu pŵer i gartrefi ac ysgol.
Mae Cenedl y Wampís yn gymuned Frodorol yn yr Amazon ym Mheriw, sydd â phoblogaeth o 15,000. Mae eu tiriogaeth o dros 1.3 miliwn hectar yn hynod fioamrywiol, ac mae 98% o’r goedwig yn gyfan, er gwaethaf torri coed a chloddio. Yn 2015, fe wnaethon nhw ddatgan eu hunain yn genedl, a ffurfio llywodraeth annibynnol Frodorol gyntaf Periw.
Meddai Shapiom Noningo, Ysgrifennydd Technegol Tiriogaeth Awtonomaidd Cenedl y Wampís:
Mae’r Wampís yn parhau i ddiogelu eu tiriogaeth, eu coedwigoedd a’u hafonydd, ac yn sicrhau bod eu ffordd o fyw yn parhau. Mae defnyddio ynni’r haul ar gyfer cludo afonydd yn un o’r ffyrdd allweddol o gyflawni’r nod hwnnw.
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn ar wefan Honnold Foundation.
Co-op Foundation

Mae’r Gronfa Arloesi Carbon yn fenter newydd gyffrous gan y Co-op Foundation, sy’n cefnogi prosiectau newid yn yr hinsawdd gwerth £4.3 miliwn yn y DU ac ar draws y byd.
Mae Maint Cymru yn un o 14 sefydliad sydd wedi derbyn grant newydd, a bydd yr arian yn cefnogi ymgyrch newydd. O fis Medi 2022 ymlaen, bydd Cymunedau Dim Datgoedwigo yn helpu i rymuso cymunedau Cymru i fynd i’r afael â datgoedwigo tramor drwy gydweithredu a newid ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno systemau ffermio a bwyd mwy cynaliadwy.
Mae’r ymgyrch yn adeiladu ar waith blaenorol i droi Cymru’n Genedl Dim Datgoedwigo.
Meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, Barbara Davies-Quy:
Mae gweithredu ar ddatgoedwigo tramor yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd byd-eang ac atal yr argyfwng hinsawdd yn ei draciau.
Rydym felly’n falch iawn o gael yr arian hwn i gefnogi busnesau, ffermwyr, ysgolion, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gael y pŵer i fynd i’r afael â datgoedwigo, a gosod esiampl i wledydd eraill ei dilyn
Gallwch ddarllen mwy am y Gronfa Arloesi Carbon ar wefan y Co-op Foundation.
A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru