Mae bywyd yn well gyda choed

Posted on

Mae gan Justine Watalunga (58) ddwy erw o dir ym mhentref Bukhaukha, yn ardal Bududa, yn y bryniau islaw Parc Cenedlaethol Mount Elgon, lle mae hi’n cynhyrchu coffi Arabica gwerth uchel, yn bennaf, a matooke fel cnydau arian parod. Mae hi’n tyfu cnydau eraill hefyd fel coco, iam a ffa, ac yn cadw tair buwch ac ieir. Mae’r priddoedd yn ffrwythlon iawn yma, ond mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith, gan fod glaw yn dod yn fwyfwy annibynadwy, a chawodydd trwm o law yn achosi niwed i gnydau, a thirlithriadau. Roedd priddoedd yn mynd yn sych iawn ar adegau, ac roedd cnydau’n cael eu difrodi gan lawogydd trwm, cenllysg a gwynt.

Justine Watalunga

Roedd Justine ymhlith un o’r cyntaf yn ei phentref i gofleidio agrogoedwigaeth fel ffordd gynaliadwy o reoli ei thir, i sicrhau ei hincwm o gnydau arian parod, ac i wella ei bywoliaeth ymhellach. Mae hi’n aelod o MEACCE (Mount Elgon Agroforestry Community Cooperative Enterprise Ltd), sy’n cefnogi gwerthu cynnyrch organig Masnach Deg i farchnadoedd ar draws y byd. Mae Swyddog Prosiect lleol MEACCE, sef Victor Mandu, wedi helpu Justine a ffermwyr lleol eraill i blannu a thyfu coed. Mae METGE (Mount Elgon Tree Growing Enterprise Ltd) yn cefnogi’r rôl hon, yn ogystal â darparu planhigion am ddim.

Victor and Justine (canol), yn cael eu cysgodi gan goeden Gwafa wedi’i phlannu yn y mân-ddaliad.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Justine wedi plannu 77 o goed, ac mae hi’n cydnabod y manteision niferus y gall coed eu cynnig. Mae canopïau coed wedi’u plannu yn darparu cysgod mawr ei angen rhag glaw a gwynt. Mae cynnyrch coffi a matooke wedi gwella ei hincwm. Mae’r coed yn darparu cysgod gwerthfawr i’w gwartheg hefyd. Mae Justine wedi torri ei choeden gyntaf i lawr yn ddiweddar er mwyn darparu pren ar gyfer adeiladu to ar yr estyniad i’w thŷ, i’w ddefnyddio fel gwesty, prosiect mae hi wedi gallu ei fforddio wrth iddi dyfu ei phren ei hun. Mae coed eraill yn cael eu gwerthu fel polau adeiladu ar gyfer adeiladu tai traddodiadol lleol. Mae pob rhan o’r goeden yn cael ei defnyddio, gyda changhennau ochr yn cael eu defnyddio fel tanwydd pren ar gyfer stofiau coginio gartref a hefyd, yn yr ysgol breifat fach a sefydlodd yn y pentref yn 2002, ac sydd bellach hefyd, yn addysgu ac yn bwydo plant amddifaid lleol y lladdwyd eu rhieni yn dilyn tirlithriad dinistriol yn 2018.

Plannwyd coed ffrwythau hefyd, fel jacffrwyth, mangos, gwafa ac afocado ar hyd ffiniau ac o fewn y tir o amgylch y tŷ, ac mae ffrwythau’n tyfu ar y rhain yn barod. Mae’r ffrwythau sydd ddim yn cael eu bwyta gan y teulu yn cael eu gwerthu’n lleol. Mae Justine yn hapus hefyd, i blant ysgol lleol helpu eu hunain wrth iddynt gerdded i ysgol gyfagos y llywodraeth.

Nid yw meithrin y coed wedi’u plannu yn broblem i Justine; gellir paratoi’r tir ar gyfer plannu a chwynnu coed ar yr un adeg ag ar gyfer cnydau eraill.  Er mwyn i dyfu coed fod yn gynaliadwy, mae hi’n cydnabod hefyd, bod yn rhaid iddi gael rhaglen o ailblannu, felly ar gyfer pob coeden mae hi’n torri lawr, mae hi’n plannu pum eginblanhigyn arall.

“Mae tyfu coed wedi newid fy mywyd. Mae wedi fy ngalluogi i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n haws cael pren i’w ddefnyddio gartref, ac mae gennyf incwm hefyd ar gyfer gwerthu coed. Nid yn unig mae wedi newid fy mywyd ond bydd hefyd, yn helpu’r gymuned leol. Bydd pobl yn dod i aros yn fy ngwesty ac yn gwario arian yn y pentref. Mae bywyd yn well, ac mae’n haws i mi roi fy mhlant drwy’r ysgol, gan y gallaf dalu eu ffioedd ysgol yn hawdd erbyn hyn.”

Yn ogystal â’i chynllun i agor gwesty, mae Justine yn bwriadu prynu mochyn i’w fridio hefyd.

Mae coed agrogoedwigaeth yn darparu cysgod ar gyfer gwartheg ac ieir

Tweet Rhannwch ar Facebook