Mae’r Diwrnod Gwyrdd yn ôl! Eleni, rydym yn dod â phobl ar draws Cymru at ei gilydd i weithredu ar lawr gwlad ar ddatgoedwigo tramor.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei gynnal ar 24 Mehefin 2022, a bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos honno. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth am ddatgoedwigo dramor, a chodi arian i’r cymunedau mae’n effeithio arnynt.

Pam gweithredu?

Bob blwyddyn, mae’r blaned yn colli tua deuddeg miliwn hectar o goedwig drofannol – chwe gwaith maint Cymru! Yn 2021, roedd hyn yn cyfateb i golli 10 cae pêl-droed o goedwig bob munud!

Yng Nghymru, mae llond llaw o gynhyrchion bob dydd, fel cig eidion wedi’i fewnforio, cyw iâr wedi’i fwydo â soi, olew palmwydd, coffi a choco yn sbarduno datgoedwigo.

Gallwch ddysgu mwy am hyn yn ein hadroddiad Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang.

Mae’r Diwrnod Gwyrdd yn gyfle i sefyll gyda Phobl Frodorol i ddiogelu coedwigoedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Sut allwch chi gymryd rhan?
  • Codi arian: Gwisgwch wyrdd, trefnwch fore coffi Masnach Deg neu rhowch arian ar-lein.
  • Codi ymwybyddiaeth: Trefnwch gwis, defnyddiwch ein hadnoddau addysg a rhannwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodGwyrdd22
  • Gweithredu: Cymerwch gamau i ddiogelu coedwigoedd a dileu datgoedwigo o’ch deiet. Ysgrifennwch at eich cyngor lleol, a gofynnwch iddyn nhw dynnu datgoedwigo oddi ar fwydlenni’r ysgol.

Bydd eich rhoddion yn cael effaith enfawr ar gymunedau mewn lleoedd fel Basn y Congo ac yr Amazon ym Mrasil. Bydd pob punt a godir yr wythnos hon yn cael ei chyfateb, sy’n golygu y bydd eich gweithgareddau codi arian yn cael dwbl yr effaith!

Fel rhan o’r Diwrnod Gwyrdd, byddwn yn cynnal wythnos o weithgareddau i ysbrydoli pobl i weithredu.

Dydd Llun: Ceisiwch wybodaeth

  • Dysgwch am y cynnyrch sy’n achosi datgoedwigo drwy ddarllen ein Cardiau nwyddau sy’n risg i goedwigoedd.
  • Helpwch ni i ledaenu’r gair ynghylch y Diwrnod Gwyrdd, drwy rannu ein hymgyrch fideo yn defnyddio’r hashnod #GoGreenDay22 / #DiwrnodGwyrdd22.

Dydd Mawrth: Ceisiwch ysbrydoliaeth

Dydd Mercher: Dathlu Diwrnod Coedwigoedd Glaw y Byd

  • Dewch i gwrdd â’r Wampís yn ein fideo newydd am ddatgoedwigo, a sut y gall pob un ohonom helpu.
  • Dysgwch am gynllun brecwast y Wampís, a dyluniwch eich pryd bwyd cyfeillgar i goedwigoedd eich hun.
  • Deffrowch, Ymegnïwch a Gweddnewidiwch, drwy diwnio mewn i’r ŵyl Films for the Forest

Dydd Iau: Gweithredu

  • Ysgrifennwch at eich cyngor ynghylch gwneud prydau ysgol yn gyfeillgar i goedwigoedd.

Dydd Gwener: Diwrnod Gwyrdd!

  • Gwisgwch wyrdd a chodi arian i gymunedau sy’n mynd i’r afael â datgoedwigo. Bydd pob rhodd yn cael ei ddyblu!
  • Ysgolion – cymerwch ran yn ein cwis Coedwig glaw gyda’r chwedlonol, Nigel! (Cofrestrwch yma)
  • Postiwch luniau a fideos o’ch gweithgareddau ar Twitter, a’n tagio @SizeofWales.
Bydd y gyfres hon o adnoddau yn eich helpu i egluro pam bod coedwigoedd trofannol mor bwysig, pam bod datgoedwigo’n digwydd, a beth allwch chi ei wneud i helpu yn eich ysgol.

Darllenwch y canllaw hwn yn gyntaf ar sut i ddefnyddio’r adnoddau.

Elon yr Eliffant

Stori syml sy’n cyflwyno’r broblem datgoedwigo.

Lawrlwytho

Helpwch i adnodd y coedwigoedd glaw gydag Elon yr Eliffant

Powerpoint sy’n esbonio pam fod coedwigoedd glaw yn bwysig, un rheswm pam maen nhw’n cael eu dinistrio, a beth y gallwn ei wneud i helpu.

Lawrlwytho

Cardiau nwyddau sy’n risg i goedwigoedd

Cyfres o gardiau sy’n egluro’r risgiau o wahanol nwyddau sy’n risg i goedwigoedd

Lawrlwytho

Ditectifs Datgoedwigo 1

Powerpoint sy’n esbonio sut y gall tyfu olew palmwydd achosi datgoedwigo.

Lawrlwytho

Ditectifs Datgoedwigo 2

Powerpoint sy’n archwilio nwyddau eraill sy’n achosi datgoedwigo, gan gynnwys cig eidion a soi.

Lawrlwytho

Cwis: Gwiriwr prydau sy’n gyfeillgar i goedwigoedd

Cwis sy’n gofyn cyfres o gwestiynau i benderfynu pa mor gyfeillgar i goedwigoedd (neu beidio) yw pryd ysgol.

Ar gael yma

Dyluniwch eich pryd eich hun sy’n gyfeillgar i goedwigoedd

Powerpoint sy’n ailedrych ar nwyddau sy’n risg i goedwigoedd ac sy’n defnyddio enghraifft cynllun brecwast y Wampis i ysbrydoli.

Lawrlwytho

Ysgrifennwch at eich cyngor lleol

Llofnodwch ein llythyr at eich cyngor lleol i’w hannog i ddod o hyd i fwydydd sydd ddim yn achosi datgoedwigo.

Lawrlwytho

Mae Maint Cymru yn gweithio gyda chymunedau brodorol a lleol ar draws y byd i gefnogi eu hymdrechion i ddiogelu coedwigoedd. Mae’r cymunedau a’r prosiectau rydym yn eu cefnogi ar gyfer Diwrnod Gwyrdd 2022 yn cynnwys:
Yr Wampís — Amason Periw

Mae coedwig y Wampís yn yr Amazon ym Mheriw yn hanfodol i’r frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae diwydiannau echdynnol, drwy economïau anghyfreithlon a hyd yn oed cyfreithiol, yn gweithredu heb Ganiatâd Am Ddim, Blaenorol a Gwybodus mewn tiriogaethau brodorol sy’n achosi datgoedwigo. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi’r Wampís i fonitro’r newid yn y defnydd o’r tir, herio gweithgareddau anghyfreithlon, a chryfhau llais y gymuned.

Dysgwch fwy

Y Guarani — Coedwig yr Iwerydd

Mae’r prosiect hwn yn cefnogi’r gymuned Guarani a’u sefydliad cynrychioliadol, y Comissão Guarani Yvyrupa (CGY) i atgyfnerthu eu hawliau a diogelu eu tiriogaeth yn erbyn diraddio’r bïom, sy’n hanfodol ar gyfer bodolaeth y bobl hyn. Mae’n ceisio cryfhau arferion ysbrydol ac amaethyddol y Guarani hefyd, a hyrwyddo lleisiau menywod Brodorol.

Dysgwch fwy

Yr Ogiek — Mount Elgon

Er gwaethaf hanes profedig o gynnal eu coedwigoedd, mae cymuned Ogiek Mt Elgon, Kenya, wedi cael eu troi allan yn barhaus o’u tiroedd hynafol. Nod y prosiect hwn yw eu cefnogi i geisio cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u tiriogaeth, rhedeg ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a diogelu arferion diwylliannol traddodiadol.

Dysgwch fwy

Cymunedau ym Masn y Congo

Er gwaethaf hanes profedig o gynnal eu coedwigoedd, mae cymuned Ogiek Mt Elgon, Kenya, wedi cael eu troi allan yn barhaus o’u tiroedd hynafol. Nod y prosiect hwn yw eu cefnogi i geisio cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u tiriogaeth, rhedeg ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a diogelu arferion diwylliannol traddodiadol.

Dysgwch fwy

Yr Yanomami, Ye’kuana and Munduruku — Amason Brasil

Mae gan ranbarth Uraricoera gyfanswm o 1.2 miliwn hectar o goedwig drofannol sydd dan fygythiad o gloddio anghyfreithlon. Mae’r prosiect hwn yn hyfforddi arweinwyr ieuenctid annibynnol i ddefnyddio dronau a thabledi i dynnu lluniau cydraniad uchel. Mae’n caniatáu iddynt ddiogelu eu tiroedd yn well drwy ymgyrchoedd monitro ac eiriolaeth effeithiol.

Mwy wybodaeth dod yn fuan.

Gyda phob un o’r 272,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru ar fin cael prydau ysgol am ddim, rydym eisiau i gynghorau sicrhau nad yw hyn yn arwain at ddatgoedwigo dramor.

Gofynnwch I’ch Awdurdod Lleol i weithredu mewn tri cham hawdd

  1. Dewch o hyd eich Awdurdod Lleol a Cynghorwy trwy clicio yma.
  2. Lawrlwythwch ein llythyr templed isod ac ychwanegwch eich barn
  3. E-bostiwch neu anfon llythyr at eich Cynghorwyr
Lawrlwytho templed llythyr

Mae gennym ddau fersiwn o’r llythyr templed: Un i oedolion ac un i ysgolion.

Ffeithiau am ôl troed coedwigoedd trofannol Cymru

Mae 73 y cant o’r holl ddatgoedwigo trofannol yn cael ei achosi drwy gynhyrchu dim ond llond llaw o nwyddau amaethyddol – mae’r rhain yn gynnyrch rydym yn eu prynu, eu defnyddio a’u bwyta yng Nghymru bob dydd.

  • Mae angen ardal sy’n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru i dyfu mewnforion i Gymru o goco, olew palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soi, pren, papur a mwydion bob blwyddyn.
  • Mae tri deg y cant o’r mewnforion hyn yn dod o wledydd sydd yn cael eu hystyried yn risg uchel neu uchel iawn ar gyfer datgoedwigo, newid cynefinoedd a materion cymdeithasol, fel llafur gorfodol neu lafur plant.
  • Mae da byw o Gymru yn bwyta:
    • Bron i 80% o soi sydd yn cael ei fewnforio i Gymru ar gyfer porthiant da byw
    • Dros 50% o olew palmwydd sydd yn cael ei fewnforio i Gymru ar gyfer porthiant da byw
  • Wales consumes more corned beef compared to the UK average meaning Wales has a higher proportion of its beef land footprint in Brazil. Mae Cymru’n bwyta mwy o gorn-bîff o’i gymharu â chyfartaledd y DU, sy’n golygu bod gan Gymru gyfran uwch o’i hôl troed tir eidion ym Mrasil.

I ddysgu mwy, darllenwch adroddiad Maint Cymru a WWF Cymru – Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang