Cyn uwchgynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 ym mis Tachwedd, bydd Maint Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar-lein ar 1 Mawrth, sef Dydd Gŵyl Dewi, a fydd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y digwyddiad, a fydd yn cael ei agor gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac yn cael ei gyflwyno gan y cyflwynydd teledu, Iolo Williams, yn canolbwyntio ar ymdrechion presennol Cymru i ddod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad gan Brosiect Coed Mbale a lansio fideo am ei waith a’i nod o blannu 25 miliwn o goed yn Nwyrain Uganda i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bydd Cyfarwyddwr Maint Cymru Nicola Pulman yn ymuno â’r panel hefyd, i drafod gwaith y sefydliad o gysylltu Cymru â chymunedau sydd ar reng flaen yr argyfwng newid yn yr hinsawdd i greu effaith go iawn.
Gwybodaeth digwyddiad
Cymru a’r Byd: Hau hadau llwyddiant ar gyfer COP26
1 Mawrth 2021, 13:00-15:00
Cofrestwch yma
Siaradwyr
Iolo Williams, Gwesteiwr. Cyflwynydd Teledu.
Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS. Prif Weinidog Cymru
Loïg Chesnais-Girard. Llywydd. Cyngor Rhanbarthol Llydaw.
Y Gwir Anrh Arglwydd Deben. Cadeirydd. UK Climate Change Committee.
Nicola Pulman. Cyfarwyddwr. Maint Cymru.
Alex Harris. Dadansoddwr Gofodol. Llywodraeth Cymru.
Erika Dawson-Davies. Pennaeth y Rhaglen Goedwig Genedlaethol. Llywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths AS. Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Leah Namugerwa. Gweithredydd Ieuenctid.