Mae gwirfoddoli gyda Maint Cymru yn gyfle gwych i weithredu ar faterion sy’n bwysig i chi, fel datgoedwigo, newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae’n ffordd ysgogol ac ymarferol hefyd o gael profiad o weithio yn y trydydd sector, yn enwedig mewn meysydd sy’n cynnwys codi arian, digwyddiadau, ymchwil, ymgyrchoedd a chyfathrebu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael llawer o interniaid a gwirfoddolwyr gwych sydd wedi chwarae rhan hanfodol yng ngwaith Maint Cymru. Er enghraifft:
- Ymunodd Katherine Crean, myfyriwr Dylunio Graffeg Met Caerdydd, â ni ar leoliad pythefnos, gyda’i ffrind ar y cwrs, Abbi-Louise Small, i’n helpu i ail-frandio ein digwyddiad codi arian blynyddol, y Diwrnod Gwyrdd. Gallwch ddarllen blog Katherine yma.
- Roedd Hannah May Williams yn gweithio gyda thîm Maint Cymru am naw mis yn helpu i ddatblygu’r wefan, a hi oedd y prif gydlynydd y tu ôl i’r Diwrnod Gwyrdd y flwyddyn honno. Gallwch ddarllen blog Hannah May yma.
Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw un sy’n awyddus i helpu gyda’n cenhadaeth ar yr adeg dyngedfennol hon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Maint Cymru, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen ymholi, a’i hanfon at [email protected].
Sylwer:
- Rydym yn dîm bach, ac nid yw bob amser yn bosibl dod o hyd i leoliad ar gyfer pob datganiad o ddiddordeb, er y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud hynny.
- Nid ydym yn gallu cynnig profiad gwaith mewn sgiliau cadwraeth ymarferol nac mewn plannu coed dramor nac yn y DU.
- Nid ydym yn gallu cynnig lleoliadau gwirfoddoli i unrhyw un dan 18 oed.