Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Plant! yn gynllun a sefydlwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2008. Ar gyfer pob plentyn a aned neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, plannir coeden yn ddathliad, gan greu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru. Mae’r Cynllun Plant! a ddarparwyd gan CNC wedi cau yn ffurfiol ar gyfer ceisiadau newydd ar ddiwedd 2023, fodd bynnag bydd cynlluniau’r dyfodol am Gynllun Plant! yng Nghymru yn cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.
Ers 2014, mae’r cynllun Plant! wedi ymrwymo i blannu coeden ychwanegol yn Uganda ar gyfer pob coeden a blannir yma yng Nghymru; mae’r agwedd hon o Gynllun Plant! yn parhau i gyflawni gan Maint Cymru.
Fel rhan o’r prosiect 10 miliwn o goed , bydd coed ffrwythau wedi’i blannu yn y gerddi cartrefi teuluol yn rhanbarth Mbale o Uganda. Bydd y coed hyn yn helpu cymunedau lleol trwy ddarparu cyflenwadau cynaliadwy o fwyd a lloches iddynt, yn ogystal â ffynhonnell incwm. Byddant hefyd yn diogelu pobl leol rhag effeithiau erydiad pridd a achosir gan ddatgoedwigo trwm yn yr ardal, a all arwain at dirlithriadau marwol.
Mae coed yn hanfodol i’r amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae coedwigoedd trofannol yn amsugno bron i un rhan o bump o’r holl ollyngiadau CO₂ a wneir gan ddyn, gan eu gwneud yn hanfodol wrth sefydlogi hinsawdd y byd. Mae plannu coed yng Nghymru ac Uganda yn hanfodol wrth helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Gyda’r coed hyn gall plant Cymru deimlo cysylltiad personol â’u hamgylchedd.
Mae’r cynllun Plant! hefyd yn cael ei gefnogi gan Adnoddau Naturiol Cymru a Choed Cadw / Coed Cadw.