Crynodeb o’r digwyddiad: Pobl Frodorol a chi

Posted on
Ar 21 Mehefin 2022, cynhaliodd Maint Cymru ddigwyddiad i drafod pwysigrwydd Pobl Frodorol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang fel rhan o’n hymgyrch Diwrnod Gwyrdd. Gallwch weld y digwyddiad llawn yma.

Mae Pobl Frodorol wedi stiwardio coedwigoedd ar draws y byd am filoedd o flynyddoedd. O ganlyniad, mae cyfraddau datgoedwigo a cholli natur mewn ardaloedd maen nhw’n eu meddiannu yn llawer is. Yn dilyn y cytundeb a wnaed gan arweinwyr y byd yn COP 26 i ddod â datgoedwigo byd-eang i ben erbyn 2030, nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o’r rôl y mae Pobl Frodorol yn ei chwarae o ran diogelu coedwigoedd, a sut y gallwn ni yng Nghymru eu cefnogi.

Fel rhan o’r panel, roeddem yn teimlo anrhydedd bod Galois Flores Pizango, Pamuka Ayatke (Is-lywydd) Llywodraeth Tiriogaethol Awtonomaidd Cenedl y Wampís wedi ymuno â ni, sydd ar hyn o bryd yn cael trafferth yn ceisio diogelu eu tiriogaeth rhag torri coed yn anghyfreithlon yn yr Amazon ym Mheriw.

Stori datgoedwigo Cymru

Ein panelwr cyntaf oedd yr addysgwr gwyddoniaeth Huw James, a ddechreuodd drwy esbonio cyd-destun colli natur a datgoedwigo yng Nghymru. Trafododd sut y mae Prydain wedi colli tua hanner ei choetir naturiol hynafol yn ystod y 100 mlynedd diwethaf oherwydd ecsbloetiaeth. Yng Nghymru, mae ecsbloetio ein hadnoddau naturiol wedi gweld gorchudd coedwig yn gostwng i 5% o’r hyn yr oedd ar un adeg, er ei fod bellach wedi codi i 15% oherwydd ymdrechion cadwraeth.

Stori Cymru yw’r stori am dir sydd wedi cael ei ecsbloetio. Weithiau gennym ni, ond yn eithaf aml gan eraill … dim ond un enghraifft o’r ecsbloetiaeth hwnnw yw ein coed — Huw James

Fe wnaeth Huw nifer o awgrymiadau ar sut y gallwn ddiogelu ac ehangu coedwigoedd yng Nghymru fel rhan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys y Senedd yn buddsoddi mewn mwy o gyllid gwyddoniaeth i fonitro cyflwr natur yng Nghymru, dysgu gan gymunedau brodorol fel Cenedl y Wampís, a chael cyfraith i sicrhau nad yw’r cynnyrch rydym yn eu mewnforio yn sbarduno datgoedwigo (darllenwch am hynny yma). Amlinellodd Huw y pwysigrwydd o blannu mwy o goed hefyd, nid gadael coedwigoedd presennol i ffynnu yn unig.

Taith hinsawdd ysgol Osbaston

Nesaf fyny oedd Shelley Tokar, Dirprwy Bennaeth ac athrawes blwyddyn 6 yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Osbaston, Trefynwy. Ymunodd ein Swyddog Allgymorth Addysg, Nicky, â Shelley, yn dilyn diwrnod o weithdai, a archwiliodd y mater o ddatgoedwigo a stori Cenedl y Wampís.

Esboniodd Shelley sut mae ei dosbarth blwyddyn 6 yn dysgu am yr argyfwng hinsawdd ac ar yr un pryd, yn datblygu ffyrdd y gallant deimlo eu bod wedi’u grymuso i fod yn rhan o’r ateb. Maen nhw wedi edrych yn benodol ar y mater pryder yn yr hinsawdd, ac wedi mabwysiadu’r mantra “Lots of smalls make a big”. Mae’r mantra hwn wedi arwain at blannu dros 200 o goed yn eu hysgol a’u hardal leol, cymryd rhan mewn ffilm ddogfen am bryder yn yr hinsawdd, a chynnal arolwg o ysgolion lleol i asesu sut mae pobl ifanc eraill yn teimlo am newid yn yr hinsawdd.

Pan rydych chi mewn sefyllfa o weithio ym myd addysg, mae cyfrifoldeb mawr ynghlwm wrth ble rydyn ni’n gadael plant. Rydym yn rhoi’r wybodaeth hon iddynt, ond ni allwn eu gadael mewn sefyllfa lle na allant wneud unrhyw beth yn ei gylch — Shelley Tokar

Fel rhan o waith Maint Cymru gyda’r ysgol, mae Shelley yn gobeithio y gall Osbaston wneud cysylltiad ystyrlon â Chenedl y Wampís i addysgu a grymuso ei disgyblion.

Cenedl y Wampís yn ymladd dros les dynoliaeth

Wrth ymuno drwy gyswllt fideo, adroddodd Galois Flores Pizango o Genedl y Wampís stori ei bobloedd a’u hymrwymiad i ddiogelu eu coedwigoedd er budd y blaned gyfan.

Mae’r Wampís wedi bodoli ac wedi stiwardio eu tiriogaeth am fwy na 7,000 o flynyddoedd. Mae eu tiriogaeth yn rhychwantu dros 1.3 miliwn hectar, ac mae’n fan poblogaidd byd-enwog ar gyfer bioamrywiaeth. Bob blwyddyn, mae eu tiriogaeth yn dal tua 57 miliwn tunnell o Garbon Deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill— i roi hynny mewn persbectif, mae Cymru’n gollwng 33 miliwn tunnell bob blwyddyn. Mae coedwig y Wampís yn storio 522 miliwn tunnell enfawr o Garbon Deuocsid yn gyffredinol hefyd.

Dyna pam rydym ni, fel Cenedl y Wampís, yn dweud wrth y byd bod angen gwrando ar ein coedwigoedd, bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud nid yn unig i ni a’n disgynyddion. Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ar gyfer y ddynoliaeth gyfan. — Galois Flores Pizango

Galwodd Galois am i arweinwyr ym Mheriw ac ar draws y byd wrando ar leisiau Pobl Frodorol. Amlinellodd ei araith y cyfraniad y mae Pobl Frodorol yn ei wneud i gadw a diogelu natur, a’i ddymuniad i weithio gyda phobl yng Nghymru i gryfhau cysylltiadau yn y frwydr yn erbyn datgoedwigo byd-eang.

Pam bod undod yn bwysig i newid yn yr hinsawdd

Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, oedd y siaradwr olaf, a phwysleisiodd bwysigrwydd cefnogi Pobl Frodorol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Esboniodd sut mae Pobl Frodorol yn meddiannu dim ond 20% o fàs tir y blaned ac eto, yn diogelu 80% o fioamrywiaeth y byd ac yn gweld lefelau sylweddol is o ddatgoedwigo o’u cymharu â chymunedau eraill. Er gwaethaf hyn, dim ond 1% o gyllid hinsawdd byd-eang maen nhw’n ei gael.

Siaradodd Barbara am ei phrofiadau o weithio gyda gwahanol grwpiau brodorol ar draws De America, a sut mae’r gwarcheidwaid coedwig hyn yn aml dan fygythiad:

Nid ydy’r arbenigwyr ar lawr gwlad yn derbyn bron dim cefnogaeth. Nid yn unig maen nhw’n cael eu hymyleiddio o drafodaethau newid yn yr hinsawdd, ond maen nhw’n aml yn wynebu bygythiadau difrifol ac yn aml, ymosodiadau ar eu bywydau.— Barbara Davies-Quy

Yn gyffrous, cyhoeddodd Barbara fanylion cyllid newydd gan Honnold Foundation a Llywodraeth Cymru hefyd, a fydd yn helpu’r Wampís i adeiladu’r ddau gwch ynni’r haul cyntaf yn yr Amazon ym Mheriw, a chefnogi’r ymdrechion i ddiogelu eu tiriogaeth rhag cael ei hecsbloetio.

Felly, beth allwch chi ei wneud?

Tynnodd Huw James sylw at bwysigrwydd dysgu gan Bobl Frodorol fel Cenedl y Wampís yn ein brwydr gyffredin yn erbyn colli natur. Roedd y cysylltiad hwn rhwng ein dwy wlad yn llinyn cyffredin drwy gydol y digwyddiad.

Mae Maint Cymru yn gwneud hyn ar hyn o bryd drwy ein hadnoddau addysgol, gan gysylltu cymunedau brodorol â llunwyr polisi yn y DU, ac yn argymell rhoi terfyn ar ddatgoedwigo wedi’i fewnforio yn ein cadwyni cyflenwi, a harneisio undod o Gymru drwy gyllid a chefnogaeth.

Gallwch chi ymuno yn yr ymdrechion hyn hefyd, a helpu i ymhelaethu ar leisiau Pobl Frodorol yn eu galwadau am ddiogelu eu tiriogaethau yn gyfreithiol, a chael mynediad at gyllid hinsawdd. Gallwn newid y pethau rydym yn eu prynu a’u bwyta yma yng Nghymru hefyd, i wneud yn siŵr nad ydym yn sbarduno datgoedwigo dramor. Drwy sefyll gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod llawer o bethau bach yn arwain at bethau mawr!

Hoffai Maint Cymru ddiolch i’n partneriaid Orchard Media am ein helpu i gyflwyno’r digwyddiad hwn.

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru


Tweet Rhannwch ar Facebook