Coedwigoedd Trofannol a Busnesau Cymru

Posted on

Sut ar y Ddaear mae Coedwigoedd Trofannol yn cael eu heffeithio gan Fusnesau Cymru, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o fusnesau Cymru yn fentrau bach a chanolig?

Efallai y bydd yn sioc i chi ddysgu bod cynhyrchu dim ond llond llaw o nwyddau yn gyfrifol am bron i dri chwarter y datgoedwigo sydd yn digwydd mewn coedwigoedd trofannol.

Y rhain ydy:

  • Cig eidion
  • Soi
  • Olew Palmwydd
  • Pren / Mwydion
  • Cacao
  • Coffi

Mae’r nwyddau hyn yn diweddu fyny yn y bwyd a’r diod rydym yn eu bwyta ac yfed yma yng Nghymru. Mae dim ond olew palmwydd yn unig yn ffurfio 50% o’r holl nwyddau sydd wedi’u pecynnu yn yr archfarchnad.[1]  Mae hyn yn creu cyswllt uniongyrchol rhwng busnesau yng Nghymru a choedwigoedd trofannol, boed hynny fel cynhyrchwyr, arlwywyr neu fanwerthwyr. Mae’n bwysig felly, bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o’r rôl sydd ganddynt o ran newid economi datgoedwigo, sy’n gyfrifol am ddegfed allyriadau carbon byd-eang. Felly sut mae’r nwyddau hyn sydd yn cael eu defnyddio gan lawer o fusnesau, yn diweddu fyny yng Nghymru a’r gadwyn gyflenwi?

Olew Palmwydd

Mae’r galw am olew palmwydd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd dychrynllyd mewn datgoedwigo mewn rhannau o De-ddwyrain Asia, yn enwedig Indonesia. Gellir ei ddarganfod mewn ystod eang o gynnyrch, sy’n amrywio o hufen iâ, menyn cnau daear neu fisgedi, i gynnyrch harddwch fel minlliw a chynnyrch cartref. Yn aml ddim yn cael ei labelu’n ‘olew palmwydd’, mae gan ei gynnyrch dros 200 o ddeilliadau sydd yn gallu bod yn anodd eu sbotio – o asid lawrig i glyserol.

Soi

Mae tua 80-90% o soi yn cael ei ddefnyddio mewn porthiant anifeiliaid. [2]  Mae hyn yn sbarduno datgoedwigo yn Ne America, yn enwedig yn yr Amazon. Mae llawer o borthiant anifeiliaid soi yn cael ei ddefnyddio mewn dofednod a ffermio porc yma yng Nghymru. Felly, drwy ddefnyddio cig sy’n cael ei fwydo ar borthiant anifeiliaid soi, rydym yn cyfrannu’n anuniongyrchol at ddatgoedwigo, heb wybod hynny.

Cig eidion

Magu gwartheg sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddatgoedwigo, yn enwedig yn America Ladin. Fodd bynnag, daw’r rhan fwyaf o gig eidion sydd yn cael ei fwyta yng Nghymru, o Gymru neu Ewrop. Serch hynny, mae’r DU yn dal i brynu gwerth £1biliwn o gig eidion sy’n gysylltiedig â datgoedwigo yn yr Amazon. [3]  Gallai hyn ddiweddu fyny mewn prydau ysbyty, prydau parod a chadwyni bwyd cyflym, ac mewn cig tun.

Gallai cyfradd y cig eidion o wledydd fel Brasil a’r Ariannin, sydd â risg datgoedwigo uchel, dyfu wrth i’r DU fynd ati i lofnodi cytundebau masnach newydd gyda gwledydd eraill ar ôl Brexit.

Coffi a Cacao

Mae clirio tir er mwyn cynhyrchu ein hoff bethau yn bryder cynyddol, wrth i’r galw byd-eang am y cynnyrch hyn gynyddu. Yn aml, ffermio graddfa fach mewn gwledydd Affricanaidd ydy hyn, sy’n tyfu symiau mwy i ateb ein galw am gaffein a siocled.

Wrth gwrs, mae sbardunwyr eraill hefyd. Mae pren, mwyngloddio a gweithgareddau eraill yn achosi datgoedwigo byd-eang, ond ein dewisiadau bwyd sy’n sbarduno’r gwaith clirio mwyaf o goedwigoedd a welwyd erioed.

Felly, beth all Busnesau Cymru ei wneud i sicrhau bod Cymru’n economi dim datgoedwigo?

Creu cadwyni cyflenwi lleol

Cydnabyddir yn gyffredinol ein bod ni’n wynebu argyfwng yn yr hinsawdd, a bod yr amser i weithredu yn rhedeg allan. Mae gan lywodraethau, cyrff y sector cyhoeddus, cwmnïau ac unigolion i gyd rôl i’w chwarae o ran lleihau ein hôl troed carbon. Hyd yn hyn, nid yw targedau carbon Cymru yn cwmpasu’r cyswllt ôl troed carbon sylweddol â’r nwyddau a’r gwasanaethau mae’n eu defnyddio, sy’n cael eu cynhyrchu dramor a’u mewnforio i’r wlad. Drwy ganolbwyntio ar allyriadau carbon wedi’u mewnforio, bydd Cymru’n gwneud cynnydd hefyd, tuag at gyrraedd nod cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Mae defnyddio cyflenwyr mor lleol a moesegol â phosibl, nid yn unig yn eich helpu i apelio at gwsmeriaid sy’n dod yn fwy ymwybodol o’u dewisiadau fel defnyddwyr, ond sydd hefyd, yn creu rhwydwaith gryf o fusnesau o Gymru sy’n cefnogi ei gilydd.

Defnyddio synnwyr busnes

Mae cwmnïau a sefydliadau’n fwyfwy agored i risgiau i’w henw da, sy’n deillio o broblemau yn eu cadwyn gyflenwi. Felly, fel busnes, drwy fod yn fwy ymwybodol o’ch effaith ar ddatgoedwigo, bydd hyn yn diogelu ac yn gwella eich enw da. Gall ymrwymiadau cynaliadwyedd gael effaith gadarnhaol ar ymgysylltu â chyflogeion a chwsmeriaid, ac mae staff yn hapusach ac yn prynu eto, neu yn aros yn y gweithle.

Yn gyffredinol, mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

Er bod cost yn aml yn cael ei nodi fel rhwystr mawr i weithredu caffael cyfrifol, nid oedd ymchwil a gynhaliwyd gan WWF yn ei chael yn afresymol o uchel i fanwerthwyr. Yn hytrach na thalu premiymau, dewisodd manwerthwyr weithio gyda chyflenwyr i helpu i amsugno rhywfaint o’r gost ychwanegol drwy drefniadau cytundebol amrywiol, a thrwy ddarparu cefnogaeth o ran adeiladu capasiti.

Bod ar y blaen o ran rheoliadau

Sefydlodd Llywodraeth y DU dasglu Global Resource Initiative annibynnol, sy’n cynnwys uwch arweinwyr busnes, cyllid, llywodraeth a chymdeithas sifil, i gyflwyno argymhellion ar sut i sicrhau bod cadwyn gyflenwi nwyddau byd-eang y DU yn gynaliadwy ac yn osgoi datgoedwigo. Cyhoeddodd y gweithlu adroddiad ym mis Mawrth eleni, yn argymell cyflwyno diwydrwydd dyladwy gorfodol i gwmnïau sy’n gosod nwyddau a chynnyrch deilliedig sy’n cyfrannu at ddatgoedwigo ar farchnad y DU. Canolbwyntiodd ar saith prif nwydd sy’n arwain at ddinistrio coedwigoedd: cig eidion a dail, cocoa, olew palmwydd, mwydion a phapur, rwber, soia a phren.  Argymhellodd hefyd, y dylai’r sector cyhoeddus helpu i arwain y newid, drwy gryfhau’r gofynion caffael cyhoeddus presennol mewn perthynas â nwyddau cynaliadwy gorfodol ar draws yr holl lywodraeth. Yn dilyn ymlaen o’r adroddiad hwn, lansiwyd ymgynghoriad gan DEFRA ar 25 Awst 2020. Gallwch weld manylion yr ymgynghoriad ar y gyfraith newydd arfaethedig yma. Bydd yn rhedeg am chwe wythnos, ac yn rhoi cyfle i chi ymateb i’r newidiadau hyn. Mae’r UE a Ffrainc yn symud i’r cyfeiriad hwn hefyd.

Bod yn ymwybodol o’r galw gan ddefnyddwyr

Mae’r argymhellion hyn yn adleisio’r momentwm ar gyfer rheolau o’r fath ymhlith y cyhoedd. Canfu arolwg You Gov a gynhaliwyd yn 2019, bod 84% yn cytuno bod angen cael cyfreithiau newydd i sicrhau nad yw’r cynnyrch sydd yn cael eu gwerthu yn cyfrannu at ddatgoedwigo byd-eang. Maen nhw eisiau i gyfreithiau ei gwneud yn haws iddynt ddewis cynnyrch moesegol a chynaliadwy.

Mae tueddiadau defnyddwyr eisoes yn newid, ac mae pandemig 2020 wedi arwain at fwy o alw i flaenoriaethu natur yn y cyfnod hwn o ddirwasgiad economaidd ac adferiad ôl-COVID.

Rhannu eich stori

Mae busnesau Cymru mewn sefyllfa wych i arwain y ffordd, yn enwedig gan fod rhwydwaith cryf s o fusnesau bach a chanolig o safon eisoes yn bodoli, a newid mewn meddylfryd defnyddwyr, gyda galw cynyddol am nwyddau o ffynonellau cynaliadwy.

Os ydych chi’n gwneud penderfyniadau busnes sy’n ymwybodol o’r amgylchedd, boed hynny am resymau personol neu fusnes, dylech hysbysebu hyn, i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid wneud pryniannau moesegol a hefyd, i ysbrydoli busnesau eraill i gefnogi tyfu economi heb ddatgoedwigo, ac i gadw coed trofannol sy’n llwglyd am garbon yn tyfu hefyd!

Bydd Maint Cymru yn datblygu pecyn cymorth i helpu busnesau i werthuso eu cadwyn gyflenwi, felly os oes gennych chi brofiad o sicrhau bod eich prosesau busnes yn ymwybodol o’r amgylchedd, cysylltwch â ni, a rhannwch eich gwersi gyda ni. Byddem wrth ein bodd yn rhannu arfer gorau gyda busnesau eraill ar draws Cymru.

Os ydych chi’n bwriadu datblygu busnes gwyrddach, mae croeso i chi gysylltu â ni ynghylch sut allwn ni gydweithio, gan gynnwys ein Haddewid Dim Datgoedwigo, a helpu i gysylltu ag arbenigwyr.


[1] https://www.theguardian.com/news/2019/feb/19/palm-oil-ingredient-biscuits-shampoo-environmental

[2] Partnerships for forests (2018) UK Roundtable on sustainable soya: baseline study 2018 [online] http://www.efeca.com/wp-content/uploads/2018/11/UK-RT-on-Sustainable-Soya-baseline-report-Oct-2018.pdf [14/02/2020)

[3] AHDB (2018) UK beef exports [online] http://beefandlamb.ahdb.org.uk/market-intelligence-news/uk-beef-exports-first-six-months-2018/ [14/02/2020]

 


Tweet Rhannwch ar Facebook