Blog: Cymru a chyfrifoldeb byd-Eang: Datgoedwigo a ni

Posted on

Gan Kevin Rahman-Daultrey, Rheolwr Polisi ac Addysg Maint Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod datgoedwigo trofannol yn cyfrif am 20% o’r holl allyriadau carbon deuocsid byd-eang i’r atmosffer? Pan fyddwch yn cymharu hyn ag allyrwyr mawr eraill, mae hon yn ystadegyn brawychus o uchel. Cymerwch hedfan er enghraifft, sy’n cyfrif am ddim ond 2.5% o allyriadau bydeang.

Ar hyn o bryd, mae’r blaned yn colli’r hyn sy’n cyfateb i un a hanner o gaeau rygbi o goedwig bob 2 eiliad, gyda dros 25 miliwn hectar o goedwig yn cael ei golli bob blwyddyn, neu 13 gwaith maint Cymru.

Yn anffodus, yng Nghymru, rydym yn cyfrannu at broblem datgoedwigo tramor mewn mannau fel yr Amazon, ac yn sbarduno allyriadau. Mae’r datgoedwigo hwn yn cael ei achosi gan lond llaw o nwyddau a chynhyrchion bob dydd rydym i gyd yn eu prynu, sy’n cynnwys:

  • Soi sydd yn cael ei ddefnyddio i fwydo’r anifeiliaid rydyn ni’n eu bwyta a’u magu yma, ynghyd â chynhyrchion anifeiliaid fel llaeth ac wyau.
  • Olew palmwydd sy’n cael ei ddefnyddio mewn 50% o nwyddau wedi’u pecynnu mewn archfarchnadoedd, fel siocled, prydau parod a hyd yn oed cynhyrchion glanhau.
  • Cig eidion o Dde America. Mae angen ardal o faint Bannau Brycheiniog bob blwyddyn dramor i bori gwartheg ar gyfer mewnforion cig eidion Cymru yn unig. Mae cyfran fawr o’r gwartheg yn cael eu magu mewn gwledydd sydd mewn perygl mawr o ddatgoedwigo.
  • Mae coco sydd yn cael ei ddefnyddio i wneud siocled hefyd yn sbarduno datgoedwigo mewn rhannau o Affrica, ac mae lefelau bwyta Cymru yn gofyn am ardal o faint Wrecsam i’w gynhyrchu.
  • Mae cynhyrchion eraill fel pren, rwber a phapur yn cyfrannu at ôl troed coedwigoedd tramor Cymru hefyd.

Heddiw, mae Cymru’n defnyddio darn o dir hanner ei maint i gynhyrchu’r nwyddau a’r cynhyrchion hyn yn unig. Os hoffech ddarllen mwy am yr ystadegau hyn a’r mater ehangach, gallwch ddarllen yr adroddiad a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan Maint Cymru, RSPB Cymru a WWF Cymru ‘Wales and Global Responsibility’.

Nid yw datgoedwigo yn sbarduno newid yn yr hinsawdd yn unig. Pan fyddwn yn colli coedwigoedd, rydym yn colli’r rhywogaethau sy’n byw ynddynt. Mae coedwigoedd trofannol yn gartref i dros 50% o rywogaethau tir ein planed, er mai dim ond tua 8% o wyneb y blaned maen nhw’n ei orchuddio.

Mae plant ar draws y byd yn wynebu cael eu gwneud yn ddigartref neu gael eu pentrefi wedi’u dinistrio, dim ond i greu nwyddau rhatach yng Nghymru a gweddill y byd Gorllewinol.

Mae dros 50 miliwn o bobl yn byw mewn coedwigoedd, ac mae eu cartrefi a’u bywydau’n cael eu bygwth a’u colli gan yr ehangu amaethyddol i goedwigoedd. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar Bobl Frodorol sy’n warcheidwaid i’n coedwigoedd gwerthfawr. Mae plant ar draws y byd yn wynebu cael eu gwneud yn ddigartref neu gael eu pentrefi wedi’u dinistrio, dim ond i greu nwyddau rhatach yng Nghymru a gweddill y byd Gorllewinol.

Y newyddion da yw y gallwn i gyd helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon. Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, ymrwymiad yn COP26, cynhadledd fyd-eang y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, i weithio tuag at wneud Cymru’n genedl dim datgoedwigo. Cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy waith Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, grŵp o Gymry ifanc sy’n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, o lobïo i lunwyr polisi’r llywodraeth i gynnal ymgyrchoedd sy’n wynebu pobl ifanc.

Rhai o’r ffyrdd y gallwch leihau eich ôl troed datgoedwigo

Gallwch helpu gartref hefyd drwy sicrhau nad ydych yn prynu nwyddau sy’n sbarduno datgoedwigo. Drwy brynu cynhyrchion a nwyddau wedi’u hardystio, a chynhyrchion sydd yn cael eu cynhyrchu yn fwy lleol, gallwn leihau ein heffaith ar goedwigoedd y byd. I wneud hyn, dyma ganllaw defnyddiol i rywfaint o gynlluniau ardystio sy’n lleihau’r risg o ddatgoedwigo.

Os hoffech ddysgu mwy am y pwnc hwn ewch i wefan Maint Cymru, lle byddwch yn dod o hyd i lu o wybodaeth ar sut y gallwch chi helpu, yn ogystal â sut i archebu sesiwn addysg am ddim i ysgolion ar goedwigoedd trofannol a datgoedwigo.

Ymddangosodd y blog hwn yn wreiddiol yng Nghylchgrawn Plant yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iddynt am ganiatáu inni ei ail-bostio.

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru


Tweet Rhannwch ar Facebook