Blog: Cwrdd â Maint Swydd Henffordd

Posted on

Mae Jeremy Bugler, Cydlynydd Maint Swydd Henffordd, yn ein cyflwyno i’r fenter gyffrous hon, ac yn trafod sut y gallwch eu helpu.

Mae ymgyrchoedd Maint Cymru i amddiffyn a chadw coedwigoedd glaw y byd yn wych. Mae Maint Cymru yn cyfateb i’r safon aur o ran amddiffyn coedwigoedd glaw, ac rydym yn cael ein hadnabod yn eang. Ond ydych chi wedi clywed am Faint Swydd Henffordd (Size of Herefordshire)?

Mae sir Sir Henffordd yn fras, tua degfed rhan o ardal Cymru – yn fach iawn o’i chymharu, ac mae’r sir yn gorwedd ar y ffin â Chymru. Mewn amseroedd normal, mae’r bobl sy’n byw yno yn croesi’n ôl ac ymlaen, yn aml bob dydd a heb wybod hynny, i fynd i’r gwaith, i siopa, ac er pleser. Mae gan lawer o bobl Sir Henffordd gyfenwau Cymreig hyd yn oed — Pritchard, Pugh, Price, Jones!

Nid oedd gan Swydd Henffordd unrhyw ymgyrch fawr i amddiffyn coedwigoedd glaw tan 2015. Newidiodd hyn pan gyfarfu fy ngwraig Sue a finnau, drwy lwc, â Heather a David Stevens mewn swper yn Sir Benfro. Dywedodd Heather, dros y cawl dwi’n meddwl, sut roedd hi wedi cael llond bol ar glywed Cymru’n cael ei defnyddio drwy adeg fel cymhariaeth ar gyfer trychinebau amgylcheddol: “y llynedd fe wnaeth Brasil dorri lawr ardal o goedwig law maint Cymru”… “Mae dymp plastig enfawr yn chwyrlïo o amgylch y Môr Tawel, ddwywaith maint Cymru”, ac yn y blaen. Fodd bynnag, roedd hi wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch, a sefydlu elusen o’r enw Maint Cymru i amddiffyn coedwigoedd glaw a throi’r metrig hwn yn rhywbeth positif.

Gan fod hyn wedi creu argraff fawr arnom, cawsom grŵp o ffrindiau gyda’i gilydd, ac fe wnaethom gytuno i greu ymgyrch debyg. Llên-ladrad, os hoffech, ond siawns, o’r math gorau. Dilynodd gyfnod o ffaffian o gwmpas, gwrthod rhai syniadau (fel dod yn elusen – rhy gymhleth), a chroesawu eraill. Gyda chymorth grant gan y Waterloo Foundation (sylfaenwyr, ie, Heather a David Stevens), aethom amdani, a dylunio a lansio gwefan, a dechreuom gasglu arian ar gyfer y Forest Peoples Programme (FPP) a Cool Earth.

Un o’r syniadau cyntaf a weithredwyd gennym oedd gan ymgynghoriaeth newid yn yr hinsawdd o’r enw Acclimatize, a awgrymodd ddylunio map rhoddion ar-lein. Drwy rannu Swydd Henffordd yn sgwariau 10 hectar, gallai pobl ‘brynu’ sgwâr, a fyddai’n cyfateb i ardal debyg yn y goedwig law. Yn wir, roedd pobl yn gallu noddi eu pentref, plwyf neu eu fferm eu hunain. Dyluniwyd y map clyfar hwn gan Ian Short o Pragsys, sydd yn byw yng Nghasnewydd.

Erbyn hynny, roeddem wedi penderfynu canolbwyntio ein hymdrechion ar un ardal o goedwig law, yng ngogledd-ddwyrain Periw, lle mae’r bobl frodorol, y Wampís, a’r Awajun yn byw. Yn wir, mae’r Wampís yn meddiannu 1.3 miliwn hectar – mwy na deg gwaith ardal Swydd Henffordd. Felly, mae’n ymddangos bod pob sgwâr o Swydd Henffordd a brynwyd yn sicr yn amddiffyn llawer mwy na 10 hectar o diriogaeth y Wampís. Yn raddol, mae map y sir yn llenwi (cliciwch yma i ddod o hyd iddo).

Fe wnaethom godi arian hefyd ar gyfer ein helusennau dewisol hefyd drwy gyfnewid dillad, trefnu cwisys a thrwy gynnal digwyddiadau eraill. Yna, yn 2017, gwnaethom rywbeth mentrus: fe wnaethom ariannu dau gefnogwr, Dan Haworth Salter a Malcolm Bell, i fynd i Periw i greu rhaglen ddogfen am ymdrechion y Wampís i amddiffyn eu coedwigoedd hynafol. Fe wnaethant gipio’r stori o ysbeilio coedwig y Wampís drwy gloddio am aur, arolygu tir am olew, a thorri coed, a dangos pobl Wampís dig a huawdl iawn. Cafodd ei ddangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli, a gellir ei wylio ar ein gwefan.

Hysbyseb ffilm Maint Swydd Henffordd

Mae’r ffilm wedi bod o gymorth mawr wrth godi arian mewn digwyddiadau, gan gynnwys un yn Henffordd, ble mynychodd un o arweinwyr y Wampís, Shapiom, a ddeffrödd y gynulleidfa gyda’i huodledd. Anfonwyd Shapiom draw i Ewrop gan y Forest Peoples Programme i fynd ar daith o amgylch ei dinasoedd mawr: Paris, Amsterdam, Llundain – ac, wrth gwrs, Henffordd.

Un siom yn ein hymdrechion i godi arian fu ceisio cael prif dirfeddianwyr y sir i gefnogi ein hymgyrch drwy noddi eu hardaloedd tir. Er gwaethaf hynny, ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd Sue wneud rhywbeth ar ein fferm ein hunain. Rhannodd un o’n caeau da yn ei hanner a thros dair erw, lansiodd gynllun i’w blannu’n llawn coed. Gellir noddi pob coeden am £20 – gyda thri chwarter ohono yn mynd i’r Forest Peoples Programme, tra’n bod ni’n cadw £5 pump i brynu coed, polion, y llochesi a’r ffensys newydd costus (sydd eu hangen ar gyfer ein problem ceirw!).

Sue, Jeremy, a’u cŵn yn plannu coed ar eu fferm.

Mewn ychydig dros flwyddyn, mae 850 o goed o amrywiaeth mawr o goed caled wedi cael eu plannu, eu hamddiffyn, eu dyfrio a’u caru. Mae saith cant o’r rhain wedi cael eu noddi, ac wedi codi mwy na £10,000 i’r Forest Peoples Programme. Mae Maint Cymru wedi bod mor hael â rhoi swm o arian cyfatebol.

Dim ond 150 o goed sydd ar ôl i’w noddi, ond mae ceisio cael pobl i noddi’r coed hyn yn anodd yn yr amseroedd COVID hwn. Os ydych chi eisiau noddi coeden, mae sawl ffordd o wneud hynny:

Mae croeso i noddwyr ymweld a hyd yn oed plannu coeden yn Woodlands Farm, Blakemere, HR2 9PY.

Nawr ar gyfer yr ymdrech olaf: Rydym wedi codi dros £70,000, ac ein targed yw £110,000. Mae gennym raglenni ar gyfer ysgolion yn barod, gyda deunyddiau am goedwigoedd glaw i’w cynnig iddynt, ynghyd â llawer o syniadau eraill. Dymunwch lwc i ni!

 

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi? Ystyriwch gyfrannu at Maint Cymru


Tweet Rhannwch ar Facebook