Bydd 26ain ‘Cynhadledd y Pleidiau’ y Cenhedloedd Unedig – sydd yn cael ei adnabod yn well fel COP – yn cael ei gynnal rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd yn Glasgow. Gydag arweinwyr y byd yn cyfarfod i adolygu’r cynnydd ar Gytundeb Paris 2016, efallai mai’r gynhadledd hon yw ein cyfle olaf i gymryd camau pendant ar yr argyfwng hinsawdd.
Mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn grŵp o bobl ifanc o bob rhan o Gymru sy’n ymgyrchwyr hinsawdd angerddol sy’n ymladd dros gyfiawnder hinsawdd. Byddant yn bresennol drwy gydol COP26 i ymhelaethu ar leisiau pobl ifanc yng Nghymru ac i ymgyrchu i arweinwyr cenedlaethol a byd-eang.
Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru’n ddyddiol drwy gydol COP26 gyda blogiau, podlediadau a fideos. Gallwch ddilyn gweithgareddau’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid ar Trydar ac Instagram hefyd.
Dysgwch bopeth am yr hyn sy’n digwydd yn COP26, a gofynnwch gwestiynau i Arweinwyr Hinsawdd Cymru, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a llawer mwy.
I fynegi diddordeb eich ysgol i gymryd rhan, cofrestrwch yma.
Shenona's Video Diary 3:
Day 3 showed me how important it is to use the opportunity I've been given to support those who truly deserve a seat at the table. It's great to get to ask/answer such important questions, and I hope you're all loving our interviews! 📢
(Part 1/2) pic.twitter.com/pjY5hWEb8G
— YCA Wales (@YCAWales) November 8, 2021
Gwyliwch rhan 2 yma.
#COP26 Video Diary 1:
Poppy and I are here to talk about our first 2 days in the COP26 Blue Zone. Watch to find out what we did, how we felt and what are hopes and plans are for the next 9 days🌎~ Shenona 🌻
(Part 1/3) pic.twitter.com/TQM03AD22s
— YCA Wales (@YCAWales) November 4, 2021
Gwyliwch fideo 2 a fideo 3 o’r cyfres hon
Podlediadau dod yn fuan