CYNNWYS Y GWASANAETHAU A’R GWEITHDAI
Mae ein gwasanaethau yn cynnig cyflwyniad sylfaenol i newid yn yr hinsawdd, ac yn archwilio pam mae ein coedwigoedd yn bwysig. Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar atebion, ac yn tynnu sylw at sut mae gan ddisgyblion Cymru’r pŵer i warchod coedwigoedd glaw gyda’u gilydd ac yn unigol; er enghraifft, newid arferion prynu. Ein nod ydy ceisio grymuso disgyblion drwy roi gwybod iddynt y gall eu camau gweithredu unigol a chyfunol greu newid positif yn y byd.
- Mae’r gwasanaeth tua 30 munud o hyd
- Rydym fel arfer yn cyflwyno dau weithdy awr o hyd
- Rydym yn gallu gweithio gyda hyd at tri dosbarth ar yr un pryd, ar yr amod bod staff yn bresennol i reoli’r dorf
Sylwer bod yr amseriadau uchod yn hyblyg. Efallai y bydd yn bosibl cynnig mwy o sesiynau i ysgolion mwy hefyd.
BARN YSGOLION
Mwynhaodd y disgyblion yn fawr, ac maen nhw wedi dysgu llawer am goedwigoedd glaw. Roedd y sesiwn yn arbennig o effeithiol o ran codi ymwybyddiaeth (gan gynnwys codi fy ymwybyddiaeth i hefyd)
Ysgol Abererch
12/01/2017
Gweithdy anhygoel, ysbrydoledig. Diolch! Roedd y plant yn frwdfrydig dros ben ac yn cymryd rhan, ac mae wedi bod yn ddechrau da i’n prosiect coedwigoedd glaw
Ysgol Gynradd Langstone
17/05/2017
AC YN GYFNEWID…
Wrth i ni roi pwyslais ar rymuso ac ar gymryd camau gweithredu positif, rydym yn gofyn i ddisgyblion greu digwyddiad codi arian syml/diwrnod o weithredu ar goedwigoedd glaw, yn gyfnewid am ymweliad. Mae disgyblion yn cael eu harwain drwy’r broses o drefnu digwyddiad yn ystod yr ymweliad, ac yn cael eu cyfeirio at adnoddau ar-lein i helpu i ddatblygu eu syniadau. Yna, maen nhw’n cael eu hannog i ddewis pa rai o’n prosiectau coedwigoedd maen nhw’n dymuno eu cefnogi. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gyflwyno rhoddion yma.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu eich gwasanaeth a’ch gweithdy am ddim, cysylltwch â’n Tîm Addysg drwy e-bostio: [email protected]